Fferm draddodiadol

Moch yn y twlc yn Llanerchaeron, Ceredigion, Cymru

Roedd hunan-gynhaliaeth wrth wraidd Llanerchaeron pan gomisiynwyd y gwaith o gynllunio’r stad gyntaf. Mae hyn i’w weld yn nyluniad y cyrtiau ac yn benodol y cwrt gwasanaeth. Nid oedd y fferm yn eithriad ac mae’r clôs fferm wedi ei gynllunio’n berffaith i gadw a magu’r stoc a fyddai wedyn yn cyflenwi’r ystâd gyda chig eidion, llaeth, cig oen a phorc – a hefyd i storio cnydau grawn.

Yr unig fferm sy’n cael ei ffermio gan ein staff ein hunain.

Ers i’r stâd gael ei gadael i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1989, mae’r fferm wedi cael ei rheoli gan staff Llanerchaeron ac nid yw’n cael ei rhentu allan. Hon yw’r unig fferm sy’n cael ei rheoli fel hyn gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru. Mae amaethyddiaeth yn bwysig iawn i’r Ymddiriedolaeth. Ffermio yw’r prif ddefnydd tir ar draws y 200,000 hectar sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth ac mae’n elfen annatod o’n gwaith  ‘i hyrwyddo cadwraeth parhaol er lles y genedl’. Ry’n ni’n dymuno i amaethyddiaeth fod yn ddiwydiant sydd yn cyflenwi digon o fwyd iach a maethlon, yn sicrhau amgylchedd iach gyda chyfoeth o fywyd gwyllt, yn helpu gwarchod tirweddau gwerthfawr a nodweddion hanesyddol, yn cyfrannu at fywyd diwylliannol a chymdeithasol ac yn helpu darparu mynediad a gwybodaeth i’r cyhoedd. Mae’n bwysig i ni bod amaethyddiaeth yn gofalu am adnoddau fel pridd, aer a dŵr ac yn lleihau’r defnydd o adnoddau nad yw’n bosib eu hadnewyddu.

Fferm weithiol

Gyda’r holl amcanion hyn mewn cof, mae Llanerchaeron nawr yn gartref i 11 o wahanol rywogaethau o anifeiliaid fferm. Maen nhw i gyd yn fridiau traddodiadol, fel gwartheg Duon Cymreig, defaid Llanwenog a moch Cymreig. Maen nhw’n cael eu cadw, lle bo hynny’n bosib, o fewn ac o gwmpas y clôs fferm yn Llanerchaeron. Mae’r anifeiliaid yn dod â’r fferm yn fyw ac maen nhw’n helpu dangos y berthynas rhwng y tŷ, y cwrt gwasanaeth a’r fferm. Drwy gydol y flwyddyn gall ymwelwyr helpu gyda gwaith ar y fferm, o wyna i gneifio a chynaeafu cnydau ac mae cyfle bob amser i bobl ddod i gysylltiad agos gyda’n holl anifeiliaid.

Gofalu am ein hanifeiliaid a’r amgylchedd

Mae’r fferm wedi cael ei chofrestru mewn cynlluniau lles anifeiliaid megis yr ‘RSPCA Freedom Foods Scheme’ a chynllun Sicrhau Ansawdd Cynhyrchwyr Cig Oen a Chig Eidion Cymru. Mae hyn yn rhoi sicrwydd i ni, ein cwsmeriaid a’n hymwelwyr bod yr anifeiliaid yn derbyn safon uchel o ofal ac yn cael ansawdd bywyd da.

Ry’n ni’n bridio ac yn magu’n da byw mewn ffordd sy’n creu cydbwysedd rhwng cynhyrchu cig a rheoli tir ar gyfer bywyd gwyllt. Mae’r bridiau traddodiadol ar y fferm yn enwog am dyfu a phesgu’n araf, sy’n golygu bod blas arbennig ar y cig. Mae hefyd yn golygu eu bod nhw’n ddelfrydol ar gyfer pori ein cynefinoedd bywyd gwyllt, fel y parcdir hanesyddol o flaen y tŷ a’r dolydd rhwng afonydd Mydr ac Aeron. Gall cwsmeriaid lleol ac ymwelwyr fwynhau cig oen, cig eidion a phorc o anifeiliaid ry’n ni wedi magu ein hunain ac sydd heb fod yn bellach na 16 milltir o’r fferm.

Mae ein tir yn cael ei reoli i safon uchel iawn. Ychydig iawn o gemegau sy’n cael eu defnyddio ac mae cnydau’n cael eu tyfu ar gylchdro, yn cynnwys grawnfwyd a chnydau gwraidd. Mae’r rhain yn fuddiol ar gyfer cynnal ansawdd pridd a dŵr, rhoi hwb i fywyd gwyllt  ar y fferm a chreu cynefin addas i amrywiaeth o adar tir fferm. Mae’r cnydau hefyd yn helpu’r fferm i fod yn fwy hunan-gynhaliol ac ry’n ni’n tyfu cymaint â phosib o’n porthiant gaeaf ein hunain. Mae’r egwyddor hunan-gynhaliaeth yr un mor bwysig i ni heddiw ag yr oedd pan adeiladwyd yr eiddo yn gyntaf.