Skip to content

Clychau’r gog campus Cymru

Golygfa o Gastell Penrhyn gyda chlychau’r gog yn y blaendir yng Ngwynedd, Cymru.
Golygfa o Gastell Penrhyn gyda chlychau’r gog, Gwynedd | © National Trust Images/Iwan Ellis-Roberts

Mae clychau’r gog yn uchafbwynt tymhorol, ac ni ddylech eu methu. Ymwelwch â charpedi o’r blodau glas prydferth wrth iddyn nhw foddi cefn gwlad a gerddi Cymru, cerddwch drwy goedwig o glychau’r gog, neu eisteddwch yn ôl a mwynhau’r olygfa.

Dinefwr, Sir Gâr
Dinefwr yw’r unig barcdir yng Nghymru sy’n Warchodfa Natur Genedlaethol, ac yn y gwanwyn mae’n galeidosgop o liw. Mae’r warchodfa’n enwog am glychau’r gog Nythfa’r Brain. Casglwch fap o’r dderbynfa a dilynwch y llwybr Gwartheg i weld y blodau bach bendigedig hyn drwy gydol mis Mai.Ymwelwch â Dinefwr
Castell y Waun, Wrecsam
Mwynhewch lwybr hunan-dywys drwy’r coed ac edmygu clychau’r gog a rhyfeddodau eraill y gwanwyn yng Nghastell y Waun. Dilynwch y llwybr arwyddion glas drwy’r ystâd i’r coetir i ddod o hyd i’r holl lefydd gorau i weld y blodau glas gwych.Darganfyddwch ystâd Castell y Waun
Spring bluebells at Blakes Wood, Essex
Clychau’r gog mewn coetir | © National Trust Images/Arnhel de Serra
Gardd Bodnant, Conwy
Mae Gardd Bodnant yn drawiadol drwy gydol y flwyddyn, ond mae ar ei gorau yn y gwanwyn. Daw clychau’r gog i lonni’r Hen Barc wedi diflaniad y cennin Pedr. Maen nhw’n estyn allan o gysgodion brith y glennydd coediog a’r dolydd yr holl ffordd i erddi glan afon y Glyn a’r Pen Pellaf. Ymwelwch â Gardd BodnantYmwelwch â Gardd Bodnant
Llanerchaeron, Ceredigion
Wedi’i lleoli yn nyffryn coediog Aeron, mae Llanerchaeron yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sy’n adnabyddus am ei amrywiaeth arbennig o goed, fflora a bywyd gwyllt. O ddiwedd mis Ebrill, fe welwch glychau’r gog yn gorchfygu glannau Afon Aeron ac ar wasgar drwy’r coetir. Ymysg y perlau bach porffor fe allwch weld ac arogli blodau garlleg gwyllt hefyd.Ymwelwch â Llanerchaeron
Coed y Bwnydd, Sir Fynwy
Mae tirwedd fryniog y fryngaer hon o Oes yr Haearn yn cael ei thrawsnewid yn y gwanwyn gan fôr o glychau’r gog, briallu, tegeirianau a blodau taranau. Mae’n hafan hyfryd i fywyd gwyllt ac ymwelwyr ger Stad Cleidda, gyda golygfeydd godidog o Ddyffryn Wysg a thu hwnt.Ymwelwch â Stad Cleidda
Llwybr cerdded drwy’r coetir sy’n fôr o glychau’r gog ym Mhlas yn Rhiw yng Ngwynedd, Cymru
Coetir ym Mhlas yn Rhiw, Gogledd Cymru | © National Trust Images/Malcolm Davies
Plas yn Rhiw, Gwynedd
Dihangwch i Blas yn Rhiw y gwanwyn hwn a darganfod gardd gysgodol gyda golygfeydd godidog o Fae Ceredigion. Allwch chi ddim methu’r holl glychau’r gog. Maen nhw’n gorchuddio’r coetir uchaf ac yn wledd i’r llygaid.Ymwelwch â Phlas yn Rhiw
Abermawr, Sir Benfro
Mae’r darn dramatig hwn o arfordir hefyd yn gartref i goetir a dolydd dedwydd, sy’n fôr o las ar ddiwedd y gwanwyn. Mwynhewch lwybr cerdded hamddenol, milltir o hyd, o Abereiddi i Abermawr ac edmygwch yr olygfa.Ymwelwch ag Abereiddi ac Abermawr
Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro
Darganfyddwch sut mae natur wedi trawsnewid yr hen ardal ddiwydiannol hon yn ardd dyffryn heddychlon. Mae’r coetir ar ddiwedd y gwanwyn yn cynnig llwybrau cerdded hyfryd drwy fôr o glychau’r gog a blodau gwyllt eraill.Ymwelwch â Gardd Goedwig Colby
Castell Penrhyn, Gwynedd
Daw clychau’r gog yn dynn ar sodlau’r cennin Pedr yng Nghastell Penrhyn. Mwynhewch gerdded o gwmpas y tiroedd trawiadol a’r ardd hyfryd i weld y blodau gwanwynol hyfryd hyn yn eu gwir ogoniant.Ymwelwch â Chastell a Gardd Penrhyn
Small girl running between conical topiary hedges in the Cherry Garden at Ham House

Ble fydd eich ymweliad nesaf?

Darganfyddwch lawer o erddi, tai hanesyddol, diwrnodau allan ar yr arfordir a mwy.

Pethau eraill o ddiddordeb i chi

Ymwelwyr yn sefyll ar bont yn edrych dros ddŵr sy’n rhedeg ger yr Hen Felin yng Ngardd Bodnant, wedi’u hamgylchynu gan lwyni dail gwyrdd a blodau
Erthygl
Erthygl

Pethau i'w gweld yng Ngardd Bodnant 

Dewch i ymweld â gardd o’r safon uchaf yng Nghymru yng Ngardd Bodnant a mwynhau 80 erw o erddi ffurfiol, coetir a chaeau a chasgliadau botanegol o bob rhan o’r byd.

clychau'r gog, Dolaucothi, Sir gaerfyrddin
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch y parc yn Ninefwr 

Dewch am dro drwy Barc Dinefwr ger Llandeilo, ystâd 800-erw drawiadol lle gwelwch amrywiaeth o fywyd gwyllt a rhai o’r coed hynaf yng ngwledydd Prydain.

Clychau'r gog yng Nghastell Penrhyn, Cymru
Erthygl
Erthygl

Crwydrwch yr ystâd yng Nghastell Penrhyn 

Pam nad ewch chi am dro oddi ar y llwybrau cyfarwydd ac ymweld â’r guddfan i lawr ger Afon Ogwen. Bydd teuluoedd yn mwynhau’r ardal chwarae naturiol hefyd. Cofiwch ddod â’ch welis.

Clychau’r gog dan goed, Gardd Goetir Colby, Sir Benfro
Erthygl
Erthygl

Ymwelwch â Gardd Goedwig Colby 

Mae rhywbeth i bawb yma, o hanes diymhongar yr ardd gegin wreiddiol i dreftadaeth gyfoethog yr ardd goedwig a’r lle chwarae naturiol.

Eirlysiau yn yr ardd ym Mhlas yn Rhiw, Gwynedd, Cymru
Erthygl
Erthygl

Ymweld â’r ardd ym Mhlas yn Rhiw 

Mae gan yr ardd ym Mhlas yn Rhiw lawer i'w gynnig trwy'r tymhorau, o'r eirlysiau sionc i berllan o ffrwythau a blodau hyfryd.