Cartref teuluol am 10 cenhedlaeth

Y Cyrnol William Lewis, Y Capten T. P. Lewes a J. P. Ponsonby Lewes

Am dros dair canrif roedd ystâd Llanerchaeron yn gartref i ddeg cenhedlaeth o’r un teulu. Cyfrannodd bob cenhedlaeth at ddatblygiad y stad fel y gwelwch hi heddiw – gyda thŷ gwledig nobl, llety gweision, stablau, adeiladau fferm a gardd furiog hyfryd. Mae’r cyfan wedi ei osod o fewn tirwedd hardd a chynhyrchiol.

Prynwyd Llanerchaeron yn 1634 gan Llewellyn Parry, a oedd yn gallu hawlio llinach yr holl ffordd nôl at Dywysogion Cymru. Ar y pwynt hwn roedd yr ystâd yn cynnwys tŷ fferm bach gyda 500 erw o dir, a gardd ffurfiol fechan - y gyntaf yng Nghymru, o bosib. Daliodd yr ystâd i dyfu dros y 100 mlynedd nesaf, wrth i ragor o dir gael ei brynu, ac o ganlyniad i briodas fanteisiol gydag aelod o’r teulu Lewis cyfagos yng Nghiliau Aeron.

Ail-ddylunio Llanerchaeron

Priododd y Cyrnol William Lewes ag aeres leol, sef Corbetta Williama Powell o blas Nanteos, yn 1786. Daeth Corbetta â mwy o statws cymdeithasol i’r teulu Lewes yn Llanerchaeron. Fe ddaeth hi hefyd â gwaddol mawr a oedd yn ddigon i dalu am y gwaith adnewyddu ar y ffermdy a safai yma’n barod. Cyflogwyd John Nash fel pensaer a dechreuodd y gwaith ar y tŷ yn y 1790au. Fe’i gweddnewidiwyd, dan weledigaeth Nash, o ffermdy bach i’r Fila cain sydd yma heddiw.


Etifeddodd John Lewes, mab William a Corbetta, yr ystâd pan fu farw ei dad yn 1828. Priododd John Lewes â Mary Ashby Mettam yn 1841. Yn anffodus bu farw’n weddol ifanc yn 1855, gan adael Mary ei hun yn Llanerchaeron heb blant. Parhaodd Mary i reoli’r ystâd hyd at ei marwolaeth yn 1917 yn 104. Roedd hi wedi llwyddo byw’n hirach na’r mwyafrif o  etifeddion yr ewyllys gwreiddiol. Yn y diwedd trosglwyddwyd yr ystâd i’r Capten Thomas Powell Lewes, gor-nai yr Uwchgapten John Lewis.
 

Yr oes fodern

Gwnaeth y Capten T. P. Lewes rhyw fân newidiadau cyn symud i mewn i Lanerchaeron yn 1919. Rhain oedd y newidiadau sylweddol cyntaf ers dros 120 o flynyddoedd. Creodd y Capten leoedd tân newydd mewn rhai ystafelloedd. Rhoddodd wardrobau gosod yn yr ystafelloedd gwely a chreu’r ystafell ymolchi gyntaf yn Llanerchaeron. Gwnaeth Capten Lewes ddefnydd o’r olwyn ddŵr ar yr ystâd drwy ychwanegu system drydanol o fewn y tŷ. Roedd yr olwyn ddŵr yn llwytho dau fatri mawr a osodwyd yn y tŷ i redeg goleuadau a socedau trydan. Yn ffodus, ni chafodd adeiladwaith Nash ei gyffwrdd na’i newid.


Yn ystod y cyfnod hwn roedd llawer o dai hanesyddol yn dioddef caledi economaidd. Llwyddodd Llanerchaeron oroesi’r cyfnod anodd hwn oherwydd fe werthodd y teulu Lewes rai o ffermydd a pheth o dir y stad er mwyn cynnal y staff. Pan fu farw’r Capten T. P. Lewes yn 1940, etifeddwyd Llanerchaeron gan Mr John Powell Ponsonby Lewes, ei unig fab. Bu Mr Ponsonby Lewes yn byw yma gan reoli’r ystâd yn llwyddiannus hyd at ei farwolaeth yn 1989, yn 89 oed. Gadawodd Mr Ponsonby Lewes weddill yr ystâd i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd yn cynnwys 760 erw ynghyd a’r Fila a’r fferm.