Gweithio gyda natur yn Hafod y Llan

Mae rhan helaeth o fferm Hafod y Llan wedi’i ddynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol, yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Ardal Cadwraeth Arbennig. Ond yr un mor bwysig yw’r ffaith ei fod yn ddarn byw o dreftadaeth ucheldir gwledig Cymru.

Tirwedd Hafod y Llan

Mae Hafod y Llan yn fferm fynydd hanesyddol bwysig ar lethrau deheuol yr Wyddfa, Lliwedd a’r Aran. Mae arwyddion diwylliannol ac archaeolegol i’w gweld o gwmpas pob tro a chornel ar hyd Llwybr Watkin, sy’n arwain at gopa’r Wyddfa.

Mae gweddillion tramffyrdd trawiadol a barics gweithwyr yn ein hatgoffa o’r chwareli llechi oes Fictoria yng Nghwm Llan, tra bo mwyngloddiau copr yn britho’r llechweddau ar draws y fferm.

Ewch am dro i gwm Bylchau Terfyn ac fe gewch edmygu’r carpedi hardd o blu’r gweunydd ar y gors ym mis Mehefin, a lliw rhuddgoch y clwbfrwyn yn ystod Awst.

Neu dilynwch lwybr enwog Watkin at gopa’r Wyddfa, gan gychwyn eich taith ar hyd afon wyrddlas sy’n llawn pyllau a rhaeadrau hudol.  Mae’r dirwedd yn arw ac yn amrywiol, ond yn groesawgar i unrhyw anturiaethwr.

Darganfod bywyd gwyllt

Efallai y gwelwch chi ein Gwartheg Duon Cymreig i fyny ar y mynydd, neu ein defaid mynydd Cymreig enwog, ond anifail arall sydd i’w weld yn aml yn Hafod y Llan yw’r afr wyllt. Mae’r geifr heini hyn yn llwyddo cyrraedd hyd yn oed y clogwyni mwyaf serth ar y mynyddoedd.

O’r clogwyni garw, cadwch lygad ar agor am y frân goesgoch a’r hebog tramor sy’n bridio yma. Yn y coedwigoedd mae’n bosib y gwelwch chi’r gog neu’r gwybedog brith – neu efallai mai clywed eu cân yn llenwi’r awyr fyddwch chi yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf.

Darganfod cynefinoedd diddorol

Mae Hafod y Llan yn ganlyniad cenedlaethau o ffermio defaid, geifr a gwartheg, ac mae’r cynefinoedd sydd yma heddiw yn adlewyrchu hynny.

Mae briallu a chlychau’r gog yn carpedu’r coetiroedd deri ac ynn ar lawr y dyffryn yn ystod y gwanwyn.
Mae ucheldir y fferm yn gartref i rywogaethau prin fel y clwbfwsogl sy’n tyfu’n llwyddiannus ar y rhostir sy’n cael ei bori, a hefyd planhigion anarferol fel pren y ddannoedd, a’r tormaen serennog yn y mannay mwy pellennig.

Os ewch chi am dro ar y Lliwedd fe fyddwch yn cerdded nid yn unig drwy lwyni grug, ond hefyd drwy’r boblogaeth fwyaf yng Nghymru o ferywen y mynydd yng Nghymru. A dweud y gwir, ar y mynydd hwn y mae 90% o holl feryw mynydd Cymru yn tyfu.

Darganfyddwch beth sydd gan natur i’w gynnig yn Hafod y Llan a’r ardal gyfagos
Grug a chreigiau ar fferm Hafod y Llan