Cewch eich ysbrydoli gan natur yng Nghraflwyn a Beddgelert

Yng nghalon Eryri mae tirlun dramatig Craflwyn a Beddgelert yn hafan i amrywiaeth gyfoethog o fywyd gwyllt a chynefinoedd. Wrth i chi grwydro’r ardal fe welwch un cynefin ar ôl y llall a darganfod digonedd o fywyd gwyllt.

Tirwedd

Mae tri dyffryn syfrdanol yn cwrdd yn y fan hon, lle mae afonydd gwyrddlas Glaslyn a Cholwyn yn ymuno â’i gilydd.

Mae Beddgelert yn bentref tlws sy’n gorwedd yng nghanol tirwedd serth o goetir cymysg, rhododendron a rhostir grugog. Mae ‘na ddigonedd o siopau crefft, tafarndai a llety yn y pentref.  Os ydych chi’n hoff o natur a’r awyr agored, mae’n ganolfan wych ar gyfer mwynhau amrywiaeth dda o lwybrau a theithiau cerdded.

Ewch am dro hyd glan yr afon o gwmpas Beddgelert i ymweld â bedd Gelert, lle mae ci arwrol y Tywysog Llywelyn wedi’i gladdu yn ôl y chwedl. Neu beth am grwydro’n bellach ar hyd un o’r mynyddoedd cyfagos?

Dringwch drwy’r coedwigoedd, heibio i’r hen fwyngloddiau copr ac i fyny at y copaon ac fe gewch eich gwobrwyo â golygfeydd o’r môr.

Bywyd Gwyllt

Oherwydd bod ucheldir a chymoedd afon dwfn yn cyfarfod mor ddramatig yn yr ardal hon mae yma amrywiaeth ardderchog o gynefinoedd a bywyd gwyllt.

I lawr yn y dyffrynnoedd, cadwch lygad ar agor am y geifr gwyllt, yr hebog tramor, a brain coesgoch.  Yn yr hydref mae’n bosib y gwelwch chi eogiaid yn nofio i fyny’r afonydd.

Cadwch lygad ar agor am y geifr mynydd gwyllt o gwmpas Nant Gwynant
Geifr mynydd gwyllt ar fferm Hafod y Llan ym Meddgelert, Eryri

Cynefinoedd

Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gwynedd a pherchnogion tir cyfagos i ddifa’r llwyni rhododendron ymledol sydd wedi dominyddu’r dirwedd yma’n ddiweddar.

Yn y mannau lle mae’r rhododendron wedi cael ei glirio gallwch weld amrywiaeth o blanhigion brodorol yn dechrau gwthio drwodd.

Yn nyffryn Aberglaslyn gallwch gerdded drwy fforestydd aeddfed o binwydd yr Alban, coed castan a derw, gyda charped trwchus o llwyni grug a llus ar y ddaear.

Y tu hwnt i’r llecyn hwnnw, mae’r dyffrynnoedd yn drwch o goedwigoedd derw sy’n ffurfio un o’r lleiniau coetir di-dor mwyaf yng Nghymru.  Mae’r coetir hwn yn ymestyn am bellter o fwy na 19km (tua 12 milltir) o Dremadog i ben Nantgwynant.

Mentrwch i fyny’r mynyddoedd, ac yn fuan iawn byddwch yn cerdded trwy dirwedd donnog o rug a glaswelltir yr ucheldir.