Helfeydd Wyau Pasg yng Nghymru

Neidio i
Rhowch ddigon o adloniant i’ch anturiaethwyr bach drwy gydol y gwyliau gydag amrywiaeth o helfeydd wyau Pasg llawn antur sy’n dathlu natur, harddwch a hanes. Ble bynnag y byddwch yn ymweld ag ef, rydych yn sicr o fwynhau oriau o hwyl i’r teulu cyfan.
Helfeydd wyau Pasg yng Ngogledd Cymru

Castell a Gardd y Waun, Wrecsam
21 Mawrth ac 12 Ebrill
Dewch i fwynhau antur yng Nghastell y Waun trwy gymryd rhan mewn helfa wyau Pasg llawn hwyl a sbri mewn gerddi 5.5 acer sy’n doreithiog o flodau. Gwisgwch eich clustiau cwningen a dilynwch y llwybr sy’n arwain at ddeg o orsafoedd gweithgareddau, lle gallwch ddod o hyd i lu o heriau hwyliog ac ymarferol. Rasiwch trwy glychau cerddorol y gog, ceisiwch adeiladu tŵr sydd mor uchel â’r wisteria yng nghwrt y castell, a rhowch brawf ar eich cof trwy gymryd rhan yn y gêm ‘Blodyn Cof’ [er nad dyma’r enw safonol, dw i wedi’i ddefnyddio er mwyn cadw’r elfen ‘cof’] – mae yna ddigonedd o bethau i gadw’r holl deulu’n ddiddig.
Yna, beth am fentro i Dŵr Adam, sef tŵr canoloesol lle gellir gweld gorffennol hanesyddol y castell o hyd. Gwisgwch arfwisg, chwiliwch am ‘dyllau llofruddio’ canoloesol ac, os ydych yn teimlo’n ddigon dewr, mentrwch i lawr i’r ddaeargell ddeulawr!
Neuadd a Gardd Erddig, Wrecsam
21 Mawrth ac 12 Ebrill
Y Pasg hwn, treiddiwch i gasgliad rhyfeddol Neuadd Erddig gyda llwybr a ysbrydolwyd gan gardiau’r wyddor sy’n dilyn y thema ‘anifeiliaid’. Dilynwch y map a throediwch trwy’r ardd ysblennydd, gan oedi am dipyn i gymryd rhan mewn heriau a ysbrydolwyd gan anifeiliaid. Rasiwch i ganu’r gloch buwch, ceisiwch ddal bag ffa ar eich cefn fel crwban, a rhowch gynnig ar yr her ‘ras wy estrys a llwy’ – tybed faint o weithgareddau hwyliog y gallwch eu cwblhau?
Os oes gennych ddigon o egni ar ôl, ewch i Ffau’r Blaidd, sef man chwarae naturiol sy’n ymestyn dros bron i ddwy acer o dir gwyllt. Yno, cewch adeiladu ffau, chwarae ar y siglen raff, rhoi cynnig ar y trawstiau tafol, a gwneud llu o bethau eraill – lle perffaith i ollwng stêm.
Castell a Gardd Penrhyn, Bangor
28 Mawrth - 12 Ebrill
Gyda blodau’r gwanwyn yn ffrwydro trwy’r ardd a golygfeydd godidog yn ymestyn dros y Gogarth ac Eryri, Castell Penrhyn yw’r lle perffaith i fwynhau antur wanwynol. Dilynwch y llwybr wyau Pasg o amgylch y safle i weld faint o heriau y gallwch eu cwblhau ar hyd y ffordd. Profwch eich sgiliau taflu gyda gemau targed, gwnewch sŵn mawr gyda cherddorfa’r pryfetach, a phrofwch eich gwybodaeth am adar yn y gêm ‘paru wyau’ – mae yna rywbeth i gadw’r holl deulu’n ddiddig.
Hefyd, mae yna ddau o fannau chwarae i’w harchwilio. Crwydrwch trwy’r coetir i chwilio am Rook Wood, lle gallwch ddringo, siglo a chwarae si-so am oriau. Neu ewch i Gwt Ogwen, sef man chwarae naturiol gyda chuddfan – lle perffaith i chwarae tŷ bach neu eistedd yn dawel a mwynhau’r bywyd gwyllt o’ch cwmpas.
Tŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn
21 Mawrth - 19 Ebrill
Gyda 40 acer o erddi, 129 acer o goetiroedd a pharcdiroedd, a golygfeydd godidog dros y Fenai i gyfeiriad copaon Eryri, mae yna ddigonedd o le i archwilio a chwarae y Pasg hwn yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd. Dilynwch lwybr wyau Pasg yr ‘Arddangosfa Wanwyn’, sy’n cynnwys creaduriaid o fyd natur, cymerwch arnoch fod yn gwningen neu’n oen, ewch i’r adran wisgoedd i wisgo dillad diddorol amdanoch, dawnsiwch yn y disgo gwenyn, neu ymunwch â band adar bywiog. Bydd pob her yn llawn hwyl, creadigrwydd a hud i’r holl deulu.
Cyn troi am adref, dringwch y tŷ pen coeden i weld a allwch gael cipolwg ar y gwiwerod coch direidus; neu rhedwch a neidiwch trwy faes chwarae antur Coed y Llaethdy lle ceir twneli, pontydd, fframiau dringo a cherrig sarn. Gyda chynifer o bethau i’w harchwilio, dyma antur wanwynol berffaith i archwilwyr o bob oed.
Gardd Bodnant, Conwy
21 Mawrth ac 12 Ebrill
Dewch i archwilio gardd flaenllaw Bodnant y Pasg hwn trwy gymryd rhan mewn llwybr wyau Pasg sy’n ymdroelli trwy flodau gogoneddus y gwanwyn a rhododendronau ysblennydd sy’n tyfu ar hyd ymylon y llwybrau. Mae yna ddeg o orsafoedd i’w darganfod – gyda gêm, her neu weithgaredd ymarferol hwyliog ym mhob gorsaf – felly mae yna ddigonedd o bethau i gadw pawb yn ddiddig. Ar hyd y ffordd, chwiliwch ar gliwiau, datgelwch ffeithiau a dysgwch sut y mae adar gwyllt brodorol yn byw ac yn ffynnu.
Ar ôl dysgu cynifer o bethau am adar, ewch i’r Glyn i weld pa rai y gallwch eu gweld yn y gwyllt. Cadwch olwg am leision y dorlan ger yr afon ac wrth ymyl Pont y Rhaeadr, neu edrychwch i gyfeiriad y Pen Pellaf, lle mae gwyachod bach, gwyddau a hwyaid yn cartrefu’n aml yn ystod y gwanwyn. Efallai’n wir y gwelwch nyth yn swatio o’r golwg ar un o ynysoedd y Pwll Sglefrio.
Plas yn Rhiw, Pen Llŷn
28 Mawrth - 12 Ebrill
Ymunwch â’r llwybr wyau Pasg ym Mhlas yn Rhiw a dilynwch yn ôl troed y tair chwaer Keating a aeth ati i adfer y maenordy a’r ardd ysblennydd ac a helpodd i warchod natur ym Mhen Llŷn. Wrth archwilio, cymerwch ran mewn 10 gweithgaredd a ysbrydolwyd gan natur, yn cynnwys cymryd rhan yn y ras rwystrau ‘wy a llwy’, creu cerddoriaeth gydag offerynnau awyr agored, ac anelu at y nod mewn her saethyddiaeth ar y thema ‘pryfed peillio’.
Hefyd, gallwch ddod o hyd i gemau tawelach ar y lawnt, felly oedwch, chwaraewch a mwynhewch yr amgylchoedd tawel ac edmygwch y golygfeydd godidog dros Borth Neigwl. Dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer creu atgofion i’r holl deulu y gwanwyn hwn.
Helfeydd wyau Pasg yng Nghanolbarth Cymru

Castell a Gardd Powis, Y Trallwng
27 Mawrth - 12 Ebrill
Dewch draw i ardd ysblennydd Castell Powys y gwanwyn hwn, gan droedio’r Terasau Eidalaidd hanesyddol a chrwydro trwy’r gerddi ffurfiol hardd ar y llwybr wyau Pasg cyffrous. Wrth archwilio, oedwch i gystadlu yn erbyn eich teulu a’ch cyfeilion mewn deg her gyffrous sy’n siŵr o ysgogi’r anturiaethwyr ifanc yn eich plith. Cymerwch ran yn yr her ‘Amser Chwarae’, sgoriwch goliau ar y Lawnt Fawr, ceisiwch gadw eich balans ar hyd y grisiau boncyffion, neu rasiwch dros y rhwystrau a thrwy’r conau.
Yna, ewch i mewn i’r castell i archwilio’r Ystafelloedd Swyddogol bendigedig, lle rydym wedi cuddio wyau lliwgar ar gyfer yr anturiaethwyr bach yn eich plith. Cewch fwynhau ystafelloedd ysblennydd sy’n gyforiog o hanes, ynghyd â llecynnau cudd y gallech beidio â sylwi arnynt fel arall. Cymerwch eich amser a chwiliwch yn ofalus i weld faint ohonynt y gallwch eu gweld.
Llanerchaeron, Ceredigion
25 Mawrth - 12 Ebrill
Dewch draw i Lanerchaeron y Pasg hwn i fwynhau antur ac i ddilyn y llwybr Wyau Pasg. Mae gennym ddeg o weithgareddau i gyd – tybed faint ohonynt y gallwch chi a’ch teulu eu cwblhau? Neidiwch i nyth aderyn enfawr, ewch i hwylio ar long bren ddychmygus, a dewch i ddarganfod y gwahanol fathau o gacwn sy’n suo o amgylch yr Ardd Furiog a’r parcdir – mae pob gorsaf gweithgaredd yn llawn dop o bethau annisgwyl i fwydo dychymyg y plantos.
Wrth gwrs, ni fyddai’r un ymweliad yn gyflawn heb fynd am dro i’r buarth traddodiadol. Archwiliwch yr adeiladau hanesyddol, dywedwch ‘helo’ wrth yr anifeiliaid cyfeillgar sy’n byw yno – yn cynnwys moch, adar a defaid Llanwenog – ac ewch i gyfarfod â Tomos a Seren, sef cobiau Cymreig 18 oed. Hefyd, gallwch fynd ar gefn beiciau balans, cymryd rhan mewn rasys ‘wy a llwy’ a mwynhau gemau ar y lawnt o flaen y tŷ – oriau o hwyl i’r holl deulu.
Helfeydd wyau Pasg yn Ne Cymru

Dinefwr, Llandeilo
28 Mawrth - 6 Ebrill
Gwirionwch ar antur y gwanwyn wrth ddilyn y llwybr Wyau Pasg trwy barcdir hynafol Dinefwr – hwyl a sbri i’r holl deulu. Wrth grwydro ar hyd y llwybr hanner milltir o hyd, cewch ddarganfod llu o weithgareddau llawn hwyl i’w gwneud – fel gwylio adar yn y guddfan, gwneud eich creadigaeth eich hun gyda chlai, profi eich balans fel aderyn a chreu cerddoriaeth yn y Rhewdy hanesyddol.
Y tu mewn, mae Tŷ Newton wedi’i drawsnewid yn ‘dŷ adar’ hudol, gyda phethau annisgwyl i’w gweld ym mhob ystafell. Daliwch ‘wyau’ tra’n gwisgo het nyth aderyn, ymunwch â’r Te Parti Adar, archwiliwch Fyd yr Adar (sef antur drochi gyda nythod morgrug a rhyfeddodau bach) a chamwch i Theatr y Coetir sy’n llawn cyfeillion pluog a hanesion am y gwyllt. Y tu allan, mae’r antur yn parhau – gallwch chwarae gyda dŵr, ceir corneli tawel lle gallwch wrando ar straeon a mwynhau chwarae synhwyraidd, a hefyd ceir llwyfan wedi’i orchuddio lle gallwch greu eich perfformiad gwanwynol eich hun.
Tŷ Tredegar, Casnewydd
28 Mawrth - 12 Ebrill
Y Pasg hwn, teithiwch trwy amser yn Nhŷ Tredegar lle mae capsiwl amser wedi gyrru llinell amser y tŷ ar gyfeiliorn. A chithau’n Gofnodwr Amser Tredegar, bydd angen ichi fagu awydd i anturio a theithio’n ôl trwy 500 mlynedd o hanes, gan gyfarfod â chymeriadau o’r gorffennol a chan ddatrys posau a chyflawni heriau ymarferol o wahanol gyfnodau mewn amser. Casglwch eich cyfeillion a’ch teulu ynghyd i weld a allwch gwblhau’r gweithgareddau ac ailosod y llinell amser cyn iddi ddiflannu am byth.
Y tu hwnt i’r llwybr, mae byd yn llawn antur yn aros amdanoch. Gyda 90 acer o erddi a pharcdir i’w harchwilio, gallwch grwydro, chwarae a datgelu corneli cudd rownd pob cornel. Cofiwch ymweld â’r tŷ sy’n deillio o’r ail ganrif ar bymtheg lle gallwch ddod â’ch straeon eich hun yn fyw gyda phypedau neu wisgo gwisgoedd traddodiadol a smalio eich bod yn byw yn yr oes o’r blaen.
Gerddi Dyffryn, ger Caerdydd
28 Mawrth - 12 Ebrill
Mae’r ardd Edwardaidd 55 acer hon ar gyrion Caerdydd yn lleoliad ysblennydd ar gyfer dathlu dyfodiad y gwanwyn a threulio amser gyda’ch gilydd. Dilynwch y llwybr Wyau Pasg trwy lawntiau eang ac ystafelloedd gardd, gan fynd i’r afael â 10 gweithgaredd ymarferol ar hyd y ffordd. O rasys wyau marblis a chroce cywion ieir, i hwyl a sbri yn gwisgo dillad diddorol amdanoch, a mwy – mae yna rywbeth at ddant pawb o bob oed.
Cewch fwy fyth o hwyl yn ardaloedd chwarae naturiol y Pentyrrau Pren – ac mae yna ddwy ardal o’r fath i ddewis o’u plith. Ceisiwch gadw eich balans wrth gerdded ar foncyffion enfawr, dringwch ar draws rhwystrau, neidiwch dros gerrig sarn ac adeiladwch wâl – lle perffaith i’r plantos ollwng stêm.
Rhosili ac Arfordir De Gŵyr, Abertawe
30 Mawrth - 10 Ebrill
Y gwanwyn hwn, dewch i fwynhau Pasg rhywfaint yn wahanol yn Rhosili. Ewch ar antur deuluol trwy ddilyn y llwybr Wyau Pasg ar hyd llwybrau troed glaswelltog a thrwy dir ffermio canoloesol y Vile. Ar y ffordd, ewch i’r afael â deg her hwyliog – yn cynnwys taflu welingtons, ras rwystrau byrnau gwair, rasys berfa a mwy. Tybed pa aelod o’ch teulu a fydd yn fuddugol?
Os bydd gennych ddigon o egni ar ôl, mae yna lawer mwy o bethau i’w harchwilio. Rhedwch yn wyllt ar hyd tair milltir o draethau euraid, crwydrwch y clogwyni i weld y blodau gwyllt yn dechrau blodeuo, mwynhewch y golygfeydd arfordirol godidog a chadwch olwg am fywyd gwyllt – ffordd berffaith o ddirwyn eich diwrnod i ben ynghanol natur.
Gardd Goetir Colby, Sir Benfro
3-6 Ebrill
Y Pasg hwn, dewch i ddarganfod dyffryn coediog cudd yn llawn rhyfeddodau yng Ngardd Goetir Colby. Gyda’i orffennol diwydiannol, gardd gudd, llwybrau sy’n ymdroelli trwy’r coetir, a nentydd llifeiriol, mae’r safle hwn yn berffaith ar gyfer mwynhau antur gyda’r teulu. Dilynwch y llwybr Wyau Pasg sy’n dathlu uchafbwyntiau gwanwynol yr ardd ac ewch i’r afael â 10 o heriau ymarferol – mae yna ddigonedd o bethau i ddifyrru’r holl deulu.
Mae yna lu o bethau i’w mwynhau y tu hwnt i’r llwybr hefyd. Dringwch i fyny at y llannerch ym mhen uchaf y goedwig, adeiladwch wâl dan y coed neu neidiwch ar draws cerrig sarn enfawr. Gyda chynifer o bethau i’w gweld a’u gwneud, dyma le gwych i anturiaethwyr bach chwarae, darganfod a mwynhau yn yr awyr agored.
Pethau eraill o ddiddordeb i chi
Diwrnodau allan i'r teulu yng Nghymru
Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.

Teithiau Cerdded hygyrch yng Nghymru
Dysgwch am ein llwybrau aml-ddefnydd yn y mannau rydym yn gofalu amdanynt ledled Cymru sy’n addas ar gyfer pramiau ac yn berffaith ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn a’r rhai gyda chymorth symudedd.

Tai ac adeiladau yng Nghymru
Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Cestyll a chaerau yng Nghymru
Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Gerddi a pharciau yng Nghymru
Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.
