Agorwyd y llwybrau hyn Ddydd Iau 22 Mawrth 2018, gyda’r lansiad yn llwyddiant mawr, ymunodd dros 50 o bobl yn y daith gerdded ac eraill mewn gwaith samplo archeolegol.
Rhannwyd gwybodaeth am y ffordd rydyn ni wedi newid ein harferion ffermio er bydd bywyd gwyllt, yn enwedig ar gyfer adar a chreaduriaid sy’n peillio’r planhigion, tra ein bod yn parhau i weithio’r caeau fel eu bod yn gynhyrchiol o ran amaeth.
Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi creu gweirgloddiau newydd, plannu cnydau âr sy’n gydnaws â bywyd gwyllt, ac wedi ailgodi cloddiau hanesyddol, nodweddion sy’n rhan bwysig o’r dirwedd hynafol hon.