Creu hafan newydd i fywyd gwyllt yn y Vile

Haid o linosiaid yn bwydo ar y Vile, Gŵyr

Rydyn ni'n newid ein ffordd o ffermio ar y Vile, gan reoli'r tir i fod yn gynhyrchiol ac yn garedig i fywyd gwyllt. Fel rhan o'r cynllun adfer rydyn ni'n creu gweirgloddiau newydd ac yn cyflwyno cnydau sy'n garedig i fywyd gwyllt, wrth adfer y dirwedd hynafol hon.

Creu gweirgloddiau newydd 

Roedd hi unwaith yn arfer cyffredin gan fwyafrif ffermydd y DU i gadw gweirgloddiau, neu ddolydd gwair, er mwyn darparu bwyd i'r anifeiliaid dros y gaeaf. Roedd y gweirgloddiau hyn yn llawn pob math o wahanol blanhigion a blodau fyddai'n darparu'r bwyd mwyaf naturiol i dda byw dros y gaeaf, yn ogystal â bod yn gynefinoedd gwych i fywyd gwyllt.

Mae ffermio modern bellach yn ffafrio caeau silwair, ond yn aml does ond dau neu dri o wahanol rywogaethau o blanhigion yn y caeau hyn, ac yn aml does dim un planhigyn sy'n blodeuo i'w cael ynddynt.

Drwy gael gweirgloddiau llawn blodau, gallwn ni sicrhau ffynhonnell o neithdar i wenyn, pili-palod a gwyfynod sy'n peillio'r planhigion. Mae'r gweirgloddiau hefyd yn lle gwych i fagu teulu os ydych chi'n aderyn sy'n nythu ar y ddaear, gan fod y tymor tyfu hirach a'r gwair hir yn creu cuddfan dda i famaliaid bach fel llygod y gwair a llŷg. 

Creu gweirgloddiau sy'n llawn blodau
Creu gweirgloddiau sy'n llawn blodau ar y Vile, Gŵyr

Er mwyn rhoi hwb ymlaen i'n gweirgloddiau rydyn ni wedi eu hail-hau gyda chymysgedd o hadau sy'n llawn gweiriau a blodau gwyllt o bob math. Yn syth, bydd y rhain yn darparu bwyd i wenyn ac i bili-palod. Ariannwyd y gwaith yma gan Bartneriaeth Tirwedd Gŵyr, sy'n derbyn cefnogaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Mewn ardaloedd eraill rydyn ni wedi bod yn taenu glaswellt o weirglodd sydd wedi hen sefydlu er mwyn helpu i gynyddu'r amrywiaeth o blanhigion sydd i'w cael ar draws holl ardal y Vile. 

Plannu cnydau âr sy'n gyfeillgar i fywyd gwyllt

Roedd hi wastad yn draddodiad i dyfu cnydau ar y gwahanol ddarnau o dir ar y Vile. Y dyddiau hyn, oherwydd y defnydd o beiriannau ffermio modern, mae'n dipyn o her i gael hyd i beiriannu digon bach i fynd i mewn i'r caeau hyn i gynaeafu'r cnydau.

Er mwyn sicrhau y gallem ni barhau i ffermio'r caeau cul sy'n cael eu hadfer, wnaethon ni llwyddo i gael gafael ar gynaeafydd (combein) o'r 1970au fydd yn berffaith ar gyfer y gwaith. Bydd y peiriant nid yn unig yn ein caniatáu ni i ffermio'r stribedi cul ond bydd hefyd yn gwneud bywyd yn haws i ni os fydd ein gwahanol gnydau yn dod yn barod i'w cynaeafu ar wahanol adegau.

Ein nod yw ffermio'r caeau hyn mewn ffordd sy'n gynhyrchiol, ac sydd hefyd yn eu gwneud yn well caeau ar gyfer bywyd gwyllt. Bydd y cnydau rydyn ni wedi eu dewis yn dod ag incwm i'r fferm a budd i fywyd gwyllt. Gadawyd ymyl lydan heb ei hau o amgylch y cnydau a blannwyd yn 2017 er mwy gadael lle i flodau gwyllt âr prin, sy'n arbennig o hardd. Cafodd meillion cochion eu hau o dan yr holl gnydau hefyd. Mae'r meillion yn llesol i wenyn ac i'r pili-pala, ac maen nhw hefyd yn amddiffyn y pridd wedi'r cynhaeaf.


Rheoli ein perthi

Mae ail-godi'r cloddiau o amgylch y caeau hefyd o fudd i fywyd gwyllt. Mae cloddiau a pherthi yn ffurfio coridorau i fywyd gwyllt, gan helpu creaduriaid gwyllt i lifo drwy'r caeau. Maent yn galluogi adar i nythu yn y perthi, pryfed i nythu yn y gwair hir a mamaliaid i deithio o gwmpas heb gael eu gweld gan adar ysglyfaethus. Gallan nhw hefyd newid yr hinsawdd yn ein caeau; unwaith fydd cloddiau (a pherthi yn arbennig) yn cael eu tynnu o'r caeau does yna ddim i arafu'r gwynt sy'n chwythu o'r môr. Gall y gwynt newid cymeriad y tir yn gyflym, a heb gysgod gall creaduriaid fel y pili pala a'r wenynen, sy'n ehedwyr gwannach, ddim dod o hyd i dirwedd sy'n addas ar eu cyfer.
 

Sut fyddwn ni'n gwybod ein bod ni wedi gwella'r amodau i fywyd gwyllt?

Rydyn ni wedi cynnal arolygon sylfaen ar ein holl gaeau yn cofnodi cyflwr popeth fel yr oedd. Mae'r gwaith arolygu wedi mynd â ni o dan ddaear hyd yn oed wrth i ni gynnal arolygon o'r pridd er mwyn cael dod i ddeall yn well sut i ofalu am y tir. Wrth ail-adrodd yr arolygon hyn bob blwyddyn neu ddwy bydd y data yn rhoi gwybodaeth i ni fydd yn ein helpu gyda phenderfyniadau ynglŷn â rheoli'r tir. 

Ai cynllun am un flwyddyn fydd hon?

Mae 2017 yn nodi dechrau cynllun pum mlynedd i adfer y Vile. Blwyddyn nesaf byddwn ni'n creu rhagor o gloddiau; yn plannu rhagor o gnydau; yn creu rhagor o weirgloddiau ac yn cyflwyno'r grefft o gadw gwenyn i'r Vile.