
Calan Gaeaf yng Nghymru
Yn ystod hanner tymor mis Hydref, dewch â’r teulu cyfan i ymuno â ni i ddathlu Calan Gaeaf gyda rhaglen o ddigwyddiadau hwyliog i’r teulu wedi’u hysbrydoli gan draddodiadau a chwedlau Cymru – gydag ychydig o ysbryd brawychus a bwganllyd y tymor. Gall plant gymryd rhan mewn llu o weithgareddau hwyliog, gan gynnwys crefftau, adrodd straeon, llwybrau gardd a phaentio wynebau. I’r rhai dewr, bydd creaduriaid arswydus i’w darganfod, ynghyd â theithiau llên gwerin a phrofiadau arbennig gyda’r nos. Pa bynnag oed ydych chi, dewch yn eich gwisg ffansi fwyaf trawiadol!
Beth yw Calan Gaeaf?
Mae ‘Calan’ yn golygu diwrnod cyntaf y mis. Felly, mae Calan Gaeaf yn nodi dechrau’r gaeaf ar 1 Tachwedd. Mae’n draddodiad sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn niwylliant Cymru, gan adlewyrchu ein llên gwerin, troad y tymhorau a’n treftadaeth gyfoethog. Ar Nos Galan Gaeaf, byddai cymunedau’n dod ynghyd i ymgynnull, cynnau coelcerthi ac yn dilyn hen arferion amddiffynnol a oedd, yn ôl y sôn, yn gwarchod rhag ysbrydion crwydrol a direidus. Heddiw, mae Calan Gaeaf yn cael ei ddathlu fel gŵyl hydref draddodiadol Gymreig sy’n nodi dechrau hanner tywyllaf y flwyddyn. Yn ôl y traddodiad, dyma’r adeg pan oedd y ffin rhwng byd y byw a byd yr ysbrydion yn teneuo.

Calan Gaeaf yng Ngogledd Cymru
Castell Y Waun a’r Ardd
Dathlwch Galan Gaeaf yng Nghastell y Waun rhwng 17 Hydref a 1 Tachwedd gyda llwybr hydrefol cyfeillgar i deuluoedd wedi’i ysbrydoli gan lên gwerin Cymru a thraddodiadau’r tymor. Dilynwch orsafoedd gweithgaredd rhyngweithiol drwy’r ardd, gan ddarganfod straeon a chwedlau lleol rhyfedd dan dŵr y castell canoloesol. Ar 31 Hydref, dychwelwch wedi iddi nosi am brofiad trochi newydd sbon (14+ oed) gyda chymeriadau hudolus, cyfarfyddiadau iasol a hwyl gydag ysbryd Calan Gaeaf. Anogir gwisgo ffansi, a bydd bwyd a diod ar gael o Gaffi’r Cwrt.

Neuadd a Gardd Erddig
Dewch i ddathlu Calan Gaeaf yn Erddig yr hanner tymor hwn gyda gweithgareddau i’r teulu wedi’u hysbrydoli gan lên gwerin Cymru a thraddodiadau’r tymor. Rhwng 17 Hydref a 1 Tachwedd dilynwch lwybrau thema drwy’r tŷ a’r ardd, gan ddarganfod straeon a chwedlau sy’n gysylltiedig â’r adeg pan fydd hydref yn troi’n aeaf. Mwynhewch grefftau tymhorol, addurno cerrig dymuniadau, sesiynau adrodd straeon dwyieithog a thostio malws melys. Ar 31 Hydref, bydd y dathliadau’n parhau gyda cherfio pwmpenni, paentio wynebau a mwy o hwyl i’r teulu yng nghanol lliwiau hydrefol hardd Erddig.

Castell Penrhyn a'r Ardd
Dathlwch Galan Gaeaf yng Nghastell Penrhyn rhwng 24 Hydref a 1 Tachwedd gyda thaith antur hydrefol i'r teulu cyfan wedi'i hysbrydoli gan draddodiadau cynhaeaf Cymru. Dilynwch lwybr drwy'r gerddi a'r coed, lle mae llysiau cynhaeaf enfawr wedi ymddangos. Mwynhewch weithgareddau tymhorol ac arddangosfeydd lliwgar, a dysgwch am wledd draddodiadol Stwmp Naw Rhyw. Mae digwyddiadau ychwanegol yn cynnwys gweithdy printio hydrefol gyda'r artist lleol Jŵls Williams ar 29 Hydref, a sesiynau adrodd straeon gyda Mair Tomos Ifans ar 30 a 31 Hydref.

Gardd Bodnant
Dathlwch Galan Gaeaf gyda helfa angenfilod yng Ngerddi Bodnant rhwng 24 Hydref a 8 Tachwedd. Camwch i mewn i'r Byd Arall a chadwch eich llygaid, a'ch clustiau, ar agor am fwystfilod, angenfilod a chreaduriaid ar y llwybr hwyliog ac arswydus hwn o amgylch yr ardd. Chwaraewch gemau a chwblhewch heriau i gadw'r angenfilod yn hapus. Allwch chi ddianc rhag cael eich dal gan yr Hwch Ddu Gwta, datrys pos Y Ladi Wen, neu dawelu Afanc Conwy? Dilynwch straeon yr awdur a'r darlunydd lleol Rowynn Ellis wrth ichi grwydro'r ardd a darganfod mwy am draddodiadau Cymreig Calan Gaeaf.

Plas yn Rhiw
Dewch i ddathlu Calan Gaeaf gydag antur awyr agored hwylus i’r teulu ym Mhlas yn Rhiw rhwng 24 Hydref a 1 Tachwedd (ar gau dydd Llun, Mawrth a Gwener). Dilynwch lwybr creaduriaid drwy’r gerddi a’r tiroedd, gan ddarganfod bodau dirgel wedi’u hysbrydoli gan lên gwerin Cymru ar hyd y ffordd. Cyn cychwyn ar eich taith, galwch heibio’r orsaf grefft i greu eich swyn amddiffynnol eich hun i’w gario gyda chi. Yna mentrwch i’r berllan, man diogel rhag y creaduriaid, lle cewch fwynhau gweithgareddau ymarferol wedi’u hysbrydoli gan y cynhaeaf a thraddodiadau Calan Gaeaf.

Calan Gaeaf yng nghanolbarth Cymru
Castell a Gardd Powis
Dilynwch lwybr cyfeillgar i deuluoedd drwy'r ardd ym Mhowis i chwilio am ffau'r Hwch Ddu Gwta rhwng 24 Hydref ac 1 Tachwedd. Cymerwch ofal, mae deg o Hwchod Duon Gwta yn cuddio o amgylch yr ardd, yn barod i erlid ymwelwyr diarwybod. Dilynwch y pwmpenni a gweld a allwch chi eu gweld i gyd. Ar hyd y ffordd, darganfyddwch fwy am Galan Gaeaf a hanes yr Hwch Ddu Gwta, a gwrandewch am synau ffroeni a gwichian yn dod o ffau'r creadur.

Llanerchaeron
Dewch i ddathlu Calan Gaeaf yn Llanerchaeron rhwng 21 Hydref ac 1 Tachwedd a darganfod y traddodiadau a oedd yn nodi diwedd y cynhaeaf yng Nghymru. Mwynhewch sesiynau adrodd straeon, gweithgareddau crefft a gemau i’r teulu, archwiliwch Ffest y Wrach yn y tŷ, a dysgwch am berlysiau, meddyginiaethau a defodau gwrachod Ceredigion. Casglwch gynhwysion a swynion i greu eich hud-ddiod eich hun. Ar 29, 30 a 31 Hydref, bydd teithiau gyda’r hwyr yn cynnig cipolwg ar hanesion a thrigolion y tŷ.

Calan Gaeaf yn Ne Cymru
Dinefwr
Camwch i hud a dirgelwch Calan Gaeaf yn Ninefwr rhwng 17 Hydref ac 1 Tachwedd, lle mae Tŷ Newton wedi'i drawsnewid yn brofiad arswydus llawn straeon, dychymyg a darganfod. Mentrwch i chwilio am yr Hwch Ddu Gwta islawr, cymysgwch hud-ddiodau yng Nghegin Ceridwen, gwrandewch ar straeon yn y goedwig mewnol a darganfyddwch fythau a chwedlau Cymru ledled y tŷ. Ar 28 a 30 Hydref, mae Dinefwr gyda’r hwyr yn cynnig teithiau mewn gwisgoedd a phrofiad atmosfferig gyda'r nos (12+).

Tŷ Tredegar
Dewch i ddathlu Calan Gaeaf yn Nhŷ Tredegar rhwng 24 Hydref ac 1 Tachwedd gyda rhaglen hwyliog i'r teulu wedi'i hysbrydoli gan lên gwerin a thraddodiadau Cymru. Raswch ar ffon ysgub dros y gerddi, dilynwch drywydd y Coedcernyw Pwca direidus drwy'r tŷ, a chrewch eich cymeriad gwerin eich hun o glai yn yr Orenfa. Ar 31 Hydref ac 1 Tachwedd, mwynhewch berfformiadau arbennig gan The Gentle Good (Gareth Bonello) ac Osian Meilir, sy'n dod â straeon, cerddoriaeth a symudiad Cymreig yn fyw.

Gerddi Dyffryn
Camwch i fyd hudolus y Tylwyth Teg yng Ngerddi Dyffryn rhwng 23 Hydref ac 1 Tachwedd. Dilynwch lwybr teuluol drwy'r gerddi hydrefol wrth chwilio am ddrysau tylwyth teg cudd, madarch enfawr a chorneli cyfrin lle gallai'r Tylwyth Teg fyw. Ar hyd y ffordd, mwynhewch gemau, darganfyddwch straeon chwedlonol a gadewch i ddychymyg y plant redeg yn wyllt mewn antur wedi'i hysbrydoli gan lên gwerin Cymru a hud yr hydref.

Dolaucothi
Y Calan Gaeaf hwn, darganfyddwch y llên gwerin sydd wedi’i gwehyddu drwy dirwedd Dolaucothi rhwng 28 a 31 Hydref. Teithiwch drwy fyd o fwyngloddiau hynafol, ffigurau chwedlonol a chreaduriaid dirgel, gan gynnwys Myrddin, y Pum Sant a’r Hwch Ddu Gwta. Dilynwch lwybrau trochi, datguddiwch straeon anghofiedig, cwrddwch â chymeriadau dirgel ac archwiliwch sut mae chwedlau a hanes yn cydblethu.

Profiadau gyda'r hwyr
I blant hŷn ac oedolion sy'n ddigon dewr, mae profiadau cyffrous ar ôl iddi nosi i'w mwynhau, a argymhellir ar gyfer rhai 12 oed a throsodd.
Dinefwr gyda'r hwyr
Ar 28 a 30 Hydref, camwch i mewn i Dinefwr gyda’r hwyr a phrofwch y Tŷ Tywyll ar ôl iddi nosi, wrth i straeon, cymeriadau a thraddodiadau llên gwerin Cymru ddod yn fyw o blith y cysgodion.

Gyda'r hwyr yng Nghastell y Waun
Wrth i’r tywyllwch ddisgyn, ymunwch â Chastell y Waun ar gyfer Calan Gaeaf ar 31 Hydref. Wedi’i ysbrydoli gan lên gwerin Cymru ac ysbrydion crwydrol, mae’r profiad trochi hwn ar ôl oriau agor yn addo hud, dirgelwch a pheth direidi. Mae archebu’n hanfodol.

Teithiau tywys gyda'r hwyr yn Llanerchaeron
Wrth i’r tywyllwch ddisgyn, gwahoddir ymwelwyr i gamu i mewn i’r fila a darganfod rhai o’r digwyddiadau rhyfedd, y straeon anesboniadwy a’r ymddangosiadau ysbrydol sy’n gysylltiedig â’i gorffennol. 29, 30 a 31 Hydref. Mae archebu’n hanfodol.

Ffigyrau a chwedlau Calan Gaeaf
Hwch Ddu Gwta
Mewn straeon traddodiadol, byddai plant yn ymgynnull o amgylch coelcerth ar Nos Galan Gaeaf. Wrth i'r tân ddiffodd, byddai pawb yn rhedeg adref gan ofni y byddai'r Hwch Ddu Gwta yn mynd ar eu holau neu'n dal yr unigolyn olaf i gael ei adael ar ôl.

Ladi Wen
Ffigwr ysbrydol o lên gwerin Cymru, a bortreadir fel arfer fel menyw wedi'i gwisgo'n gyfan gwbl mewn gwyn. Caiff ei henwi mewn straeon i rybuddio plant rhag ymddwyn yn wael.

Tylwyth Teg
Bodau goruwchnaturiol pwerus a oedd yn byw ochr yn ochr â bodau dynol mewn teyrnas gudd. Gallent fod yn gymwynasgar neu'n beryglus, yn dibynnu ar y ffordd y cânt eu trin.

Pwca
Twyllwr sy’n gallu newid ei siâp yn ôl chwedlau a llên gwerin Cymru. Dywedid ei fod yn mwynhau camarwain teithwyr, eu harwain ar gyfeiliorn, a chwarae triciau ar bobl ddiarwybod.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Cymru
Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

Chwedlau a llên gwerin Cymru
Dysgwch am y chwedlau sydd wedi siapio tirweddau hynafol Cymru. O darddle ein draig goch enwog yn Eryri i lyn hudol Cwm Llwch.

Diwrnodau allan i'r teulu yng Nghymru
Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.
