Os y’ch chi’n chwilio am leoliad ar gyfer brecwast priodas, mae’r lawnt croce yn cynnig lleoliad cefn gwlad hardd i osod pabell. Fe gewch chi a’ch gwesteion dreulio amser gyda’ch gilydd yng nghanol ystâd hardd Llanerchaeron, gyda’r tŷ a’r parcdir yn gefndir ysblennydd i’r cyfan.
Hyblygrwydd yw ein nod. Felly gallwn ni gynnig y lleoliad i chi a gallwch chi wedyn ddewis eich arlwywyr, y cwmni llogi pabell a’r gwerthwyr blodau.
Os hoffech wybod mwy a threfnu i gael eich tywys o gwmpas, anfonwch e-bost atom. Byddem yn falch iawn i ddangos y stad i chi ac ateb unrhyw gwestiynau.