Cerddwch drwy dirwedd hen chwedlau Eryri. Mae digon o ddewis, o lwybrau rhwydd, hamddenol i deithiau mynyddig mwy egniol. Digon i flino coesau pawb, yn cynnwys eich cyfaill pawennog. Cofiwch fod da byw yn pori ym mhob un bron o’r lleoliadau hyn felly gofalwch fod eich ci ar dennyn.
Ewch allan i’r awyr agored ac i ganol byd natur gyda’n llwybrau cerdded, sydd wedi cael eu creu gan ein ceidwaid.
Yma yng Nghymru gallwch ganfod y daith gerdded berffaith i chi a’ch ci. Cewch gerdded mynyddoedd, crwydro’r glannau, sbecian ar ardd new ddwy neu wledda mewn ystafell de.