I reidwyr beics ffyrdd mae yna ddringfeydd sy’n ‘herio’r ysgyfaint’ ac yn arwain at olygfeydd bendigedig. Mae cwblhau’r ddringfa ffordd o Feddgelert i Ben-y-Pass yn rhywbeth y byddai unrhyw feiciwr yn falch ohono.
Cofiwch fod yna gyfyngiadau ar feicio llwybrau marchogaeth yr Wyddfa. I osgoi damweiniau sy’n ymwneud â beicwyr a cherddwyr ar y llwybrau prysur iawn yn ystod y tymor ymwelwyr, mae yna gytundeb gwirfoddol rhwng Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyngor Gwynedd, CTC, Undeb Beicio Cymru a’r Gymdeithas Feicio Mynydd Ryngwladol. Cytunwyd na ddylai beicwyr seiclo ar yr Wyddfa rhwng 10am a 5pm o Fai 1 i Fedi 30.
Llogi beic
Mae Beddgelert Bikes, yng Nghoedwig Beddgelert, ar agor gydol y flwyddyn i logi beics mynydd, tandems, seddi plant a beics trelar.
Dringo creigiau
Mae un o ddringfeydd mwyaf anarferol Cymru, Lockwood’s Chimney, i’w chael ar Glogwyn y Wenallt uwchlaw Llyn Gwynant. Cafodd y ddringfa, sy’n cynnwys sgrialfa i fyny drwy dwnnel yn y mynyddd, ei henwi ar ôl Arthur Lockwood, cyn-berchennog Gwesty Pen-y-Gwryd, sef y cyntaf i’w dringo.
Roedd dringo’r llwybr mynydd hwn yn draddodiad ar noswyl canol haf. Mae Lockwood’s Chimney yn addas dim ond i’r rheiny sy’n brofiadol ac yn ddewr ac fe gânt eu gwobrwyo â golygfeydd syfrdanol o’r mynyddoedd ar ôl cyrraedd y top.
Mewn mannau eraill mae yna glogwyni bychan, eto ar gyfer y rheiny sydd â digon o brofiad o ddringo yn yr awyr agored.