Parc Dinefwr

Oxbow lakes and River Tywi, Dinefwr Park, Carmarthenshire

Mae Parc Dinefwr, sef stad 800 erw hardd ar gyrion hen dref amaethyddol Llandeilo, yn un o’r lleoedd pwysicaf yn hanes Cymru.

Mae Parc Dinefwr yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) a dyma’r unig barcdir yng Nghymru sy’n Warchodfa Natur Genedlaethol (GNG). Mae’r Parc yn ddarlun bychan o dreftadaeth a byd natur Cymru. 
 
Mae tir y stad yn goleddfu’n raddol i lawr at gaeau gwastad gorlifdir Tywi ac mae llynnoedd bychan ar gyrion y tir gwastad yn cyfrannu at harddwch a chymeriad yr ardal.
 
Mae llu o wahanol gynefinoedd yn Ninefwr - o weirgloddiau llawn blodau i goedwigoedd trwchus, o fannau agored i goetir corsiog a dolydd gwlyb. Mae pob un ohonyn nhw’n cynnig cynefinoedd hanfodol i wahanol rywogaethau ac yn chwarae rhan bwysig yn helpu cynnal bywyd gwyllt Prydain.
 
 
" If you take a handful of the soil at Dinefwr and squeeze it in your hand, the juice that will flow from your hands is the essence of Wales."
- Wynford Vaughan Thomas

Bywyd Gwyllt Dinefwr

Mae’r stad yn nefoedd i fyd natur.
 
Yn ogystal â chynnal poblogaeth dda o rai o adar brodorol a mudol mwyaf diddorol Prydain, mae’r stad yn gartref i lawer o famaliaid swil; yn wir, gall llawer o bobl fynd drwy eu hoes heb eu gweld o gwbl - anifeiliaid fel y dyfrgi, y ffwlbart, y llygoden bengron, y danas a’r mochyn daear.
 
Mae pobl wrth eu bodd yn gwylio gwâl (neu ‘ddaear’) ein moch daear yn y goedwig gollddail. Cewch swatio mewn cuddfan bren a’u gwylio wrth iddyn nhw ddod allan yn gynnar gyda’r nos. Ry’n ni’n cynnal nosweithiau gwylio moch daear rhwng mis Mai a mis Awst. Mae’n deimlad anhygoel i fod mor agos at greaduriaid mor swil a’u gwylio’n mynd a dod ac mae gweld y rhai ifanc yn chwarae reslo yn y llecynnau agored yn olygfa fythgofiadwy.
 

Parc ceirw can erw canoloesol

Mae parc ceirw can erw ar y stad. Cafodd ei greu yn y canol oesoedd. Yma, mae dros gant o Ddanasod yn crwydro’n rhydd ac fe glywch sŵn iasol y bychod yn bugunad dros y stad yn ystod yr wythnosau cyn y tymor rhidio ym mis Hydref.
 
Fe welwch y Corvidae (teulu’r brain) yn eu helpu i baratoi at y tymor rhidio trwy bigo’r hengroen melfedaidd o gyrn enfawr y bychod.
 
Mae’r adar yn gwneud yr un peth â’n Gwartheg Gwynion; maen nhw’n pigo blew rhydd y gwartheg anarferol hyn wrth iddyn nhw fwrw’u côt aeaf. Mae gan y brid hynafol a phrin hwn gysylltiadau hanesyddol a genynnol â’r stad.
 
Mae chwedl Morwyn Llyn y Fan a hanesion Meddygon Myddfai yn cynnwys cyfeiriadau at Wartheg Gwynion fel y rhai sydd ym Mharc Dinefwr.
 

Coed hynaf Prydain

Mae rhai o goed hynaf Prydain i’w gweld yng nghoetir hynafol Dinefwr. Mae gennym dros 300 o goed derw, rhai ohonynt dros 400 oed, sy’n cynnig ecosystemau hanfodol ar gyfer gwahanol rywogaethau. Hyd yn oed pan fydd coed yn marw neu’n cwympo, dydyn ni ddim yn eu symud. Maen nhw’n cael eu gadael yn y fan a’r lle, i fod yn gynefin ar gyfer planhigion, creaduriaid a ffyngau Dinefwr.
 
Bywyd gwyllt sy’n cael blaenoriaeth bob amser. Cadwraeth yw ein prif nod wrth ffermio ac mae ein ffordd newydd o reoli gweirgloddiau yn ein gwneud yn safle unigryw o fewn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
 
Yn ystod y gwanwyn a’r haf, mae’r tir yn sbloet o liw ac yn llawn arogleuon hyfryd. Mae’r blodau gwylltion yn wledd i’r llygaid a’r trwyn. Efallai mai’r olygfa fwyaf trawiadol yw’r carped o glychau’r gog yn y gwanwyn.