Yng Ngardd y Ffownten, gallwch edmygu’r tocwaith sy’n bwrw cysgodion hir yng ngolau gwan y prynhawn a rhyfeddu at geinder y gwaith haearn gyr ar y giât mawr, lle mae arfbais llachar y teulu Herbert, sef Eliffant a Griffwn, yn edrych i lawr dros yr ardd.
Y Gwyllt yn y gaeaf
Mae cerdded drwy ein coetir ffurfiol, Y Gwyllt, yn brofiad hollol wahanol yn y gaeaf. Mae canghennau noeth y coed yn cynnig siapiau a gweadau gwahanol i’r canopi uwchben, gan ddatgelu golygfeydd hyfryd o’r castell a’r terasau sydd o’r golwg ar adegau eraill o’r flwyddyn.
Os ydych yn ffodus iawn, efallai y byddwch yn gweld carped o eirlysiau neu syclamen o dan y coed – arwydd bod y gwanwyn ar fin cyrraedd.
Mae ein gardd yn agor am 10am, 364 diwrnod y flwyddyn (ar gau 25 Rhagfyr) felly lapiwch yn gynnes a mwynhewch!