
Dyma rai o’r cyfleoedd gwirfoddoli sydd ar gael gyda ni yn ardal Gŵyr
Rhywbeth i’w wneud ar y Penwythnos
Chwilio am rywbeth gwahanol i’w wneud ar Ddydd Sadwrn? Ar eich pen eich hun neu gyda’r teulu. Ymunwch â’n grŵp gwirfoddoli sy’n cwrdd ar y Sadwrn cyntaf ym mhob mis. Dewch i ddarganfod golygfeydd cyfrinachol Gŵyr wrth wneud amrywiaeth o waith cadwraeth ymarferol.
Yn ystod yr wythnos
Ar ddyddiau Mawrth, Mercher a Iau mae gwirfoddolwyr yn gweithio gyda’r ceidwad ar amrywiaeth o dasgau cadwraeth ymarferol. O lanhau’r traeth i godi waliau cerrig, o ffensio i reoli cynefin, mae sgiliau newydd i’w dysgu, pobol i gwrdd â nhw, a lleoedd newydd i ddarganfod.
Diwrnod yn y swyddfa yn yr awyr agored
Ydy’ch cwmni yn eich annog i wirfoddoli am ddiwrnod? Cymerwch ddiwrnod o’r swyddfa er mwyn dysgu gweithio fel tîm neu gymryd rhan mewn prosiect cymunedol. Mae llawer o bethau’n digwydd o hyd a gallwch chi fod yn rhan ohonyn nhw, fel clirio’r traeth lleol neu greu cynefinoedd ar gyfer pob math o fywyd gwyllt.
Digwyddiadau undydd
Dewch i helpu gyda’n digwyddiadau a’n dyddiau gweithgaredd. Oes gyda chi stori i’w hadrodd neu bwnc arbenigol? Dewch i ysbrydoli pobl eraill gyda’ch brwdfrydedd am fywyd yn yr awyr agored.
Gofalwyr Gŵyr
Ydych chi’n caru Gŵyr? Ydych chi am helpu i ofalu am y lle sy’n arbennig i chi? Beth am fod yn Warden Gwirfoddol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol? Cerddwch o amgylch yr ardal, rhowch wybod i ni beth sy’n digwydd a beth sydd angen ei wneud. Gadewch i ni weithio gyda’n gilydd i gadw
Gŵyr yn lle arbennig.
Beth allwch chi weld?
Oherwydd yr holl waith sy’n cael ei wneud gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud ymdrech i fesur pa mor effeithiol yw ein gwaith rheoli. Mae angen help arnom i gynnal arolygon o’n cynefinoedd, ein planhigion a’n bywyd gwyllt. Mae’n syndod beth allwch ddarganfod, dim ond i chi edrych yn fwy manwl.
Am wybod rhagor?
Ry’n ni’n cyhoeddi blog gwirfoddoli bob mis - cliciwch yma i ddarganfod mwy am ein gwaith.
Os oes gyda chi ddiddordeb mewn ymuno â ni, neu os hoffech wybod mwy am wirfoddoli, e-bostiwch claire.hannington@nationaltrust.org.uk os gwelwch yn dda, neu ffoniwch ni ar 01792 390636