
Mae’r casgliad eclectig ac amrywiol hwn yn gymysgedd enfawr o eitemau diddorol, anarferol yn aml, a oedd yn eiddo i fenyw a oedd yr un mor ddiddorol â’i chasgliad. Dwy ystafell wely gynt yn y tŷ yn Llanerchaeron yw cartref yr amrywiaeth unigryw yma o hen bethau a hynodion, sef Casgliad Pamela Ward.
Bywyd cynnar
Ganed Pamela Muriel Ward yn 1908, yn ferch i feiolinydd cyngerdd a chyrnol yn y fyddin.
Treuliodd lawer o’i phlentyndod yn yr India lle roedd ei thad yn gweithio. Yn ei arddegau, teithiodd yn helaeth ar hyd a lled Ewrop, yn aml heb unrhyw oruchwyliaeth.
Roedd ganddi ei chyfoeth annibynnol ei hun, ni phriododd erioed ac roedd fel petai yn ymhyfrydu mewn bod yn rhydd i ddilyn ei thrywydd ei hun.
Siop Hen Bethau
Yn y 1960au, fe benderfynodd Pamela agor siop hen bethau yn Knightsbridge i werthu’r math o bethau bychain roedd hi’n hoff ohonyn nhw.
Roedd hi wedi arfer casglu pethau ers iddi brynu cofroddion ar ei theithiau cynnar, ac roedd yn tueddu i redeg ei siop fel diddordeb mwy na heb.
Yn ôl ei ffrindiau, weithiau byddai’n ymserchu gormod mewn eitemau, ac yn eu tynnu o’r siop ar y funud olaf cyn gwerthu.
Gwaddol Pamela
Yn y 1990au, wedi i’r siop hen gau ei drysau, ond â hithau yn byw mewn tŷ yn llawn o drysorau, fe benderfynodd Pamela yr hoffai i’w chasgliad fynd i ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a’i gadw mewn tŷ Sioraidd.
Wedi ei marwolaeth, fe benderfynodd yr ymddiriedolwyr mai Llanerchaeron oedd y man addas i dderbyn ei chasgliad, a gyda’r casgliad daeth yr arian o werthu ei chartref yn Llundain. Talodd hyn am roi to newydd ar Llanerchaeron ar adeg pan oedd angen dirfawr i ariannu’r gwaith adfer.
Mae dros 5000 o eitemau yn y casgliad sy’n cael eu gosod allan yn eu tro, ac yn aml fe ddefnyddiwn y cyfryngau cymdeithasol i lywio ein dewisiadau fel y gall ein cefnogwyr fod yn guraduron rhithiol i’r casgliad hynod ddiddorol a phersonol hwn.