Yng ngweddill yr ardd, gallwch gerdded ar hyd y Lawnt Croce i weld rhesi o dafod yr ehedydd 2 fetr o uchder â’u sbrigynnau glaswyrdd neu las tywyll lliwgar. Tua diwedd yr haf daw’r hocys talsyth i gymryd eu lle, gan dyfu y tu hwnt i’r uchder a welir mewn gardd gyffredin.
Canol haf
Ar y Teras Uchaf, mae’r planhigion tyner yn y border mawr trofannol yn mynd o nerth i nerth yn y gwres, ac yn sioe o liwiau llachar. Dewch i weld y coed palmwydd Chusan, dail anferth y coed banana a choesau tew y Tetrapanax genus (coeden papur reis).
Ar bob ochr i’r Orendy mae pâr o forderi cyfochrog yn llawn blodau. Mae borderi ‘claear’ y planhigion parhaol ar yr ochr ddwyreiniol yn llawn blodau glas, lelog, pinc a gwyn. Yn y border ‘tanbaid’ gorllewinol, gallwch weld amrywiaeth o liwiau coch, melyn a phinc llachar.