Skip to content

Arddangosfeydd yng Nghastell Powis

Mae Teigr yn y Castell
Un o'r ffotograffau o’r arddangosfa 'Teigr yn y Castell' gan yr artist Daniel Trivedy yng Nghastell a Gardd Powis. | © Dafydd Williams

O artistiaid arobryn a dylunwyr talentog, i straeon o gyfnodau mewn hanes a gwrthrychau cyfoes, mae arddangosfeydd yng Nghastell Powis yn brofiad rhyfeddol i’r holl deulu. Os ydych chi’n rhywun sy’n mwynhau cestyll neu os ydych chi’n chwilio am ddiwrnod allan, dyma beth sydd ar y gweill yn y castell.

Arddangosfa ‘Teigr yn y Castell’ yng Nghastell a Gardd Powis

Dewch i weld arddangosfa newydd Daniel Trivedy, yr artist arobryn o Gymru, sy’n ymateb i gysylltiad trefedigaethol Castell Powis ag India.

24 Chwefror – 31 Mai 2024

Bydd y neuadd ddawns wrth ymyl Amgueddfa Clive yng Nghastell Powis yn gartref i arddangosfa newydd rhwng 24 Chwefror a diwedd y gwanwyn. Mae’r arddangosfa’n cynnwys cyfres o ddelweddau ffotograffig, fideo o berfformiad a ffilmiwyd y tu mewn i’r castell ac o amgylch y tiroedd fis Medi diwethaf, a ffilm o gyfweliad gyda’r artist.

Yn yr arddangosfa hefyd ceir ymateb barddol gan Lauren Craig lle mae’n dadansoddi’r ystyron dyfnach sydd wrth wraidd perfformiad yr artist.

Yr hyn sydd angen i chi ei wybod

  • Bydd yr arddangosfa ar agor bob dydd rhwng dydd Sadwrn 24 Chwefror a dydd Gwener 31 Mai.
  • Gallwch weld yr arddangosfa yn y neuadd ddawns rhwng 11am a 4pm. Mynediad olaf am 3.30pm.
  • Does dim angen talu mwy i weld yr arddangosfa, ond mae’r costau mynediad arferol yn berthnasol.
  • Does dim angen cadw lle ymlaen llaw.
  • Os ydych chi’n bwriadu ymweld fel grŵp mawr, e-bostiwch powiscastle@nationaltrust.org.uk i drefnu ymlaen llaw.
Mae artist mewn gwisg teigr yn eistedd ger y ffenestr mewn ystafell wely yng Nghastell Powis. Ym mlaen y llun ceir gwely pedwar postyn cain. Mae'r llun yn un o'r ffotograffau a ddangoswyd yn yr arddangosfa newydd, 'Teigr yn y Castell', gan yr artist Daniel Trivedy yng Nghastell a Gardd Powis.
Un o'r ffotograffau o’r arddangosfa 'Teigr yn y Castell' gan yr artist Daniel Trivedy yng Nghastell a Gardd Powis. | © Dafydd Williams

Mae’r teigr yn fotiff pwerus, gan greu cysylltiad â hunaniaeth yr artist fel unigolyn o dras Indiaidd, a chyfeirir yn uniongyrchol at wrthrychau yng Nghasgliad De Asia Castell Powis. Yn ystod y cyfnod y bu Prydain yn trefedigaethu India, datganwyd bod teigrod yn fermin, gan arwain at ddirywiad mawr yn eu niferoedd.

Mae gwaith Daniel yn ymyrraeth gadarnhaol a chwareus. Mae’r arddangosfa’n cyd-fynd ag ailddehongliad yr artist o Gastell Powis fel safle posibl ar gyfer dysg a chydlyniant cymdeithasol. Mae Teigr yn y Castell yn brosiect cydweithredol rhwng Artes Mundi, y sefydliad celfyddydau gweledol blaenllaw a rhyngwladol o Gymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a’r artist.

Fel arfer, bydd y neuadd ddawns ac Amgueddfa Clive ar agor rhwng 11am a 4pm bob diwrnod. Cyn ymweld, gwiriwch nad yw’r oriau agor wedi newid. Sylwer: rhaid dringo grisiau i fynd i mewn i’r neuadd ddawns a’r amgueddfa.

Cerflun o ‘Fame’ a Pegasus yng Nghwrt Gorllewinol Castell a Gardd Powis, Powys, Cymru.

Casgliadau Castell a Gardd Powis

Darganfyddwch y gwrthrychau a’r gwaith celf rydym yn gofalu amdanynt yng Nghastell a Gardd Powis ar wefan Casgliadau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Llun manwl o wyneb bwrdd Pietra Dura (carreg galed) a wnaed tua 1600 sy’n cael ei arddangos yn yr Oriel Hir yng Nghastell Powis yng Nghymru, yn dangos addurniadau carreg o liwiau gwahanol o gwmpas aderyn
Erthygl
Erthygl

Y casgliad yng Nghastell Powis 

Dewch i ymweld i ddysgu rhagor am y casgliadau byd-eang ym Mhowis, gan gynnwys cerfluniau, dodrefn a thecstilau o Ewrop, India a Dwyrain Asia.

Portread o Robert Clive, Y Barwn 1af Clive o Plassey ‘Clive o’r India’ gan Syr Nathaniel Dance-Holland RA (Llundain 1735)
Erthygl
Erthygl

Amgueddfa Clive yng Nghastell Powis 

Mae Amgueddfa’r Teulu Clive yn cynnwys mwy na 300 o eitemau o India a’r Dwyrain Pell yn y casgliad preifat mwyaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig. Dysgwch ragor am ei hanes.

Golygfa o’r ardd ym mis Gorffennaf tua chefn gwlad yr ardal o gwmpas Castell Powis, Powys, Cymru
Erthygl
Erthygl

Hanes yr ardd yng Nghastell Powis 

Crwydrwch baradwys o ardd yng Nghymru, gyda 300 mlynedd o drawsnewid gardd yn cynnig haenau lawer o hanes i’w harchwilio.