
Wrth i’r dyddiau gynhesu ac i’r nosweithiau ymestyn, mae’n braf cael treulio amser yn yr awyr iach a gweld ein gardd yn adfywio. Rhwng mis Mawrth a mis Mehefin cewch fwynhau sbloet anhygoel o liwiau’r gwanwyn yng Nghastell Powis.
Dechrau’r tymor
Mae’r sioe’n dechrau’n fuan pan fydd dwsinau o fagnolias yn blodeuo trwy’r ardd a’r iard i gyd. Peidiwch â cholli’r magnolia campbellii hyfryd yn y coetir sy’n edrych i lawr dros y castell na'r magnolia souldangeana ar y terasau.
Yn fuan wedyn, daw’r rhododendrons a’r asaleas llachar. Os ewch am dro hamddenol trwy’r Gwyllt, cewch fwynhau'r sbloet o liw sy'n fframio'r castell.
Mae brithegion, blodau eirïaidd, erythronia a briallu’n llenwi’r llethrau trwy’r ardd i gyd ac mae’r Narcissus Pseudonarcissus, y cennin Pedr Cymreig enwog, yn ffynnu yn y cae bychan a fu unwaith yn rhan o ardd ddŵr.
" Mae’n wych gweld yr ardd yn cael ei hadfywio. O’r funud y mae’r fagnolia gyntaf yn arddangos ei blodau pinc prydferth, dim ond dyddiau sydd i aros tan y bydd y blodau eraill yn dilyn ei hesiampl."
Yn nes ymlaen yn y tymor
Un o uchafbwyntiau diwedd y gwanwyn yw’r blodau cain ar y coed afalau a gellyg 100 oed yn yr Ardd Ffurfiol Edwardaidd. Oddi tanynt, wedi’u plannu’n fanwl-gywir yn y dull Edwardaidd, mae gwelyau taclus o'r sosin bach glas a'r serennyn.
Wrth i’r haf nesáu, gallwch ddisgwyl gweld y Wisteria Floribunda yn taenu ei blodau hardd fel blodau pys ar Deras yr Adardy. Mae’r planhigyn dringo hwn dros 300 oed ac mae wedi cyfareddu ymwelwyr â Chastell Powis ers cenedlaethau. Cofiwch ddod i’w weld.
Yna, erbyn dechrau’r haf, pan nad oes peryg y daw’r barrug, fe welwch ein garddwyr brwd yn plannu'r bordor trofannol ar y Teras Uchaf gan ychwanegu cannoedd o flodau lluosflwydd tyner i’n borderi blodau i syfrdanu ein hymwelwyr yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
Ewch â darn o Gastell Powis adre gyda chi
Mae’r holl flodau lluosflwydd tyner a ddefnyddir yn ein gerddi wedi’u cadw dros y gaeaf neu eu magu yn ein tai gwydr carbon-niwtral ni’n hunain, sydd hefyd yn darparu planhigion ar gyfer ein Siop Blanhigion. Galwch ar eich ffordd adref a chewch fynd â darn bach o Gastell Powis adre gyda chi.