Hen stori
Mae llwyni a gwrychoedd enwog y gerddi bron yn 300 mlwydd oed ac mae eu siâp anarferol yn dweud stori’r newid ffasiwn yn y byd garddio.
Pan gawson nhw eu plannu gyntaf yn y 18fed ganrif, câi’r yw eu tocio i siâp côn neu byramidiau ffurfiol. Ond erbyn diwedd y ganrif, roedd garddio tirlun Saesnig, wedi ei boblogeiddio gan arddwyr fel ‘Capability’ Brown, yn boblogaidd ac fe gafodd ein gwrychoedd yw ryddid i dyfu’n naturiol a bod yn ‘debycach i goed’.
A dyna fel y bu hi wedyn nes i arddio ffurfiol ddod nôl i ffasiwn yn oes Fictoria ac fe gafodd y coed yw eu tocio nôl i siâp unwaith eto gan roi’r siapiau anarferol sydd mor drawiadol i ymwelwyr heddiw.