Skip to content
Datganiad i'r wasg

Ymchwil a datgeliadau newydd am Bumed Ardalydd Môn yn ysbrydoli arddangosfa newydd ym Mhlas Newydd

5ed Ardalydd Môn mewn gwisg ffansi ym Mhlas Newydd
5ed Ardalydd Môn mewn gwisg ffansi ym Mhlas Newydd | © National Trust

Am y tro cyntaf, rhennir hanes Pumed Ardalydd Môn yn nhŷ Plas Newydd drwyddi draw ar ffurf arddangosfa gynyrfiadol. Mae ‘Y cwbl oedd ar ôl’ yn adrodd hanes Henry Cyril Paget a Gwerthiannau Mawr Môn, ble gwerthwyd popeth yn ei feddiant i dalu am ei ddyledion.

Am y tro cyntaf, rhennir hanes Pumed Ardalydd Môn yn nhŷ Plas Newydd drwyddi draw ar ffurf arddangosfa gynyrfiadol. Mae ‘Y cwbl oedd ar ôl’ yn adrodd hanes Henry Cyril Paget a Gwerthiannau Mawr Môn, ble gwerthwyd popeth yn ei feddiant i dalu am ei ddyledion.

Etifeddodd Henry Cyril Paget (1875-1905) deitl Pumed Ardalydd Môn a Phlas Newydd ei hun yn 1898, ynghyd ag oddeutu £110,000 y flwyddyn, sydd gyfystyr â rhyw £18-£20 miliwn heddiw. [1]. Ail-enwodd y Plas yn ‘Castell Môn’ a bu’n gwario’n afradlon i’w wneud fel ag y mynnai.

Amgylchynai ei hun â dillad, gwisgoedd a gemwaith drudfawr; llwyfannai berfformiadau a dawnsfeydd gwisg ffansi yn ei theatr ei hun i’r bobl leol ac ymbleserai mewn technoleg newydd gan gynnwys ceir modur a ffotograffiaeth. Er hynny, nid oedd modd cynnal y byd a greodd y Pumed Ardalydd.

Gan na allai reoli arian, aeth yr Ardalydd yn fethdalwr yn y pendraw a bu’n rhaid gwerthu popeth yn ei feddiant i dalu ei ddyledion. Ac yntau’n gwario’n eithafol, roedd tipyn i’w werthu, gan gynnwys popeth yn y tŷ a’r adeiladau cyfagos. Llawr siop oedd Plas Newydd erbyn hyn, nid cartref.

Dywedodd llefarydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o Dŷ a Gerddi Plas Newydd:

“Parodd Gwerthiannau Mawr Castell Môn o fis Gorffennaf 1904 tan fis Tachwedd 1904. Gwerthwyd popeth ym meddiant y Pumed Ardalydd, o’i gemau drytaf hyd at y pennau a’r bwcedi mop. Gwelwyd rhwng 17,000 a 18,000 o eitemau ar werth a gwagiwyd y tŷ.”

“Teithiodd bobl i Ynys Môn o bob cwr o’r wlad; dywedwyd bod y gwerthiannau hyn ymhlith y rhai mwyaf ym Mhrydain Fawr. Daeth llawer o bobl leol yna hefyd i gefnogi’r Pumed Ardalydd a hoffwyd yn fawr yn yr ardal, er gwaethaf canlyniad ei wario.”

Dillad yr Ardalydd oedd yr atyniad mwyaf. Gwerthwyd cannoedd o byjamas, gynau nos, gwasgodau, sanau, siwtiau amryliw, gwisgoedd nofio, gwisgoedd ping-pong, tronsiau piws a ffyn cerdded gemog.

Gwerthwyd popeth – o’i gar Pullman Morrs a wnaed yn arbennig iddo, ac yn un o bum car ar werth, hyd at sosbenni o’r gegin a thabledi a hylifau o’i ystafell wely. Aeth ei hoff gŵn tegan hyd yn oed, ynghyd â pharot yr howsgiper a hwnnw’n rhegi mewn tair iaith, yn ôl y sôn.

Roedd ei ddyledion oddeutu £570,000 neu £45 miliwn yn ein harian ni heddiw, gyda’r gwerthiant ond yn talu chwe swllt am bob punt yr oedd arno, gan adael tua £159,600 o ddyled, sydd tua £12 miliwn yn ein harian ni heddiw.

Mae’r Athro Viv Gardner, arbenigwr ar fywyd y Pumed Ardalydd, wedi gweithio’n agos gyda'r elusen gadwraeth i rannu ei hymchwil ar yr Ardalydd. Ei gwaith yw’r ysbrydoliaeth tu cefn i’r arddangosfa newydd sydd yn datgelu hanesion newydd am ei fywyd, a’i gwymp oherwydd ei ffordd o fyw foethus a’i hoffter o adloniant. Yn ôl Viv;

“Yn ôl hanes a adroddwyd yn ei gyfnod ei hun a hyd heddiw, y Pumed Ardalydd a adeiladodd theatr yn y capel ym Mhlas Newydd. Nid yw hyn yn hollol wir; yr hyn a wnaeth yn 1901 oedd troi’r llwyfan hen ffasiwn yn rhywbeth a oedd yn fodern. Creodd awditoriwm gyda 150 o seddi a chyflwyno trydan.”

“Creodd rywle ble gallai berfformio beth bynnag y mynnai. Creodd le y gallai fod yn fo’i hun.”

“Agorodd y theatr i gymdogion, masnachwyr, gweision, myfyrwyr prifysgol ac ymwelwyr, yn rhad ac am ddim, a byddai’n dawnsio mor aml ag y gallai. Ei Ddawns Pili Pala oedd yr enwocaf, ble daethpwyd i’w adnabod fel yr Ardalydd a Ddawnsiai pan daflwyd goleuadau amryliw ar ei wisgoedd sidan gwyn.”

5ed Ardalydd Môn gyda chriw o actorion ar lwyfan Plas Newydd
5ed Ardalydd Môn gyda chriw o actorion ar lwyfan Plas Newydd | © National Trust

Yn ôl Viv, roedd y pantomeimiau yn gyfle i’r Ardalydd newid ei wisg cymaint o weithiau ag yr oedd o’n newid golygfa, ac ymbleseru mewn gemwaith. Yn ôl pob sôn, roedd ei wisgoedd yn ‘Hugan Fach Goch’, wedi costio o leiaf £500, sydd bron yn £40,000 yn ein harian ni heddiw.

Er hynny, mae llai o sôn am ei gysylltiad â’r gymuned leol, a sut y cymerai ran mewn digwyddiadau lleol – cychwyn gemau pêl-droed, cyflwyno gwobrau, hyd yn oed cadw stondin yn gwerthu lluniau o’i hun yn Ffair Ysgol Friars Bangor. Bu iddo ymddangos yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor yn 1902, hyd yn oed, mewn gwisg farddol wedi’i gwneud yn arbennig a chafodd radd farddol er anrhydedd.

Roedd y bobl weithiol leol wrth eu boddau ag o, ond nid oedd yn boblogaidd ymysg y dosbarthiadau uwch. Cafodd glod am ddod ag incwm i’r gymuned leol wrth iddo yntau a’i osgordd fawr wario. Roedd pobl yn hoffi’r ffaith ei fod yn trysori rhoddion rhad cymaint â’i ddiemwntau. Roedd wrth ei fodd gyda ffon gerdded a brynwyd ym Mangor am swllt cymaint ag un yn costio cannoedd o bunnoedd.

Tu hwnt i Gymru, dim ond yr hanesion syfrdanol oedd yn mynd â sylw’r papurau cenedlaethol. Gwawdiwyd yr aristocrat am chwarae Romeo i’w Juliet yr howsgiper a’r hyn a oedd yn fêl ar eu bysedd, yn fwy na dim, oedd hanes ei gwymp a’r hyn a ddatgelodd ‘Gwerthiannau Mawr Castell Môn’ am ei ffordd o fyw eithriadol o foethus.
Ychwanegodd Viv Gardner;

“Nid trychineb yr Ardalydd oedd yr unig beth, collodd y gweision eu cartrefi a’u swyddi hefyd. Roedd arno’r Ardalydd arian i lawer o fusnesau lleol hefyd; roedd arno £26,651 i Morris Wartski, gemydd ar Stryd Fawr Bangor. Er hynny, parhau wnaeth y ffyddlondeb a’r hoffter tuag ato, ac fe brynodd Mr Wartski hyd yn oed wisg coroni yr Ardalydd yn y gwerthiant i’w dychwelyd iddo.”

Mae’r arddangosfa newydd, ‘Y cyfan a oedd ar ôl’ yn edrych ar effaith y digwyddiad eithriadol hwn ar Blas Newydd ac ar y gymuned leol, ac yn ystyried yr hyn sydd yn bwysig i ni.

Aeth llefarydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn ei blaen;

“Ar ddiwedd 2019, dechreuwyd prosiect mawr i uwchraddio’r peipiau a’r gwifrau drwy dŷ Plas Newydd. Er hynny, o ganlyniad i’r pandemig, bu’n rhaid i ni ohirio’r gwaith. Wrth i ni aros i ail-gydio yn y gwaith, rydym ni wedi bod wrthi’n edrych ar themâu eraill drwy gydol y plasty.”

“I baratoi ar gyfer y gwaith adeiladu, cadwyd rhai o’r casgliadau a thynnwyd rhywfaint o’r dodrefn, ond mae rhai o’r paentiadau yn dal i gael eu harddangos. Rhoddodd hyn gynfas wag i ni edrych ar ran o hanes Plas Newydd nad ydym ni wedi’i rhannu mewn manylder o’r blaen. Roedd Gwerthiannau Mawr Môn yn addas gan fod hynny’n gadael i ni ddychmygu sut fyddai Plas Newydd wedi bod yn 1904 pan werthwyd popeth, a’r tŷ yn wag.”

Plentyn yn edrych ar celf credigol yn Plas Newydd, Ynys Mon
Arddangosfa 'Y cyfan oedd ar ôl' ym Mhlas Newydd | © National Trust Images/Annapurna Mellor

Gan dynnu ar luniau ac archifau yn cynnwys catalogau’r Gwerthiannau, mae Alison Neighbour, sydd yn artist ac yn senograffydd, wedi creu adlais ysbrydol y gwrthrychau a gollodd y Pumed Ardalydd.

Gall ymwelwyr ddisgwyl gweld gosodweithiau creadigol, yn cynnwys modelau papur a weiren o sodlau print lledr maint 6 y Pumed Ardalydd, copïau o gatalogau Gwerthiannau Môn a 82 gwn nos ‘sidan’ yn yr Ystafell Gerdd.

Mae ‘Y cyfan oedd ar ôl’ ar agor hyd 5 Tachwedd 2023.

You might also be interested in

5ed Marcwis Môn, Henry Cyril Paget, yn tynnu ystum ar gadair mewn gwisg ffansi, gyda helmed adeiniog a gemau.
Erthygl
Erthygl

Pobl a Hanes ym Mhlas Newydd 

Dysgwch am stori diddorol ‘Marcwis y ddawns’, a drodd gapel y teulu ym Mhlas Newydd yn theatr a gwastraffu ei etifeddiaeth ar wisgoedd crand.

Coeden blodau ceirios gyda'r Tŷ yn y cefndir
Lle
Lle

Tŷ a Gardd Plas Newydd 

Plasty a gerddi hudolus, gyda golygfeydd godidog o Eryri. | Enchanting mansion and gardens, with spectacular views of Snowdonia.

Llanfairpwll, Anglesey

Yn hollol agored heddiw