Roedd niferoedd y wiwer goch, creadur swil ond diddorol iawn, wedi syrthio’n beryglus o isel yn y 1990au. Ond diolch i raglen ailgyflwyno Plas Newydd a llefydd eraill ar Ynys Môn, maen nhw bellach yn olygfa gyffredin… os ydych chi’n gwybod lle i chwilio.
Rydyn ni’n edrych ymlaen i’ch croesawi chi i’r lleodd y gofalwn amdanynt ar draws Cymru.
Os gwelwch yn dda gwiriwch dudalen we yr eiddo perthnasol am y wybodaeth ddiweddaraf pan yn cynllunio eich ymweliad.
Fe ddaethon ni â chwech gwiwer goch i Blas Newydd ym mis Hydref 2008 a’u cadw mewn rhan gaeedig o’r goedwig am ychydig wythnosau. Yna fe gawson nhw eu rhyddhau i’r coed. Fe wnaethon nhw fridio yn llwyddiannus ac maen nhw bellach i’w gweld drwy’r stad ac mae rhai wedi croesi Pont Menai hyd yn oed.
Barbara Stanley, Rheolwr Profiad yr Ymwelydd ym Mhlas Newydd sy’n egluro pa mor boblogaidd yw’r creaduriaid bach gydag ymwelwyr.
“Roedd gweld wiwer goch yn arfer bod yn beth prin iawn, ond diolch i’r rhaglen ailgyflwyno fel rhan o Brosiect Wiwerod Coch Môn, maen nhw’n ffynnu yma rŵan.
“Rydyn ni wedi ychwanegu llefydd bwydo newydd o gwmpas y coed ac maen nhw i’w gweld yn reit aml rŵan, sy’n dipyn o wefr i’n hymwelwyr. Plas Newydd ydy’r lle i ddod i’w gweld nhw erbyn hyn, yn enwedig i ffotograffwyr sy’n tynnu lluniau natur.”
Dewch i gael cip ar y gwiwerod yn y coed
Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Dewch i gael cip ar y gwiwerod yn y coed
Ffeithiau am y wiwer goch
Maen nhw’n nofwyr gwych (ai dyma sut maen nhw wedi croesi i’r tir mawr?)
Maen nhw’n bwyta hadau, mes, ffrwythau gwyllt, ffyngau a rhisgl
Maen nhw’n byw fel arfer am ryw dair blynedd
Mae gwiwerod yn byw mewn nythod yn uchel yn y coed
Mae’r wiwer goch llawn dwf yn mesur tua 20cm o hyd gyda chynffon 18cm
Maen nhw’n bwrw’r blew ar eu clustiau unwaith y flwyddyn ar ddiwedd yr hydref
Gweld gwiwer
Gwnewch eich gorau i gael cip ar un o’r creaduriaid bach tlws yma. Maen nhw i’w gweld ym mhob man yn yr ardd a’r coed ond yn enwedig yng Nghoed y Capel ar hyd glannau’r Fenai. Dydi wiwerod coch ddim yn cysgu dros y gaeaf felly mwy o gyfle ichi eu gweld drwy’r flwyddyn!
Er eu bod yn eitha’ swil ar y cyfan, fe all ychydig o fwyd adar eu perswadio i ddod yn nes, fel y gwelon ni gyda ‘Justin’ oedd yn ymwelydd cyson â ffenest ein swyddfa ni dros y Nadolig.