Gwreiddiau canoloesol Castell Powis

Mynedfa’r dwyrain yng Nghastell a Gardd Powis

Oherwydd ei hinsawdd mwyn, ei thir ffrwythlon a’i bryniau graddol roedd teyrnas Powys eisoes yn cael ei hadnabod fel ‘paradwys Cymru’ yn y 12fed ganrif.

Codwyd Castell Powis yng nghanol y 13eg ganrif gan y tywysog Cymreig Gruffudd ap Gwenwynwyn oedd eisiau sefydlu ei annibyniaeth oddi wrth ei elynion traddodiadol, tywysogion Gwynedd.

Roedd yn wahanol i gestyll eraill gogledd Cymru, fel Caernarfon, Harlech a Chonwy, a adeiladwyd gan y Saeson i atgyfnerthu concwest Edward I dros Gymru.

Alltudio ac ailgodi

Erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd Llywelyn ap Gruffudd, tywysog Gwynedd, wedi sefydlu ei hun fel Tywysog Cymru, ac yn 1274 fe ddinistriodd Gastell Powis gan orfodi Gruffudd ap Gwenwynwyn i alltudiaeth.

Ond o fewn tair blynedd roedd tywysogaeth Llywelyn wedi syrthio gan roi rhwydd hynt i Gruffudd o Bowys adennill ei arglwyddiaeth ac ailadeiladu’r castell.

Etifeddes

Roedd Gruffudd, ei fab a’i ŵyr i gyd wedi marw erbyn 1309. Doedd dim etifedd gwrywaidd ac felly fe basiodd y castell a’r arglwyddiaeth i’w etifeddes, Hawis, a briododd Syr John Chorlton o Swydd Amwythig.

Yn 1312, ymosododd ewythr Hawis, Gruffudd Fychan, ar y castell mewn ymgais i hawlio’r arglwyddiaeth ond fe fethodd. Fe drwsiodd Charlton y difrod ac adeiladu dau dŵr drwm newydd y gallwch eu gweld heddiw y naill ochr i fynedfa orllewinol y castell.

Mynedfa’r gorllewin yng Nghastell Powis
Y terasau yng Nghastell a Gardd Powis

Arglwyddi Charlton

Fe barhaodd disgynyddion y teulu Charlton yn Arglwyddi Powis am dros 100 mlynedd.

Fodd bynnag yn 1421, heb wryw yn etifedd, fe rannwyd y castell a’r stad rhwng dwy ferch, Joyce a Joan, oedd wedi priodi Syr John Grey a Syr John Tiptoft.

Teuluoedd Grey a Tiptoft

Dan y teulu Tiptoft, a’u holynydd yr Arglwydd Dudley, fe esgeuluswyd ward allanol y castell ac roedd angen gwaith adnewyddu mawr arno.

Yn ffodus, yn y 1530au, daeth Edward Grey, Arglwydd Powis, i feddiant y castell cyfan a dechrau ar raglen ailadeiladu enfawr a wnaeth Powis y cartref bonedd mwyaf trawiadol yng ngogledd a chanolbarth Cymru.

Ar les i deulu’r Herbert

Yn 1578, rhoddwyd Powis ar les i Syr Edward Herbert (c.1542–95), ail fab William Herbert, Iarll 1af Penfro ac Anne Parr (chwaer Catherine Parr, chweched gwraig Harri VIII).

Fel ail fab, doedd Edward ddim yn debyg o etifeddu ei gartref teuluol felly roedd rhaid iddo ganfod ei ffordd ei hun yn y byd. Yn 1587, fe brynodd y castell a’r stad ac fe arhosodd yn nwylo’r teulu Herbert tan 1952 pan roddodd George, 4ydd Iarll Powis, y castell a’r gerddi i’r wlad, dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol.