Gerddi unigryw Powis – yn y dechreuad

Yr ardd deras baróc yng Nghastell a Gardd Powis, Powys, Cymru

Os yw’r gerddi yng Nghastell Powis yn syrpreis hyfryd ichi yng nghefn gwlad Cymru heddiw dychmygwch faint o sioc fyddai eu darganfod 300 mlynedd yn ôl.

Os yw’r gerddi yng Nghastell Powis yn syrpreis hyfryd i’w ddarganfod yng nghefn gwlad Cymru heddiw dychmygwch faint o sioc fyddai dod ar eu traws 300 mlynedd yn ôl.

Ers talwm fe fyddech chi wedi dod at y castell o’r dwyrain, nid o’r gorllewin fel heddiw. Fyddech chi ddim wedi gweld yr ardd nes cyrraedd mynedfa’r castell ar y teras uchaf. Yn sydyn, fe fyddech chi’n gweld yr ardd deras yn ei holl ogoniant oddi tanoch.

Dechrau ffurfiol

Mae gwreiddiau’r ardd welwch chi heddiw yn y 1680au pan wnaeth William Herbert, Marcwis 1af Powis (c.1626–96), gyflogi’r pensaer William Winde i greu cyfres o derasau a llethrau glaswellt ffurfiol yn erbyn y bryncyn sy’n wynebu’r de islaw’r Castell.

Roedd Winde wedi gwneud gardd debyg yn Cliveden, Sir Buckingham, yn y 1660au ac roedd bryd hynny’n gweithio ar gynllun mewnol Castell Powis.

Dylanwad yr Iseldiroedd

Yn 1688, dihangodd y Marcwis 1af, oedd yn Babydd, i Ffrainc gyda’r brenin alltud Iago II a bu farw yno. Gadawyd ei ardd newydd yng Nghymru yn anorffenedig hyd nes i’w fab, yr 2il Farcwis (c.1665–1745), William Herbert arall, ddod nôl i Brydain yn 1703.

Dechreuodd William weithio ar yr ardd eto, y tro yma gyda help Adrian Duval, garddwr o Ffrainc oedd yn gweithio yn yr Iseldiroedd ar y pryd.

Ar y tir fflat wrth droed y terasau cafodd gardd ddŵr neu Dir Pleser yn yr arddull Iseldireg ei chreu. Roedd yr ardd ddŵr yn gorchuddio cymaint o dir â’r castell a’r terasau gyda’i gilydd ac mae’n rhaid eu bod yn olygfa ryfeddol.

Fe allai’r llygad weld ar draws yr ardd ddŵr Iseldireg, i fyny’r terasau Eidalaidd yn arddull y Dadeni ac yna i fyny at y Castell hynafol ac mor bell a’r parc ceirw y tu ôl iddo. Yr hynafol yn goron ar y modern mewn dilyniant ffurfiol trawiadol.

Tynfa’r tirwedd

Yn 1771 cymerodd yr ardd gam mawr ymlaen tuag at ffasiwn cyfoes y cyfnod. Dyma’r adeg pan roedd gerddi ffurfiol drwy Brydain yn cael eu chwalu er mwyn creu parciau mwy naturiol gyda dŵr, coed a llecynnau gwyrdd yn ymestyn at ddrws ffrynt y plasty.

Arweinydd mawr y symudiad at greu tirwedd naturiol oedd Lancelot ‘Capability’ Brown (1716–83) oedd yn gweithio’n bennaf yn Lloegr.

Yng Nghymru, cymerwyd ei le yn rhannol gan William Emes (1730–1803) a gafodd ei gyflogi gan Henry Arthur Herbert, Iarll 1af Powis (2il greadigaeth), i wella’r stad.

Plannodd fryncyn – Y Gwyllt – i’r de o’r Castell oedd yn amgáu’r terasau a’r ardd ddŵr. Mae llawer o’r coed derw braf a blannodd yn dal yno heddiw.

Gardd â sawl haen

Roedd haen arall o ffasiwn y dydd bellach yn cyfoethogi gerddi’r Castell. Ond mae ffyniant gardd yn dibynnu ar ddiddordeb ei pherchennog, ac erbyn 1784 roedd yr 2il Iarll wedi gadael i’r terasau ddirywio ac yntau’n ffafrio bywyd dinesig Llundain i Gastell Powis.