Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
CymruGolygfeydd syfrdanol ar benrhyn Gŵyr
Rhosili, Swansea, SA3 1PR

Rhybudd pwysig
Ll Ma Me Ia Gw Sa Su Agored
Ar gau
Oriau agor ar gyfer 2 Mawrth 2026
Asset Opening time Morlin Gwawr - Cyfnos Maes parcio Ar agor trwy'r dyd Siop Ar gau Ceir
Ticket type Gyda Chymorth Rhodd Heb Gymorth Rhodd Hyd at 2 awr: £4.00 Dros 2 awr: £8.00 Bysiau
Ticket type Gyda Chymorth Rhodd Heb Gymorth Rhodd Hyd at 2 awr: £6.00 Dros 2 awr: £12.00 Cartrefi modur / Bysiau mini
Ticket type Gyda Chymorth Rhodd Heb Gymorth Rhodd Hyd at 2 awr: £5.00 Dros 2 awr: £10.00 Dewch yn aelod a darganfyddwch fwy na 500 o lefydd
- Ardal picnic
- Croeso i gŵn
Mae croeso i gŵn ar dennyn, byddwch yn ymwybodol o dda byw os gwelwch yn dda.
- Maes parcio
Costau’n daladwy 24 awr y dydd. Ar gyfer ceir: £4 hyd at 2 awr, £8 dros 2 awr. Ar gyfer cartrefi modur/minibysiau: £5 hyd at 2 awr, £10 dros 2 awr. Ar gyfer bysiau: £6 hyd at 2 awr, £12 dros 2 awr. Am ddim i aelodau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, sganiwch eich cardiau wrth y peiriannau Talu ac Arddangos. Ni chaniateir parcio a gwersylla dros nos yn y maes parcio nac ar y pentir ac mae gwneud hyn yn torri ein his-ddeddfau.
- Siop
Yn cynnig llu hyfryd o gofroddion lleol, crefftau artisan a nwyddau brand yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
- Toiled
Mae'r toiledau rhwng y maes parcio a siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Maes parcio yn Rhosili, tai bach hygyrch (ddim yn gysylltiedig â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol). Llwybr tarmac byr ar hyd pen y clogwyn i alluogi pawb i fwynhau’r golygfeydd, ond nid yw’n ymestyn ymhellach. Mynediad i draeth Rhosili ar hyd llwybr serth gyda grisiau.
- Grisiau/tirwedd anwastad
Ceir mynediad i draeth Rhosili drwy lwybr serth gyda grisiau.
- Lle i Newid
- Lleoedd Newid
- Mynediad ramp/llethrau
Mae mynediad ramp i’r siop Rhosili.
- Mynediad/tirwedd wastad
Mae llwybr cerdded graean byr ar hyd y clogwyn lle gallwch fwynhau'r golygfeydd.
- Parcio dynodedig
- Toiled hygyrch
- Ar y ffordd
- O Abertawe (Cy42) ewch ar yr A483 i Abertawe. Ewch ymlaen i'r A4067. Yn Black Pill, trowch ymlaen i'r B4436. Trowch i'r dde i gadw ar y B4436 ym Mhennard cyn troi i'r chwith i'r A4118. Yn Scurlage, ewch â'r B4247 i Rosili. O Abertawe (C47) cymerwch yr A483 ac yna cymerwch yr A484, trowch i'r chwith i Dregŵyr. Wrth oleuadau, ewch ar y B4295 i Lanrhidian. Yna cymerwch y B4271 a dilynwch yr arwyddion ar gyfer Reynoldston. Ewch ymlaen i'r A4118 a throwch i'r dde. Yn Scurlage, ewch â'r B4247 i Rosili.Parcio: Maes parcio'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Rhosili. Ffi yn berthnasol. Gall aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol barcio am ddim.
- Ar droed
- Mae Rhosili wedi'i leoli reit ar Lwybr Arfordir Cymru ac ar ddiwedd Ffordd Gŵyr.
- Ar y trên
- Wrth gyrraedd y platfform dren yn Abertawe a cherdded neu ddal bws i'r orsaf fysiau. Nodir llwybrau bysiau isod.
- Ar fws
- Mae gwasanaethau rheolaidd o Abertawe i Rhosili. (Dydd Llun i ddydd Sadwrn, dydd Sul (gwasanaeth yr haf yn unig). Gwasanaethau 118/119 (NAT) a 114 (Sunday First Cymru). Mae gwasanaethau ychwanegol yn cysylltu rhannau tawelach o Gŵyr â'r gwasanaeth 118 a 116 (gwasanaeth Abertawe-Gogledd Gŵyr).
- Beicio
- Cymerwch y Llwybr Beicio Cenedlaethol 04 i Killay Uchaf o Abertawe neu Tregŵyr. Oddi yno, trowch i'r A4118 i Scurlage, Ewch â'r B4247 i Rosili. Sylwch y gall ffyrdd Gŵyr fod yn brysur ac nad ydynt yn addas ar gyfer beicio teuluol.
Cynllunio eich ymweliad
Ymweld â’r Gwŷr gyda'ch ci
Dewch i ddarganfod Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ddynodedig gyntaf y DU gyda'ch frind pedair-pawen.

Uchafbwyntiau
Traeth
Mae traeth Rhosili’n dair milltir o dywod. Pan mae’r llanw ar drai fe welwch weddillion llong yr Helvetia, a ddrylliwyd yma ym 1887.
Siop
Dyma'r lle i ymweld os am ddarganfod cofroddion wedi'u crefftio'n lleol ac archwilio treftadaeth gyfoethog Penrhyn Gŵyr.
Y Vile
Fersiwn fodern o lain-ffermio canoloesol, gyda chnydau’n cael eu tyfu ar gyfer bywyd gwyllt lleol, gan gynnwys blodau haul, had llin a phabïau.
Pethau i'w gweld a'u gwneud
Ymweld â Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Ardal arbennig ar gyfer cerdded yr arfordir, gwneud campau dŵr a gwylio bywyd gwyllt. Gyda 3 milltir o dywod, mae digon o le i’r teulu cyfan chwarae yn y tywod neu hedfan barcud.

Prif lwybrau
Taith gerdded pentir Rhosili
Ewch am dro ar hyd un o glogwyni enwocaf Cymru, gyda golygfeydd ysgubol o dywod euraidd Rhosili a chreigiau calchfaen geirwon Arfordir De Gŵyr.

Taith gerdded Dyffryn Llandeilo Ferwallt
Darganfyddwch ogofâu, afonydd tanddaearol a choetir hynafol ar y llwybr heriol hwn drwy ddyffryn cudd ym Mhenrhyn Gŵyr, Cymru.

Llwybr Rhedeg Rhosili
Teimlwch y gwynt yn eich gwallt a’r tywod dan eich traed wrth i chi fwynhau’r llwybr rhedeg prydferth hwn o gwmpas Rhosili.

Cylchdaith o gwmpas y Vile, Rhosili
Crwydrwch gaeau’r Vile gyda golygfeydd o Fae Rhosili’n gefnlen berffaith. Yn fwrlwm o fywyd gwyllt ac yn enghraifft o ddull ffermio lleiniau canoloesol, maent wedi’u hadfer ac yn cael eu ffermio i greu cynefinoedd newydd.

Llwybr Cefnen Rhosili, Hillend a’r traeth
Taith gerdded heriol i bwynt uchaf Penrhyn Gŵyr cyn disgyn i draeth euraidd tair milltir o hyd. Mae siambrau claddu, gorsafoedd radar a llongddrylliadau ymysg yr uchafbwyntiau a welwch ar hyd y daith.

Cylchdaith Southgate, Hunts Bay a Phwll Du
Crwydrwch glogwyni a dyffrynnoedd coediog arfordir De Gŵyr ar y daith gerdded heriol hon. Ymysg yr uchafbwyntiau mae caer o oes yr haearn a thoreth o blanhigion prin.

Llwybr Southgate i Fae’r Tri Chlogwyn
Mwynhewch olygfeydd trawiadol dros Benrhyn Gŵyr a De Penfro ar y llwybr hwn o Southgate i Fae’r Tri Chlogwyn.

Llwybr nadroedd, morluniau a llongddrylliadau Rhosili
Dilynwch y gylchdaith hawdd hon yn Rhosili, paradwys i bawb sydd am fwynhau’r arfordir – o gerdded i syrffio neu adeiladu cestyll tywod.

Bwyta a Siopa
Siopa yn Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Bae Rhosili, Penrhyn Gŵyr, yw lleoliad un o’n siopau mwyaf arbennig. Gyda golygfeydd godidog o 3 milltir o dywod euraid, mae’n wirioneddol unigryw. Ac mae digonedd o ddanteithion lleol i’w mwynhau. Mae gennym hefyd lond y lle o eitemau defnyddiol i’ch helpu i wneud y gorau o’ch dydd.

Lleoedd i aros

Rhossili Old Rectory
Just metres from the world-famous beach at Rhosili Bay, this cottage offers a unique stay on the Gower Peninsula.

Rhossili 1 Coastguard Cottage
Dramatic sea views and cliff-top walks in all directions make this cottage a must-visit.
Digwyddiadau i ddod
Easter Adventures at Rhosili
Come and celebrate Easter with a wonderful adventure at Rhosili from 30 March-10 April.
Ynghylch Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Mae'r Hen Reithordy, bwthyn gwyliau mwyaf poblogaidd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn edrych i lawr ar fae syfrdanol Rhosili, gyda'i draeth tywodlyd tair milltir o hyd. O ben Rhosili Down, y pwynt uchaf ar benrhyn Gŵyr, gellir gweld golygfeydd o'r penrhyn yn ogystal ag ar draws y môr i Orllewin Cymru, Ynys Lundy ac arfordir gogledd Dyfnaint. Mae yna lwybr cerdded ar hyd y clogwyn glaswelltog o siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i Hen Wylfa Gwylwyr y Glannau. Os yw'r llanw allan, gall y rhai anturus yn ein plith groesi'r sarn creigiog i ynys lanw Pen Pyrod, lle gellir gweld morloi llwyd yn ymlacio ar y creigiau islaw. Mae tirwedd Gŵyr wedi ei siapio gan ffermio ers Oes y Cerrig. Mae'r Vile, yn Rhosili, yn enghraifft o system llain cae agored Ganoloesol. Gyda llawer o nodweddion archaeolegol yn Rhosili ac ar hyd arfordir de Gŵyr, gan gynnwys siambrau claddu Neolithig, carneddi o'r Oes Efydd a chaerau Oes yr Haearn, mae'n lle delfrydol i ddarganfod gweddillion ein hynafiaid.
Hanes
Hanes Rhosili ac Arfordir De Gŵyr
Tirwedd hynafol yw Rhosili ac arfordir De Gŵyr. Mae’r rhan fwyaf o ymwelwyr yn dod i fwynhau’r traeth a’r golygfeydd ysgubol, ond o dan ein traed mae tir hynafol, hanesyddol a thrysorau i’w darganfod.

Ein gwaith
Ein gwaith yn Rhosili
Dysgwch sut mae arferion ffermio hynafol wedi helpu bywyd gwyllt y Gŵyr.

Cefnogwch Ni
Gwirfoddolwch gyda ni
Rydym ni'n aml yn edrych am wirfoddolwyr newydd i ymuno a'n tîm yn Rhosili. . Cadwch olwg yma am gyfleoedd gwirfoddoli gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
