Mae presenoldeb y palanquin, neu soffa deithiol, godidog yng Nghasgliad Clive yn gysylltiedig yn agos â Phrydain yn cipio grym ym mrwydr Plassey. Adeiladwyd y palanquin agored prin hwn ar gyfer Siraj ud-Daulah ac roedd yn blatfform delfrydol i reolwr Bengal allu gweld - a chael ei weld gan - ei ddeiliaid wrth deithio.
Pan ddymchwelwyd Siraj ud-Daulah yn 1757 ym Mrwydr Plassey, cymerwyd y palanquin gan y Prydeinwyr ar ôl iddo gael ei adael ar faes y gad, yn ôl y son. Daeth Clive ag ef i Brydain wedi hynny. Ar ôl cymryd ffortiwn helaeth o drysorfa Siraj ud-Daulah, dychwelodd Clive i Brydain yn un o’i dynion cyfoethocaf.
Yn dilyn y frwydr, ehangodd Clive ei awdurdod ac, ar ei drydydd ymweliad ag India, daeth yn Llywodraethwr Bengal ac yn Gadbennaeth Byddin Cwmni Dwyrain India. Dan ei gyfarwyddyd roedd y cwmni yn defnyddio rym milwrol i oresgyn a rheoli India.
Henrietta Herbert ac Edward Clive
Yn 1784, priododd mab hynaf Robert, Edward Clive (1754-1839), â Henrietta Herbert, merch Iarll Powis. Roedd y briodas yn rhoi sicrwydd ariannol i Bowis, gyda’r cyfoeth a’r pŵer trefedigaethol yr oedd y teulu Clive wedi’u casglu yn India, yn ogystal â bri aristocrataidd i’r enw Clive. Parhaodd Edward â gweithgareddau trefedigaethol ei dad yn India, gan ychwanegu at gasgliad y teulu o drysorau o’r wlad.
Penodwyd Edward yn Llywodraethwr dros Madras yn 1798. Ymunodd Henrietta a’u dwy ferch ag ef yn India, gan aros am dair blynedd. Roedd hyn yn anarferol am y cyfnod hwnnw.
Swltan Tipu ac Artiffactau Indiaidd
Fel Llywodraethwr Madras, roedd Edward Clive yn gyfrifol am drechu a lladd Tipu Sultan (1750-99), rheolwr talaith Mysore yn India. Olynodd Tipu Sultan ei dad i’r orsedd yn 1782 ac roedd yn Fwslim ymroddedig a oedd yn llywodraethu dros boblogaeth o Hindŵiaid yn bennaf.
Ymladdodd Cwmni Dwyrain India dri rhyfel yn erbyn Mysore er mwyn reoli’r tir a’i adnoddau niferus, cyn cipio awdurdod ym Mrwydr Seringapatam yn 1799. Arweiniwyd lluoedd Prydain gan yr Arglwydd Mornington.
Ar ôl i Tipu Sultan gael ei ladd yn Seringapatam, symudodd y fyddin Brydeinig i mewn i’r ddinas. Cymerwyd y gwrthrychau a’r arteffactau gwerthfawr o drysorlys Tipu Sultan i’w rhannu ymhlith y buddugwyr, ac mae rhai ohonynt bellach yn Amgueddfa Clive ym Mhowis.