
Dewch i ddarganfod Cymru
Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.

Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.
Teithiwch drwy amser yr hanner tymor mis Mai hwn, gyda gweithgareddau i’r teulu wedi’u hysbrydoli gan y gorffennol, y presennol a’r dyfodol. Dewch i adeiladu cuddfannau, wynebu heriau natur, taflu awyrfeini, chwarae gemau lawnt a chrwydro’r ardd iard newydd yn ystod diwrnod allan difyr ger Wrecsam.

Dathlwch Wythnos Genedlaethol Garddio Plant gyda gweithgareddau i’r teulu wedi’u hysbrydoli gan wenyn, gloÿnnod byw a’r byd naturiol. Cewch fwynhau cwisiau gardd, sesiynau creadigol, bomiau hadau a chwarae ym myd natur, yna gadewch i’r anturiaethwyr ifanc chwarae yn Ffau’r Blaidd am ddiwrnod llawn hwyl yn yr awyr agored.

Mwynhewch antur yn yr ardd gyda thaflen canfod natur, chwilota mewn pyllau, gemau gardd, crefftau a gweithgareddau plannu. Dewch o hyd i liwiau’r gwanwyn, mwynhewch daith gerdded synhwyraidd ac ewch â’ch hedyn eich hun adref mewn diwrnod allan i’r teulu'n archwilio'r awyr agored.

Casglwch eich llyfryn gweithgareddau’r gwanwyn i ysbrydoli braslunio, barddoniaeth ac adrodd straeon wrth grwydro’r gerddi. Dewch o hyd i fywyd gwyllt, lliw a golygfeydd ar draws y Fenai, ac yna ewch i Goed y Llaethdy ar gyfer chwarae naturiol a hwyl yn y tŷ pen coeden.

Casglwch eich pecyn canfod natur a dilyn y llwybr peillwyr. Crwydrwch lwybrau glaswelltog drwy flodau lliwgar, coetiroedd heddychlon a’r berllan hardd. Cadwch lygad am fywyd gwyllt y gwanwyn a golygfeydd ysgubol dros Borth Neigwl ar eich taith.

Dychmygwch mai chi yw trydanwr y castell a rhowch wefr i’ch hanner tymor mis Mai gyda heriau ymarferol difyr. Cadwch lygad am y llygod ffelt sy’n cuddio yn yr ystafelloedd. Yn yr ardd, dilynwch olion pawennau’r teigr er mwyn cael cipolwg ar deigrod mewn mannau annisgwyl!

Dihangwch i fyd natur ar lwybr i’r teulu drwy’r ardd a buarth y fferm. Gwibiwch o amgylch y llyn ar feic cydbwyso a chwrdd â’r anifeiliaid fferm cyfeillgar. Ewch i mewn i’r Fila Sioraidd ac Ystafell Chwarae’r Stablau am straeon a chwarae dychmygol.

Dewch i fod yn actif yn yr awyr agored yr hanner tymor mis Mai hwn ar Lwybr Gêm Ffeirio Cardiau Mega Evolution Pokémon. Chwiliwch y gerddi am Mega Evolution Pokémon, canfod eu pwerau a mynd i'r afael â heriau i’r teulu mewn antur ddi-sgrin.

Dewch a phicnic a gwnewch ddiwrnod ohoni yn yr ardd, gyda badminton, Connect 4 enfawr, saethyddiaeth, tenis bwrdd a bowlio. Gallwch fenthyg Bag Cefn Antur ac archwilio’r ardaloedd chwarae Pentwr Pren, gyda digonedd o le i chwarae, i gael seibiant a phicnic rhwng anturiaethau.

Mwynhewch weithgareddau i’r teulu cyfan y tu mewn i Dŷ Newton, o grefftau a chwarae dychmygol i gemau a chreadigrwydd cydweithredol. Cewch ganfod yr Hen Olchdy sydd newydd agor gyda Thriciau Teiars, yna mynd i’r parcdir hanesyddol i chwilio am y Gwartheg Parc Gwyn poblogaidd neu grwydro’r llwybrau pren sy’n addas i bramiau.

Bydd crwydro o amgylch Tŵr Adam, a’r daeargelloedd, yn sicr o roi mwynhad i’r teulu cyfan. Llosgwch egni yn yr ardaloedd chwarae naturiol neu ewch ar antur ar hyd yr ystâd.

Gyda gweithgareddau gwahanol bob tymor i’r teulu, aceri o barcdir ac ardal chwarae naturiol i redeg yn wyllt ynddi, mae digonedd yma i gadw eich anturiaethwyr bach yn brysur.

Gwisgwch eich esgidiau glaw ac ewch am dro i’r goedwig. Dewch o hyd i’r guddfan goed i wylio bywyd gwyllt a chofiwch fynd i’r ardal chwarae coetir naturiol.

Ewch draw i Goedwig yr Hen Laethdy i ddod o hyd i’r ardal chwarae antur. Neu crwydrwch i’r tŷ pen coeden a dilynwch y llwybr drwy’r coed i archwilio’r Goedardd.

Mwynhewch ddiwrnod hamddenol braf wrth i chi ddarganfod yr ardd fwthyn berffaith hon, sydd â golygfeydd godidog o’r môr. Gadewch i’r rhai bach redeg yn wyllt yn y perllannau.

Chwaraewch ‘Dw i’n gweld gyda fy llygad bach i’, dewch o hyd i’r Ddrysfa Helyg fyw ac ewch i ymweld â’r Parc Chwarae gyda’i rodfeydd igam-ogam a phont grog fach. Mae digonedd o le i deuluoedd fwynhau amser gyda’i gilydd yn yr ardd 80 acer hon.

Dewch i Bowis am hwyl i’r teulu oll wrth i chi grwydro ystafelloedd y castell sy’n dyddio’n ôl i'r 13eg ganrif, chwarae ar y lawnt fawr neu droedio llwybr yr ardd sy’n sicr o blesio’r plantos.

Beth am ddod i ddweud helô wrth yr anifeiliaid ar y buarth ac edrych beth sy’n tyfu yn yr ardd furiog? Ar ddiwrnod glawog ewch i’r Hen Ystafell Filiards i roi cynnig ar gêm o ping pong a phêl-droed bwrdd.

Mynnwch badell a chwiliwch am aur neu trefnwch daith dan ddaear i fynd am antur yn unig fwynglawdd Aur Rhufeinig hysbys y DU.

Crëwch atgofion i'w trysori gyda gweithgareddau gwisg ffansi a phypedau yn y tŷ. Rhowch fag anturiwr ar eich cefn ac ewch allan i’r ardd i ddod yn nes at fyd natur neu dilynwch y Llwybr Glan Llyn sy’n addas i deuluoedd.

Byddwch wyllt gyda'ch anturiaethwyr bach yr hydref hwn.Gyda dwy ardal chwarae naturiol, a digonedd o weithgareddau ’50 Peth i’w gwneud cyn eich bod yn 11¾’, mae yna rywbeth at ddant pawb yn Nyffryn.

Gydag anturiaethau gwyllt a llwyth o hanes, mae digon i’w ddarganfod yn Ninefwr. Dilynwch lwybr natur, gwyliwch greaduriaid y coetir, ewch i weld y gwartheg Parc Gwyn enwog, neu cwblhewch rai o weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’.

Adeiladwch ffau yn y goedwig, neidiwch ar draws yr afon ar gerrig camu enfawr, chwaraewch gêm o ffyn pooh, a mwynhewch ddigonedd o le naturiol i chwarae ynddo yn y coetir mawr hwn.

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.


Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.