Ymuno
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.
Plasty a gerddi hudolus, gyda golygfeydd godidog o Eryri. | Enchanting mansion and gardens, with spectacular views of Snowdonia.
Llanfairpwll, Anglesey, LL61 6DQ
Asset | Opening time |
---|---|
Tŷ | House | 11:00 - 16:00 |
Gardd | Garden | 10:30 - 17:00 |
Siop | Shop | 10:30 - 17:00 |
Caffi’r Hen Laethdy | Old Dairy Cafe | 10:00 - 16:30 |
Ciosg yr Ystafell Haul | Sun room kiosk | 11:00 - 16:00 |
Mae mynediad olaf i'r Tŷ am 3:30pm. Gall amseroedd agor Ciosg yr Haul amrywio. | Last admission to the House is at 3:30pm. Sunroom Kiosk opening times may vary.
Ticket type | Rhodd cymorth | SafonArferol |
---|---|---|
Adult | £13.20 | £12.00 |
Child | £6.60 | £6.00 |
Family | £33.00 | £30.00 |
1 adult, 3 children | £19.80 | £18.00 |
Siop lyfrau ail-law yn yr Orendy o flaen y Tŷ wrth y Terasau. | Second-hand bookshop at the Orangery at the front of the House near the Terraces.
Mae croeso i gŵn ar dennyn byr ym mhob rhan o'r gerddi, ac eithrio'r terasau Eidalaidd oherwydd y gwaith plannu manwl yn yr ardal honno | Dogs on short leads are welcome in all areas of the gardens, except for the Italianate terraces due to the precise planting in this area.
Mae Caffi'r Hen Laethdy ger y maes parcio, y siop a'r dderbynfa ymwelwyr. Diodydd poeth ac oer, prydau ysgafn a chacennau ar gael. Lle i eistedd y tu mewn a'r tu allan | Old Dairy Cafe located next to car park, shop & visitor reception. Serving hot and cold drinks, light bites and cakes. Indoor and outdoor seating.
Mae Siop yr Hen Laethdy ger y maes parcio, y caffi a'r dderbynfa ymwelwyr | Old Dairy shop located next to car park, cafe and visitor reception.
Llefydd parcio i bobl anabl ger y dderbynfa ymwelwyr | Accessible parking available next to visitor reception.
Nesaf at y maes parcio a ger mynedfa'r Tŷ | Located next to the car park and near the House entrance.
Llwybr hygyrch, ond gyda rhai llethrau serth. Tŷ bach wedi’i addasu yng Nghaffi’r Hen Laethdy. Gwasanaeth bygi sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr.
Mae llwybrau hygyrch i'w gweld ar daflen y safle ac i'w lawrlwytho o'r wefan | Accessible routes are available on our property leaflet and to download from the website.
Mae toiledau hygyrch ger maes parcio'r ymwelwyr, yn yr Hen Laethdy | Accessible toilets are located next to the visitor car park in the Old Dairy.
Mae mannau codi a gollwng wrth ymyl y Tŷ | Pick up and drop off points adjacent to the House.
Mae llwybrau gwastad i'w cael o gwmpas y tiroedd. Rhagor o wybodaeth ar fap y safle | Level access routes available around the grounds, more information available in the property map.
Mae dolenni sain ar gael wrth bob til | Induction loops available at all till points.
Mae arwyddion o gyffordd 7 a 8a ar y A55, neu A4080 Ffordd Brynsiencyn. Trowch yr A5 i ffwrdd ar ben gorllewinol pont Britannia | Signposted from junction 7 and 8a of A55, or A4080 to Brynsiencyn. Turn off A5 at west end of Britannia Bridge.
Parcio: am ddim, 60 llath | free, 60 yards
Llanfairpwll 1¾ milltir | 1¾ miles
Mae bws llwybr 42 o Fangor i Langefni (pasio gorsaf Bangor a ger gorsaf Llanfairpwll) yn stopio ar ffordd Brynsiencyn, ger y maes parcio | The 42 bus route from Bangor to Llangefni (passes Bangor train station and near Llanfairpwll train station) stops on the Brynsiencyn road, near the car park.
NCN8, ¼ milltir | ¼ mile Gwybodaeth am lwybr beicio | Cycle route information
Mae gan Blas Newydd sgôr o ddwy bawen. Bydd cynffonnau’n ysgwyd yn llawn cyffro wrth i ni groesawu eich ci i’r ardd a’r tiroedd. Bydd wrth ei fodd yn crwydro’r Ardd Rhododendron, Cwm Camelia, Ardd Goed a Choed yr Eglwys.
Darganfyddwch fwy ym Mhlas Newydd gyda diwrnod allan i'r grŵp gyfan. O archwilio’r plasty hudolus i grwydro drwy’r ardd restredig Gradd 1, mae rhywbeth i bawb ym Mhlas Newydd.
Cymerwch olwg ar y map o Dŷ a Gardd Plas Newydd i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad.
Mae Plas Newydd yn gartref i furlun 58-troedfedd enwog Rex Whistler a llawer o weithiau celf.
Mae’r ardd restredig Gradd I yn cynnwys 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir.
Mae Caffi'r Hen Laethdy yn cynnig dewis o ddiodydd a chacennau i chi eu mwynhau. Mae Ciosg yr Ystafell Haul ger y Tŷ yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd a byrbrydau. Gall amseroedd agor amrywio.
Mae siop yr Hen Laethdy yn cynnig amrywiaeth o anrhegion, nwyddau cartref, cynnyrch lleol ac eitemau tymhorol. Gallwch ddod o hyd i anrhegion ar gyfer pob achlysur ym Mhlas Newydd.
Dewch am antur yng Nghoed y Llaethdy. Mwynhewch yr ardal chwarae antur neu gêm o golff ffrisbi.
Mae Plas Newydd yn cynnig y cyfle gorau i weld gwiwer. Chwiliwch am rhywle i eistedd a gwyliwch amdanyn nhw ar eich ymweliad.
Beth am fentro i'r ardd Rhododendron. Dilynwch y llwybr am hanner milltir i’r rhan ddiarffordd yma o’r ardd.
Crwydrwch trwy gartref teuluol Ardalydd Môn, gweld murlun enwog Rex Whistler a chymerwch eiliad i ymlacio tu mewn i’r Tŷ.
Pa un a fyddwch yn dod draw gyda’ch plant neu eich wyrion a’ch wyresau, mae yna lond lle o bethau i ddiddanu’r holl deulu ym Mhlas Newydd. Ewch i archwilio coedwig yr Hen Laethdy er mwyn chwilio am ein man chwarae , rhowch gynnig ar gêm o Golff Ffrisbi neu ewch am dro i’r Tŷ Pen Coeden i fwynhau rhywfaint o amser gyda’r teulu yn yr Ardd Goed.
Chwiliwch am gorneli cudd gardd yn llawn o bleserau ym mhob tymor. Gyda dros 40 erw o ardd a 129 erw o goetir a pharcdir i grwydro trwyddyn nhw.
Os ydych eisiau cyfarfod ffrindiau newydd, neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, gallai Parkrun Iau 2k ym Mhlas Newydd fod yr union beth i chi.
Mae caffi’r a chiosg yn cynnig digon o gyfle i aros am ddiod a byrbryd, cinio ysgafn a chacennau ffres a’r siop hefo ddigonedd o anrhegion a danteithion i drio.
Darganfyddwch gilfachau cudd Plas Newydd ar daith gerdded lawn o olygfeydd trawiadol dros Afon Menai, y Faenol ac Eryri.
Mae’r llwybr hawdd hwn o gwmpas tiroedd Plas Newydd yn cynnig hwyl i’r teulu cyfan, gan gynnwys tŷ yn y coed a maes chwarae antur, gyda chefnlen o Eryri ac Afon Menai.
Archwiliwch goetir cynhenid amrywiol a pharcdir hynafol gyda golygfeydd o’r tŷ a’r gerddi ym Mhlas Newydd a mynyddoedd Eryri.
A quirky, period cottage on the Plas Newydd Estate.
This Georgian house retains much of its original character and looks out over Llanlleiana Bay.
A cosy farmhouse, a few minutes’ walk from the wild, rugged coastal path and a pretty seaside town with a sandy beach
A pretty cottage on the north coast of Anglesey with lovely beach views from the back garden.
Os ydych eisiau cyfarfod ffrindiau newydd, neu rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol, gallai Parkrun Iau fod yr union beth i chi. | Whether you want meet new friends, or want to try something different, Junior Parkrun could be just the thing for you.
Darganfyddwch ddiwrnodau allan i'r teulu gyfan yn llawn dop o wahanol ffyrdd o chwarae. | Discover family days out jam-packed with different ways to play.
Mae Plas Newydd yn blasty yn cynnwys gerddi hudolus, gyda golygfeydd godidog o Eryri ac Afon Menai. Yn gartref i Marcwis Môn, mae ei drigolion hanesyddol blaenorol yn cynnwys y Marcwis 1af, a gollodd ei goes yn ystod Brwydr Waterloo, a’r 5ed Marcwis tanbaid. Mae’r tŷ cain hwn o’r 18fed ganrif yn gymysgedd diddorol o glasurol a Gothig sydd hefyd yn cynnwys murlun 58 troedfedd Rex Whistler.
Mae’r gerddi rhestredig Gradd I yn cynnwys y Teras, yr Ardd Rhododendron ac Arboretum Awstralasia. Yn berffaith ar gyfer mwynhau antur awyr agored, mae uchafbwyntiau’r ardd yn cynnwys tŷ coeden wedi’i adeiladu â llaw, cuddfannau natur, cwrs golff Frisbee™, maes chwarae a gwiwerod coch preswyl.
Mae Plas Newydd wedi gweld newidiadau mawr dros y blynyddoedd. Fe gafodd ei drawsnewid o fod yn ‘dŷ parti’ Fictoraidd i fod yn gartref teuluol cyfforddus.
Dysgwch am stori diddorol ‘Marcwis y ddawns’, a drodd gapel y teulu ym Mhlas Newydd yn theatr a gwastraffu ei etifeddiaeth ar wisgoedd crand.
Roedd Rex Whistler yn artist ifanc talentog a gomisiynwyd i baentio murlun mawr yn yr Ystafell Fwyta ym Mhlas Newydd a ddaeth yn ffrind i’r teulu.
O Derasau Eidalaidd a gardd rhododendron i ardd goed Awstralasia a choetir helaeth, darganfyddwch fwy am sut mae ein tîm o arddwyr a gwirfoddolwyr yn gofalu am yr ardd Gradd I hon ym Mhlas Newydd.
Manteisiwch ar gyfle newydd fel gwirfoddolwr ym Mhlas Newydd a dewch yn aelod gwerthfawr o’r tîm.
Am y tro cyntaf, rhennir hanes Pumed Ardalydd Môn yn nhŷ Plas Newydd drwyddi draw ar ffurf arddangosfa gynyrfiadol. Mae ‘Y cwbl oedd ar ôl’ yn adrodd hanes Henry Cyril Paget a Gwerthiannau Mawr Môn, ble gwerthwyd popeth yn ei feddiant i dalu am ei ddyledion.
Mwynhewch fynediad i fwy na 500 o leoliadau gydag aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Ymunwch heddiw a helpwch i ddiogelu natur, harddwch a hanes – i bawb, am byth.