Mae cynllunio yn rhan bwysig o sicrhau ymweliad grŵp llwyddiannus. Yn Llanerchaeron ry’n ni’n trio gwneud y broses honno mor esmwyth â phosibl. Trefnwch eich ymweliad ymlaen llaw gyda ni, er mwyn gwneud yn siŵr y bydd pob un o’ch criw yn cael y diwrnod gorau posibl. Ry’n ni’n cynnig gostyngiad ar brisiau mynediad i grwpiau o fwy na 15 o bobl. Bydd aelod o staff yn estyn croeso cynnes i chi ar y bws.
Sgyrsiau a theithiau arbennig
.
Taith Gerdded Dywys Llanerchaeron
.
Y Gerddi Muriog Hyfryd
Ymweliadau ysgol
Dewch ag addysg yn fyw drwy ddod â’ch disgyblion allan i’n gweld ni yn Llanerchaeron. Gyda digon o le i chwarae, archwilio a darganfod, fe gawn nhw gyfle i ddysgu am hanes teuluol, ffermio, cynhyrchu bwyd a’r amgylchedd naturiol gyda’n staff arbenigol.
Mae croeso i ysgolion ddod ac arwain eu gweithgareddau eu hunain, ond gallwn hefyd gynnig rhaglen hyblyg o weithgareddau tymhorol sy’n caniatáu i athrawon ddewis beth sy’n siwtio orau o ran eu hamcanion dysgu ac amserlen y cwricwlwm. O blant ysgol cynradd i fyfyrwyr prifysgol, mae yma gyfoeth o gyfleoedd dysgu i bob oed.
Arlwyo
Mae Caffi Conti's Cafe (nid un o gaffis yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) yn gweini bwyd a gall arlwyo ar gyfer 50 o bobl. Mae’n gweini cinio ysgafn a the gan ddefnyddio cynnyrch lleol. Mae bwydlenni ar gyfer grwpiau ar gael, dim ond i chi ofyn.
Gwneud trefniadau
Os hoffech chi a’ch grŵp ddod i’n gweld ni yn Llanerchaeron, ffoniwch ni ar 01545 573010 neu e-bostiwch Llanerchaeron@nationaltrust.org.uk a gallwn deilwra’n cynnig ar gyfer eich ymweliad.