Ydych chi’n edrych am rywbeth i gofio am eich ymweliad bendigedig, neu’n chwilio am yr anrheg arbennig? Os felly, siop fechan ond berffaith yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw’r lle i chi. Mae yma ddigonedd o ddewis – yn fenig garddio, blancedi picnic i fynd allan i’r ardd, danteithion blasus, cardiau pen-blwydd doniol a chant a mil o bethau eraill. Yn ddefnyddiol iawn, mae’r siop yn hwylus os ydych chi am daro mewn yn sydyn wrth basio heibio.
Peidiwch ag anghofio bod pob pryniant yn ein siop yn helpu cefnogi’r gwaith yn yr ardd.