Gofalu am ein hanifeiliaid a’r amgylchedd
Mae’r fferm wedi cael ei chofrestru mewn sawl cynllun lles anifeiliaid sy’n sicrhau fod yr anifeiliaid yn derbyn safon uchel o ofal ac yn cael ansawdd bywyd da.
Mae’r bridiau traddodiadol ar y fferm yn ddelfrydol ar gyfer pori ein cynefinoedd bywyd gwyllt, fel y parcdir hanesyddol o flaen y tŷ a’r dolydd rhwng afonydd Mydr ac Aeron.
Ry’n ni’n annog bioamrywiaeth ar y fferm, gan greu cynefin addas i amrywiaeth o adar tir fferm a bywyd gwyllt yn ogystal ac ymgeisio i fod yn fwy hunan gynhaliol drwy dyfu ein porthiant gaeaf ein hunain.