Yn 1912, fe ofynnodd i Bodley wneud giatiau haearn trawiadol yng ngardd y ffynnon fel anrheg pen-blwydd i George.
Mae gardd Edwardaidd Violet, gyda’r lawnt croquet, y borderi blodau a’r coed ffrwythau taclus yn dal i fod yn un o uchafbwyntiau’r ardd heddiw.
Trasiedi’n taro’r teulu
Yn y cyfnod Edwardaidd roedd y stad yn ei anterth a gwesteion pwysig yn cyrraedd bob penwythnos drwy dymor y gaeaf, gan gynnwys Tywysog a Thywysoges Cymru a ddaeth ym mis Tachwedd 1909.
Ond daeth diwedd i oes aur y stad ac fe ddioddefodd George dair trasiedi yn y teulu.
Yn 1916 cafodd ei fab hynaf, Percy, anaf farwol ym mrwydr y Somme; yn 1919 bu farw Violet ar ôl damwain car ac, yn 1942, lladdwyd ei fab ieuengaf Mervyn mewn damwain awyren tra roedd yn y fyddin.
Gyda neb yn etifedd uniongyrchol i’r castell, fe roddodd George stad Powis i’r genedl, dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ar ei wely angau yn 1952.
Ymunwch â ni i ddysgu mwy am George, Violet a’r cyfnod Edwardaidd drwy gydol y flwyddyn ym Mhowis.