Mae siop unigryw Tŷ Isaf yn swatio yng nghanol pentref Beddgelert, adeilad rhestredig Gradd II sy’n dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif – mae’n dŷ llawn cymeriad.
Mae yma amrywiaeth wych o gynnyrch a chrefftau lleol, ochr-yn-ochr â’ch ffefrynnau . I fyny’r grisiau cewch bori ymhlith y llyfrau ail-law ac yn yr oriel gelf.
Mae llawer o’r crefftau wedi cael eu hysbrydoli gan y dirwedd leol ac mae sawl un yn defnyddio elfennau naturiol fel llechen, pren a gwlân.
Cewch anrhegion perffaith i ffrindiau a theulu
Ymddiriedolaeth Genedlaethol
Cewch anrhegion perffaith i ffrindiau a theulu
Amseroedd agor
Haf: Dydd Llun i ddydd Sul 11am tan 5pm.
Sylwch ein bod wedi cwtogi ar ein horiau agor dros y gaeaf; bydd dyddiau’r wythnos yn amrywio, a bydd y siop ar agor ar ddyddiau Gwener, Sadwrn a Sul 11am tan 5pm.
Os oes gennych ymholiadau ffoniwch: 01766 890 545
Gwnewch yn fawr o’ch diwrnod
Mae pecynnau antur ar gael am ddim i deuluoedd. Ewch i grwydro ar hyd yr afon a rhoi cynnig ar rai o’r gweithgareddau yn y pecyn.
Cydiwch mewn arweinlyfr ac i ffwrdd â chi ar eich antur o gwmpas Beddgelert. Mae yna 4 o lwybrau ardderchog ar gael: Aberglaslyn, Bedd Gelert, Craflwyn-Hafod y Llan a Dinas Emrys.
Cylchdaith amrywiol â rhai o’r golygfeydd gorau yn yr ardal. Mae'r taith yn cychwyn a gorffen o maes parcio yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nantmor.
Mae’r daith hon yn eich tywys ar hyd llwybr gwastad allan o ganol y pentref ac ar hyd glannau’r Afon Glaslyn, at fedd Gelert y ci. Fe gewch ddysgu mwy am chwedl drist Gelert a’r Tywysog Llywelyn.