
Ry’n ni wedi gwneud gwelliannau i’r maes parcio yn Rhosili, fel ei fod yn gyfleustra mwy effeithiol i chi fel ymwelydd, ac yn estyn croeso mwy addas i’r lleoliad eiconig hwn.
O fewn y maes parcio ei hunan mae gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud i arwynebedd y maes parcio. Hefyd ychwanegwyd pwynt gwefru ar gyfer cerbydau trydan a rheseli newydd i ddal beiciau, ac wrth gwrs gwnaed yr holl waith draenio dŵr sy’n angenrheidiol, diolch i dywydd glawog Penrhyn Gŵyr.
Beth ydyn ni wedi'i wneud?
Fel rhan o’r prosiect, ry'n ni wedi ail-osod rhai o’r ffiniau traddodiadol oedd yma. Mae’r ardal hon o Benrhyn Gŵyr yn adnabyddus am ei defnydd o’r hen drefn ganoloesol o amaethu lleiniau cul o dir. Gallwch weld tystiolaeth o’r math yma o ffermio ar y Vile (yr ardal wrth ochr y maes parcio), sy’n un o’r ychydig leoedd yn y DU lle mae hyn i’w weld hyd heddiw.
Pryd ddigwyddodd y gwaith?
Cafodd y gwelliannau eu gwneud yn ystod tymor 2017.
Sut mae’n edrych erbyn hyn?
Ry'n ni'n gobeithio bod cynllun y maes parcio newydd yn cynnwys elfennau sy’n sicrhau ei fod yn cyd-weddu â’i leoliad fel bod y maes parcio'n gwau yn llyfn i’r dirwedd sydd o'i amgylch.
Sut oedd hi'n bosibl i ni wneud y gwaith?
Roedd y prosiect yma’n bosib diolch i’ch cefnogaeth chi pan y’ch chi’n ymweld â Rhosili, ac roedd hefyd wedi ei ariannu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru drwy Gynllun Cefnogi Buddsoddiad mewn Twristiaeth Croeso Cymru.
Mae’r arian sy’n cael ei godi o’r taliadau parcio’n cael ei ddefnyddio i ofalu am y lleoliad eiconig hwn, a'n mannau eraill ar benrhyn Gŵyr. Mae'n cael ei ddefnyddio i sicrhau bod y traethau yn edrych ar eu gorau, y llwybrau cerdded yn cael eu cynnal, a hefyd i wneud y mannau hyn yn hygyrch i bawb allu dod yma i weld a mwynhau'r hyn sydd gan Rosili a Gŵyr i’w cynnig.
Landscape Drawing for Rhossili car park improvements (PDF / 1.3MB) download
Landscape Design Statement for Rhossili car park improvements (PDF / 1.4MB) download
Os oes gennych fwy o gwestiynau sydd heb eu hateb yma, yna cysylltwch â ni a chroeso rhossili@nationaltrust.org.uk