Skip to content
Illustrations of iconic Welsh imagery including a dragon, a castle with a Welsh flag, a traditional Welsh lady, a girl with binoculars birdwatching, a Welsh stone cottage with mountains in the background, a family walking a dog on a beach, a daffodil and traditional Welsh patterns. Text reads 'Cymru' and 'Dydd Gŵyl Dewi Happus'.
Dydd Gŵyl Dewi: Cymru | © Nationak Trust/Rhi Moxon

Dydd Gŵyl Dewi yng Nghymru

Dathlwch Dydd Gŵyl Dewi gyda diwylliant bywiog o Gymru, cerddoriaeth fyw, digwyddiadau cyffrous a gweithgareddau sy’n addas i’r teulu yn rhai o’r llefydd mwyaf eiconig ar hyd a lled Cymru. Er mwyn galluogi mwy o bobl i gael mynediad i’n lleoedd a mwynhau’r diwrnod arbennig hwn, bydd ein holl safleoedd talu am fynediad am ddim i ymweld â hwy ar 1 Mawrth. Ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi yng ngogledd Cymru

Neuadd a Gardd Erddig, Wrecsam 

Mwynhewch benwythnos o ddiwylliant a cherddoriaeth o Gymru, gweithgareddau crefft a theithiau tywys gyda gogwydd Gymreig. Cewch ddysgu rhywfaint o Gymraeg, canfod straeon am grefftwaith Gymreig ddiddorol yn y tŷ, cael eich wyneb wedi’i baentio (dydd Sul yn unig) a dathlu seiniau ein gwlad gyda’r delynores Hero Douglas ddydd Sadwrn a Lleisiau Clywedog a Chôr Meibion Dinbych ddydd Sul.

Wrecsam

Yn hollol agored heddiw
Ymwelwyr yn yr ardd yn y gwanwyn yn Erddig

Castell Y Waun a’r Ardd, Wrecsam 

Mwynhewch ddathliad ymlaciedig o draddodiadau o Gymru yng Nghastell y Waun. Beth am wneud ychydig o grefftau gan greu eich llwy garu eich hun gyda siapiau lliwgar, crwydro drwy Ystafelloedd y Wladwriaeth sy’n llawn cennin Pedr trawiadol a blodau tymhorol, mwynhau’r golygfeydd ysblennydd o’r ardd, a gwledda ar ddanteithion o Gymru yn yr Ystafelloedd Te.

Y Waun, Wrecsam

Yn rhannol agored heddiw
Golygfa o’r castell yn y gwanwyn yng Nghastell y Waun, Wrecsam

Gardd Bodnant, Conwy 

Ble fyddai Dydd Gŵyl Dewi heb gennin Pedr? Mwynhewch yr arddangosfeydd llachar wrth i Ddôl yr Hen Barc a'r llennyrch glaswelltog eu trawsnewid yn garped euraid o felyn. Gyda magnolias a blodau tymhorol yn cyhoeddi dyfodiad y gwanwyn, mae Gardd Bodnant yn cynnig y ddihangfa berffaith i ganol byd natur ar y diwrnod arbennig hwn.

ger Bae Colwyn, Conwy

Yn rhannol agored heddiw
Golygfa o gennin Pedr yn y ddôl gyda’r tŷ yn y cefndir yng Ngardd Bodnant yng Nghonwy, Gogledd Cymru

Castell Penrhyn a'r Ardd, Bangor 

Ymunwch â ni yng Nghastell Penrhyn a’r Ardd ddydd Sadwrn 28 Chwefror am 10am am daith dywys hanesyddol gyda Rhys Mwyn ym Mhorth Penrhyn (mae’n rhaid archebu lle ymlaen llaw) yn rhan o Ŵyl Dewi Bangor. Ar 1 Mawrth bydd arddangosiadau hollti llechen gyda chwarelwyr o’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol a choginio yn y Ceginau Fictorianaidd.

Bangor, Gwynedd

Yn rhannol agored heddiw
View of daffodils in the garden with Penrhyn Castle in the background in Gwynedd, North Wales

Tŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn 

Beth am gael blas ar bethau cyn y diwrnod mawr wrth i ni groesawu’r bit-bocsiwr sy’n enwog yn rhyngwladol, Mr Phormula, i Blas Newydd. Gyda gweithdai dwyieithog yn cael eu cynnal drwy’r diwrnod ar ddydd Sadwrn 28ain o Chwefror, galwch heibio er mwyn rhyddhau’r cerddor ynnoch chi wrth i ni ddathlu’r gorau o greadigrwydd a diwylliant o Gymru.

Llanfairpwll, Sir Fôn

Yn hollol agored heddiw
Tŷ a Gardd Plas Newydd, Ynys Môn, Cymru

Tŷ Aberconwy, Conwy 

Ymunwch â ni, mewn partneriaeth â Menter Iaith Conwy, am benwythnos o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi Sant a mwynhau cerddoriaeth fyw, adrodd straeon hudolus a chrefftau creadigol. Dewch ynghyd i fwynhau cerddoriaeth delyn draddodiadol a sesiynau adrodd straeon i’r teulu oll (y ddau ar y dydd Sadwrn yn unig), bod yn greadigol gyda chrefftau cennin Pedr papur, rhannu diodydd poeth a chacennau cri, ac anfon cerdyn post arbennig i roi gwên ar wyneb rhywun.

Conwy

Ar gau nawr
Y tu allan i Dŷ Aberconwy, Cymru

Glan Faenol, Bangor 

Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi drwy ymuno â ni am daith gerdded gymunedol o’r Felinheli i Glan Faenol, cyn gwneud eich hun yn gyfforddus ar gyfer Gweithdy gwerin a jazz byw o 2-3pm. Wedi hynny, ewch draw i Llofft, Felinheli am baned a chacen haeddiannol - mae talebau ar gyfer lluniaeth ar gael i bawb sy’n mynychu wedi’r gig.

Bangor, Gwynedd

Yn hollol agored heddiw
Coetir Glan Faenol

Sarn y Plas, Pen Llŷn 

Mae Sarn y Plas yn agor ei ddrysau ar 1 Mawrth o 11-3pm, gan wahodd ymwelwyr i archwilio hanes R. S. Thomas a’i wraig, Elsie Eldridge. Bydd artistiaid o’r arddangosfa ‘Eiliad’, a grëwyd mewn partneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru, hefyd ar y safle i drafod eu gwaith a’u cydweithrediad gyda chymunedau lleol, sefydliadau a busnesau ar hyd a lled Pen Llŷn.

Bwthyn Sarn y Plas

Dathliadau Gŵyl Ddewi yng nghanolbarth Cymru

Castell a Gardd Powis, Y Trallwng 

Cymerwch lun teuluol ar safle hunlun Gŵyl Ddewi, ymunwch mewn sesiwn adrodd stori ddwyieithog, defnyddiwch eich creadigrwydd gyda chrefftau sydd â themâu o Gymru, a dilynwch y llwybr dod o hyd i gennin Pedr yn y castell tra’n mwynhau cerddoriaeth draddodiadol o Gymru sy’n atsain drwy’r ystafelloedd - mae digonedd o bethau i’r teulu cyfan eu mwynhau.

Y Trallwng, Powys

Yn rhannol agored heddiw
Golygfa o gennin Pedr yn yr ardd gyda Chastell Powis ar y bryn yn y cefndir ym Mhowys, Canolbarth Cymru.

Llanerchaeron, Ceredigion 

Dathlwch draddodiadau o Gymru yn Llanerchaeron. Archwiliwch gasgliad Geler Jones a darganfod sut mae clocsiau traddodiadol yn cael eu gwneud, profwch gacennau cri wedi’u pobi’n ffres yn y ceginau hanesyddol a mwynhewch weithgareddau ymarferol i’r teulu i gyd yn yr ardd. Gyda chorau o Gymru a gweithdai printio galw heibio creadigol hefyd, does dim ffordd well o archwilio a dathlu sgiliau treftadaeth o Gymru.

ger Aberaeron, Ceredigion

Yn rhannol agored heddiw
Y tu allan i Lanerchaeron gyda chennin Pedr yn blodeuo.

Dathliadau Gŵyl Ddewi yn ne Cymru

Tŷ Tredegar, Casnewydd 

Darganfyddwch olygfeydd, seiniau a straeon o Gymru dros y penwythnos i gyd yn Nhŷ Tredegar. Ymgollwch yn yr awyrgylch wrth i chi fwynhau cerddoriaeth fyw, crefftwaith traddodiadol, llwybr teuluol, gweithgareddau crefftus a bwyd blasus o Gymru. Peidiwch â cholli Gwilym Bowen Rhys yn perfformio ddydd Sadwrn a’r Daith Mythau a Chwedlau o Gymru arbennig er mwyn dadorchuddio mwy o dreftadaeth gyfoethog ein cenedl ar ddydd Sul (mae archebu lle yn hanfodol).

Newport

Yn hollol agored heddiw
Clumps of bright yellow daffodils blooming on a lawn with Tredegar House, Newport, behind.

Gerddi Dyffryn, Caerdydd 

Ymunwch â ni am ddathliad Dydd Gŵyl Dewi mewn partneriaeth â’r Fenter Iaith. Profwch y gorau o ddiwylliant Cymru yn fyw gyda cherddoriaeth y delyn, dawnsio gwerin bywiog, perfformiadau gan gorau lleol, a chrefftau wedi’u hysbrydoli gan Gymru - dyma’r lle perffaith i ddathlu Cymru a mwynhau diwrnod allan hudolus gyda’ch gilydd.

Sain Nicholas, Bro Morgannwg

Yn rhannol agored heddiw
A boy plays among the daffodils at Dyffryn Gardens, Vale of Glamorgan

Dinefwr, Sir Gaerfyrddin 

Ymunwch â ni yn Eglwys Llandyfeisant sydd wedi’i lleoli o fewn ystâd hanesyddol Dinefwr wrth i ni ddathlu’r adar o fythau a chwedlau o Gymru. Ymunwch â’r arlunydd Ami Marsden a chrëwch eich creadigaeth eich hun i’w gwisgo - p’un a yw hynny’n adenydd neu fygydau - a mwynhau seiniau côr o Gymry yn llenwi’r lle gyda cherddoriaeth.

Llandeilo, Sir Gaerfyrddin

Yn rhannol agored heddiw
Gwartheg gwyn eiconig Dinefwr yn Sir Gaerfyrddin, Cymru.

Tŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Dinbych-y-pysgod 

Teithiwch drwy amser i Ddinbych-y-pysgod Duduraidd a darganfyddwch ystafelloedd wedi’u haddurno mewn gwyrddni tymhorol, cennin a chennin Pedr euraid, dewch i gwrdd â chymeriadau mewn gwisgoedd yn dod â hanes yn fyw, mwynhewch weithgareddau plant, ac ymlaciwch wrth i chi wrando ar seiniau hyfryd telynores yn perfformio cerddoriaeth draddodiadol Gymreig.

Dinbych y Pysgod, Sir Benfro

Ar gau nawr
Y tu mewn i’r Neuadd yn Nhŷ’r Masnachwr Tuduraidd, Sir Benfro. Mae yna ddau fwrdd pren gyda dysglau a jygiau pren arnynt. Mae un wal wedi’i pheintio gyda murlun o longau.

Gardd Goedwig Colby, Sir Benfro 

Gwnewch eich hun yn gyfforddus ar gyfer chwedlau o Gymru gyda’r storïwr Phil Okwedy, mwynhewch gerddoriaeth draddodiadol Gymreig gyda’r delynores Elin Lloyd, a gadewch i greadigrwydd eich plantos lifo wrth iddynt roi cynnig ar chwarae’r delyn fach neu fwynhau grefftau themâu o Gymru. Gorffennwch eich ymweliad gydag ychydig o ddanteithion o Gymru yn yr ystafell de.

ger Llanrath, Sir Benfro

Yn rhannol agored heddiw
A view of the Walled Garden in bloom at Colby Woodland Garden, with part of the wall visible to the right, and beds filled with greenery and flowering plants in the foreground. A white visible and bird table are visible in the image.

Welsh myths and folklore

Chwedlau a llên gwerin Cymru 

Dysgwch am y chwedlau sydd wedi siapio tirweddau hynafol Cymru. O darddle ein draig goch enwog yn Eryri i lyn hudol Cwm Llwch.

Golygfa o Slabiau Idwal yng Nghwm Idwal, y Carneddau a’r Glyderau, Gwynedd, Cymru

Taste of Wales: traditional Welsh bakes

Bara Brith Penrhyn Castell 

Pobwch fara brith Cymreig traddodiadol gyda’r rysáit hawdd hon o geginau Castell Penrhyn yn Oes Fictoria.

Bara brith, trît amser te Cymreig traddodiadol, yn y bwyty ym Mhlas Newydd, Ynys Môn

Cacennau cri Tŷ Tredegar 

Mae’r rysáit cacennau cri Cymraeg syml hon yn creu cacennau meddal, menynaidd gyda phinsied o sbeis – yn gyflym i’w gwneud ac yn berffaith ar gyfer te neu bwdin.

A close up of a plate of sugar dusted Welsh cakes in the restaurant at Dinefwr Park, Llandeilo, Wales

Ein partneriaid

Ariennir gan Lywodraeth Cymru

black and white logo with a dragon, a daffodil, and the words 'Funded by Welsh Government' and 'St David's Day' in Welsh and English.

You might also be interested in

Cymru 

Darganfyddwch gestyll tylwyth teg, gerddi godidog a thirwedd Geltaidd wyllt sy’n drysorfa o chwedlau ar eich ymweliad â Chymru.

Gardd a thŷ dan orchudd barrug yn Erddig, Wrecsam

Diwrnodau allan i'r teulu yng Nghymru 

Gyda gweithgareddau hwyl a digwyddiadau cyffrous, mae digonedd o ddiwrnodau gwych i’r teulu i’w cael yng Nghymru. Darganfyddwch gestyll crand, cwblhewch weithgareddau’r ’50 peth i’w gwneud cyn dy fod yn 11 ¾’, neu llosgwch ychydig o egni mewn ardaloedd chwarae naturiol.

Teulu’n taflu brigau i’r afon ar y bont yn Erddig, Cymru

Cestyll a chaerau yng Nghymru 

Camwch i mewn i gaer ganoloesol â dwnsiynau yn y Waun neu ymwelwch â chartref tywysogion Cymru yng Nghastell Powis. Darganfyddwch rai o gestyll gwychaf ac enwocaf Cymru.

Golygfa o wyneb gogleddol Castell y Waun ar ddiwrnod rhewllyd yng Nghymru.

Tai ac adeiladau yng Nghymru 

Darganfyddwch blastai Cymreig mawreddog a’u casgliadau, o gartrefi teuluol i adeiladau a ddyluniwyd gan benseiri enwog. Darganfyddwch hanes a hanesion o’r oes a fu mewn lleoliadau trawiadol ledled Cymru.

Golygfa o'r awyr yn y gaeaf o Lanerchaeron, Ceredigion

Gerddi a pharciau yng Nghymru 

Ymwelwch â chasgliad arbennig o erddi a pharciau yng Nghymru. O erddi muriog i ystadau cefn gwlad a gerddi coed, mae digon i’w ddarganfod.

Yr Ardd Aeaf liwgar yng Ngardd Bodnant, Cymru wedi tynnu ei llun ar doriad gwawr

Llefydd sy’n croesawu cŵn yng Nghymru 

O’r mynyddoedd a’r traeth, i erddi a pharcdiroedd, gallwch ganfod llwybr cerdded cŵn yng Nghymru y byddwch chi, a’ch cyfaill pedair coes, yn ei wir fwynhau. Dyma eich canllaw ar gyfer rhai o’r lleoliadau gorau yng Nghymru i ymweld â nhw gyda chŵn.

Plant a chi yn Llyn Bosherston, Stagbwll, Sir Benfro
Golygfa o Gastell Powis, uwchben ei derasau, Powys, Cymru, yn yr hydref.

Dewch i ddarganfod Cymru

Gwlad Geltaidd gyda gorffennol diwydiannol, yn llawn mythau, chwedlau, barddoniaeth a chân. Croeso i Gymru.