Cyfrannodd dros 20,000 o bobl tuag at ein hapêl £1 miliwn dan arweiniad yr actor Hollywood o Gymru, Matthew Rhys. Gwnaeth hyn ein galluogi i ddiogelu’r fferm a’i fywyd gwyllt cyfoethog ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod.


Fferm ucheldir yn Eryri sy'n cynnig cyfle i ffermwyr ifanc ennill profiad ymarferol mewn ffermio er lles natur.
" Mae’n gyfle ardderchog i ffermwr ifanc ennill profiad ymarferol gwerthfawr o reoli fferm"
Yn ogystal â rheoli diadell o ddefaid mynydd Cymreig a gyr o wartheg duon Cymreig, mae’r fferm yn cymryd rhan yng nghynllun Amaeth-Amgylcheddol Glastir ac yn cynnwys sawl Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, felly mae pwyslais mawr ar ffermio cadwraethol.
Newidiadau ar y gweill
Yn dilyn pum mlynedd o gynnal ysgoloriaeth flynyddol yn Llyndy Isaf, yn Eryri, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a CFfI Cymru wedi penderfynu adolygu'r fformat i helpu parhau i gynnig y cyfle gorau posibl i bobl ifanc.
Eglurodd Arwyn Owen, Rheolwr Fferm, Hafod y Llan a mentor yr Ysgoloriaeth: "Ma rhai o'r adborth a gawsom am yr ysgoloriaeth yn awgrymu nad yw ysgoloriaeth o flwyddyn yn ddigon hir. Ac felly rydym wedi penderfynu treialu profiad tair blynedd gyda'r ysgolhaig presennol, Teleri Fielden. Bydd y profiad hwn yn debyg i brentisiaeth a bydd yn helpu i ddatblygu'r ffermwr ifanc a'r fferm.
Llinell amser
2011
Diolch i chi

2012
Rydyn ni ac CFfI yn dod at ein gilydd
I gynnig rhaglen ysgoloriaeth gynhyrfus gyda’r nod o gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ffermwyr a chadw traddodiadau’n fyw.

2013
Caryl Hughes sy’n ennill yr ysgoloriaeth gyntaf
Roedd wedi bod yn amser hir ers i’r tir gael ei ffermio felly pan ddechreuodd yr ysgolor cyntaf, Caryl Hughes, roedd ganddi dipyn o dasg i gael y lle i drefn a phrynu stoc.
