Daw’r llwybr hwn ag Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri gam yn nes at ei uchelgais o gael llwybr crwn, hygyrch o gwmpas gwaelod yr Wyddfa. Mae hefyd yn ehangu cwmpas y llwybrau yn ardal Nant Gwynant gan ei gwneud yn bosibl dilyn yr afon o Nantmor neu Feddgelert yr holl ffordd i ben draw Llyn Dinas.
Mae afon Glaslyn yn ymdroelli o Nant Gwynant i’r llyn, sy’n swatio yn y bryniau coediog i’r de o'r Wyddfa, ac yna’n llifo ymlaen i Feddgelert. Mae’r A498 yn rhedeg ar hyd y naill ochr i’r llyn a bryniau creigiog, gwyllt, Gelli Iago yn gefnlen warchodol ar hyd yr ochr arall.
Hyd yn awr, dim ond wrth yrru heibio yr oedd y rhan fwyaf o bobl yn gweld y llyn a dim ond y rhai oedd yn fodlon gwlychu eu traed oedd yn mentro at ei lannau. Fodd bynnag, yn yr haf eleni, cwblhawyd llwybr amlddefnydd, milltir o hyd, gan roi cyfle i bobl grwydro glan y llyn yn ddiogel.