Darganfod y casgliad yng Nghastell Powis

Penddelwau Cesar yn yr Oriel Hir yng Nghastell Powis

Mae un o gasgliadau gorau’r byd o weithiau celf ac eitemau hanesyddol yn ein gofal yng Nghastell Powis. Dewch draw i ddarganfod cerfluniau, dodrefn a thecstilau gwych o Ewrop, India a’r Dwyrain.

Mae pob eitem yn dweud stori

Dyma’r deg trysor mwyaf diddorol sydd gennym ni yma. Dewch i wybod mwy amdanyn nhw er mwyn dod i adnabod y lle arbennig yma’n well.

1. Y deuddeg Cesar

Y penddelwau Eidalaidd yma o ddiwedd y 17eg ganrif yw’r set cynharaf y gwyddon ni amdanyn nhw o’r Deuddeg Cesar yng ngwledydd Prydain. Maen nhw wedi bod yng Nghastell Powis ers o leiaf 1704 ac wedi eu gwneud o farmor Carrara a charreg iasbis. Mae pob delw yn pwyso tua 150kg felly roedd rhaid gwneud gwaith strwythurol sylweddol yn yr Oriel Hir yn 2007 i wneud yn siŵr y byddai’r llawr yn gallu dal eu pwysau am flynyddoedd i ddod.

2. Y bwrdd pietre dure

Mae’r bwrdd Eidalaidd pietre dure tua 450 mlwydd oed. Mae ei wyneb marmor wedi ei addurno gyda lapis lazuli a gemau eraill lled-werthfawr. Yn ôl traddodiad y teulu Herbert roedd y bwrdd yn rhodd gan y Pab. Edrychwch yn ofalus ar y cynllun ac fe welwch chi griced, malwod, adar a llawer mwy ynddo.

Y bwrdd pietre dure yng Nghastell Powis
Y bwrdd pietre dure yng Nghastell Powis
Y bwrdd pietre dure yng Nghastell Powis

3. Y Foneddiges Henrietta Herbert gan Joshua Reynolds

Cafodd llun y Foneddiges Henrietta Herbert, Iarlles Powis (1758-1830), ei baentio gan Syr Joshua Reynolds – artist portreadau enwocaf y 18fed ganrif. Mae engrafiad bach du a gwyn a wnaed ychydig ar ôl i’r llun gael ei baentio yn dangos fod y Foneddiges Henrietta wedi ei darlunio’n wreiddiol efo steil gwallt crand a heb het. Mae’n debyg fod y darlun wedi ei newid gan artist arall pan newidiodd y ffasiwn – Photoshop y cyfnod!  Yn sgîl priodas Henrietta ac Edward Clive yn 1784 fe sicrhawyd dyfodol ariannol cadarn i stad Powis.

4. Y teigr aur

Dyma i chi drysor hanesyddol go iawn. Daeth y pen teigr Indiaidd yma, sydd wedi’i wneud o aur pur, o orsedd Swltan Tipu ac mae wedi ei addurno â diemwntau, emralltau a cherrig rhuddem. Mae’n gyforiog o statws, grym a harddwch. Yn wreiddiol roedd yn un o wyth ond dim ond dau o’r pennau sy’n dal i fodoli bellach hyd y gwyddon ni.

Y pen teigr aur hardd yng Nghastell Powis
Pen teigr o aur a gemau. Rhan o gasgliad Clive yng Nghastell Powis, Powys, Cymru
Y pen teigr aur hardd yng Nghastell Powis

5. Pabell Tipu

Darn bychan o babell addurnedig fawreddog Swltan Tipu sydd i’w weld yn ‘Stafell y Babell (heibio i’r Neuadd Ddawns). Pe baen ni’n codi’r babell i gyd byddai’n llenwi iard y castell.

6. Cath Rufeinig

Roedd y gath farmor yma’n anrheg gan Robert Clive, Clive o India, i’w wraig Margaret oedd wedi gwirioni ar gathod. Yn ôl yr hanes fe ddywedodd wrth ei asiant i’w brynu ‘Coute qui coute' (beth bynnag y pris). Am flynyddoedd lawer credai pawb ei fod yn dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid (y ganrif gyntaf CC – yr ail ganrif OC), a’i fod yn hynod anarferol, ond mae ymchwil diweddar yn awgrymu iddo gael ei wneud yn y 18fed ganrif.

7. Golygfa o Verona

Yn ôl yr hanes, Clive o India brynodd y campwaith yma gan Bernardo Bellotto (c1745-7). Mae’n dangos Afon Adige gyda Chastell San Pietro yn y pellter canol a melinau gwynt yn yr afon. Roedd Bellotto yn nai ac yn brentis i Canneletto ac fe roddai gymaint o sylw i’r manylion ag y gwnâi ei ewythr.

‘Golygfa o Verona’ gan Bellotto yng Nghastell Powis.
Paentiad olew gan Bellotto, ‘Golygfa o Verona’ yng Nghastell a Gardd Powis, Powys, Cymru
‘Golygfa o Verona’ gan Bellotto yng Nghastell Powis.

8. Llyfr yr oriau

Roedd y llyfr lliwiedig cain yma o’r 15fed ganrif yn eiddo i’r Foneddiges Eleanor Percy ac fe gâi ei ddefnyddio ar gyfer gweddi a defosiwn preifat. Mae’n un o'r enghreifftiau gorau o lawysgrif lliwiedig sydd yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae’r dystiolaeth yn awgrymu fod gan y teulu gapel wedi ei guddio yn y castell gan fod eu ffydd Gatholig yn anghyfreithlon yn niwedd y 16eg ganrif.

9. Old Parr

Portread o ‘Old Parr’ yw hwn – gwas fferm o Swydd Amwythig oedd yn dipyn o arwr lleol. Cafodd ei eni yn 1483 ac roedd yn byw ar fwyd syml – llaeth enwyn, bara, nionod a chaws gwyrdd. Fe greodd dipyn o stŵr yn 1635 pan aed ag o i Lundain i gwrdd â’r Brenin Siarl I. Tra roedd yno fe fu’n mwynhau partïon crand, bwyd moethus ac alcohol. Ond mae’n debyg nad oedd y gwledda a’r mwynhau’n dygymod ag o gan iddo farw bythefnos wedyn, yn 152 oed yn ôl pob sôn!

10. Y goets deuluol

Roedd y goets yn cael ei chadw yng nghartre’r teulu yn Llundain yn wreiddiol ar gyfer achlysuron seremonïol a digwyddiadau pwysig. Cafodd ei defnyddio yn 1914 i fynd â Violet Powis a’i gŵr George, 4ydd Iarll Powis, i Ddawns Fawreddog ym Mhalas Buckingham. Mae Violet yn disgrifio’r trefniadau diogelwch llym iawn oedd i’r digwyddiad er mwyn stopio’r suffragettes rhag dod i mewn ond fe gafodd coets felen Powis ei hadnabod ar unwaith a chael dod i mewn heb ei harchwilio.

Darganfod mwy

Mae gennym ni gant a mil o bethau eraill diddorol yma, i gyd â stori ryfeddol y tu ôl iddyn nhw. Dewch draw - does wybod beth wnewch chi ei ddarganfod.