Eleni, rydym yn atgyfodi diwrnod y mabolgampau – a’r tro hwn, caiff y teulu cyfan gymryd rhan!
Dim ond dau o safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru fydd yn cynnal Haf o Chwaraeon yn 2019 ac mae Tŷ a Gardd Plas Newydd yn un ohonyn nhw. Maen nhw’n barod am yr her o sicrhau bochau cochion ac amserau gwely bodlon dros yr haf (ac mae hynny’n cynnwys mamau a thadau, neiniau a theidiau!)
Bob dydd Mawrth, dydd Gwener a dydd Sadwrn trwy gydol gwyliau haf yr ysgolion, bydd digonedd o gyfleoedd i chwarae. Bydd dewis eang o chwaraeon ar gyfer pob oed a phob gallu. Rydym am weld y teulu cyfan yn yr awyr iach, yn cofio’r teimlad o fod yn rhan o’r mabolgampau ers talwm ac yn mwynhau bod yn yr awyr agored yn cymryd rhan.
Does dim ots pa mor dda ydych chi na phryd oedd y tro diwetha i chi afael mewn hwla-hŵp neu fat tennis, y peth pwysig yw mynd allan i’r awyr agored a mwynhau’r dyddiau gyda’r teulu – gyda llygedyn o haul hefyd gobeithio! Rydym mewn lle gwych, gyda golygfeydd ysblennydd dros Afon Menai i Eryri – yr union le i greu atgofion gyda'n gilydd.
Bydd gennym chwaraeon o dan oruchwyliaeth ar y lawnt ger y caban pren, yn cynnwys rasys dros y clwydi, badminton, tenis, ‘ras bagiau ffa’ a mwy. Beth am herio Mam neu Taid i ras ŵy ar lwy? Neu weld pwy yw’r gorau am hopian?
Felly, pryd bynnag y cymeroch chi ran mewn diwrnod mabolgampau ddiwethaf, dewch draw i greu’ch mabolgampau eich hunan gyda’ch teulu dros yr haf.
Bob dydd Mawrth, dydd Gwener a dydd Sadwrn rhwng 23 Gorffennaf a 31 Awst 2019, 10.45am tan 4.15pm.