Erbyn 2010, roedd arwyddion bod y cynefinoedd yn dechrau adfer. Roedd y llystyfiant yn tyfu’n dalach ac yn cael y cyfle o’r diwedd i flodeuo a bwrw hadau. Ond canlyniad arall i’r drefn newydd hon oedd bod rhywfaint o danbori a gorbori mewn gwahanol fannau, a doedd hyn ddim yn llesol i’r cynefinoedd.
Roedd yn amlwg na fyddai lleihau niferoedd y defaid yn datrys y broblem hon, nac yn helpu menter y fferm. Penderfynwyd mai’r opsiwn mwyaf priodol ar gyfer rheoli’r tiroedd lle roedd defaid yn pori fyddai cyflogi bugail llawn-amser.
Yr her i fugail mynydd
Nid yw bugeilio defaid ar gyfer amcanion cadwraeth yn opsiwn poblogaidd yn y Deyrnas Unedig hyd yn hyn, er fod y dull hwn o ffermio’n cael ei ddefnyddio’n helaeth yn yr Alpau a’r Pyrenees.
Dyma’r enghraifft gyntaf yng Nghymru a Lloegr, hyd y gwyddom, o fugeilio llawn-amser ar dir mynyddig er mwyn sicrhau amcanion cadwraeth. Ar wahân i’r hinsawdd oer a gwlyb, un o’r prif heriau gyda’r prosiect hwn yw’r ffordd y mae defaid mynydd Cymreig yn pori.
Yn Hafod y Llan, mae’r defaid yn pori’r mynydd agored o fewn eu ‘cynefin’. Mae gan bob mamog ei chynefin neu ei thiriogaeth ei hun a bydd yn dysgu hynny i’w hoen benyw, gan sicrhau felly bod y ddiadell wedi ei lledaenu’n wastad ar draws y mynydd. Fel hyn does dim angen cloddiau na ffensys rhwng ffermydd.
Yn Hafod y Llan mae’r gwaith bugeilio’n golygu addasu cynefinoedd presennol y defaid. Mae angen i’r defaid sydd wedi arfer â chefnau uwch y mynydd gael eu hail-gynefino ar y llethrau is, i ffwrdd oddi wrth y cribau sensitif. Bydd hyn yn cymryd blynyddoedd, hyd nes bydd y genhedlaeth newydd o ddefaid wedi cymryd lle’r hen famogiaid.