Menywod Llanerchaeron

Bu Mary Ashby Lewis yn rheoli stad Llanerchaeron am 56 mlynedd wedi marwolaeth ei gŵr

Eleni mae Llanerchaeron yn dathlu’r menywod fu’n byw a gweithio yma gan drawsffurfio’r stad hyfryd hon. Byddwn yn darganfod mwy am rai o’r cymeriadau arbennig a chwaraeodd ran yn nhwf cynnar y stad, a helpu ei chynnal trwy gyfnodau o galedi a sicrhau ei pharhad hyd yn oed yn y blynyddoedd diweddarach.

Yn y tŷ o’r 5 Mehefin – 21 Gorffennaf 2017 cewch fwynhau ymweld â Llanerchaeron drwy lygaid y menywod fu’n byw a gweithio ar y stad. 

Yn y seler, cewch ddarganfod beth oedd Elizabeth Lewis (Johnes gynt) yn cuddio; dysgwch am y plant olaf i gael eu magu yn y tŷ, deall mwy am reolaeth Mary Ashby Lewis o’r stad a chael eich ysbrydoli gan waith elusennol Annie Ponsonby. 

Os ydych yn bwriadu ymweld, cewch weld ein oriau agor yma

Elizabeth Lewis (m.c 1774)

Roedd Elizabeth yn ferch i Thomas Johnes, perchennog Dolaucothi, sef stad leol arall sydd bellach dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’n ymddangos ei bod yn dipyn o gymeriad yng ngorllewin Cymru ac mae ei stori yn codi gwên. Mae llythyr ganddi at ei brawd yn datgelu ei bod wedi bod yn trosglwyddo cargo anghyfreithlon oddi ar longddrylliad tra bod ei gŵr allan yn chwilio am y troseddwyr.


Corbetta Williama Lewis (1757 – 1831)

Ganed Corbetta Williama i deulu Powell o Blasty Nanteos ger Aberystwyth. 'Dy’n ni ddim yn gwybod rhyw lawer am gymeriad Corbetta heblaw bod ei phriodas yn un lwyddiannus i bob golwg, yn llawn parch a chariad. Yn ogystal â chodi statws cymdeithasol teulu’r Lewisiaid, fe ddaeth Corbetta hefyd â gwaddol sylweddol i’r briodas. Y gwaddol hwn yn y bôn dalodd am gyfraniad John Nash i’r gwaith o ail-gynllunio’r villa sy’n sefyll yma heddiw.


Mary Ashby Lewis (1813 – 1917)

Yn 1841, fe briododd Mary Ashby Mettam â mab Corbetta, yr Uwchgapten John Lewis. Fe symudodd i Lanerchaeron ond yn anffodus bu farw ei gŵr yn 1855. Yn ei ewyllys fe adawodd John ei stad i’w chwaer a’i merch yn hytrach na’i nai - penderfyniad hynod yn y cyfnod hwnnw. Yn ei ewyllys fe nododd hefyd y cai Mary aros yn Llanerchaeron tra byddai byw, ond am nad oedd hi’n berchen ar y stad ni chai wneud unrhyw newidiadau yno. Yn ystod y cyfnod hwn roedd safonau byw yn prysur newid a datblygiadau technolegol newydd yn cael eu defnyddio mewn cartrefi, ond o dan reolaeth Mary Ashby Lewis arhosodd Llanerchaeron yn ddigyfnewid.

Mae’r adroddiadau am sut y rheolodd Mary yn Llanerchaeron yn glodwiw iawn; edrychai ar ôl y bobl o’i chwmpas gan gynnwys y staff, y tenantiaid a’r cymdogion, mewn ffordd famol ond blaengar iawn.

Ni phriododd Mary Ashby Lewis eto, a bu fyw yn Llanerchaeron hyd ei marwolaeth yn 104 oed yn 1917.

‘Mae’r enw da a adeiladwyd gennych wrth i chwi gyflawni eich dyletswyddau cyhoeddus fel tirfeddiannwr o fri wedi ei atgyfnerthu ymhellach gan barchusrwydd eich cymeriad personol…Bydd eich enw byw yng nghanolbarth Ceredigion am amser maith ac fe sonnir amdanoch fyth gyda’r hoffter mwyaf’

Tenantiaid Llanerchaeron, 1913

Pamela Muriel Ward (1908 – 1996)

Mae cyswllt Pamela Ward â Llanerchaeron yn fwy anarferol a llai uniongyrchol. Casglwr hen greiriau oedd Pamela, ac roedd yn byw yn Knightsbridge. Yn fuan wedi ei marwolaeth daeth ei chasgliad enfawr ac eclectig i Lanerchaeron. Roedd hi’n ysbryd annibynnol, a bu fyw trwy’r holl newidiadau enfawr ym mywydau menywod yn yr 20ed ganrif.