Dewch i edmygu’r borderi trawiadol sy’n llawn planhigion lluosflwydd, y cerfluniau plwm a cherrig o ddawnswyr, yr Adardy a fu’n gartref i Adar Ysglyfaethus ar un adeg, ac Orendy gyda drws carreg crand o’r 18fed ganrif a ddefnyddiwyd fel y fynedfa i’r castell yn y gorffennol.
Ywen ysblennydd!
Mae’n amhosibl osgoi un o nodweddion enwocaf Powis, y gwrychoedd ywen 300 oed. Gallwch weld eu llwyni siâp cymylau wrth edrych i gyfeiriad y castell o bob rhan o’r ardd, yn toddi dros y terasau fel cwyr – bydd yr 14 o lwyni a’r gwrych 30 troedfedd o uchder yn aros yn y cof am amser hir wedi i chi adael.
Yr Ardd Edwardaidd Ffurfiol
Gardd lysiau oedd yr ardal hon yn wreiddiol ond yn 1912 cafodd ei thrawsnewid yn ardd flodau ffurfiol gan Violet, Iarlles Powis.