Castell Penrhyn a'r Ardd




Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru, Safle Treftadaeth y Byd
Llongyfarchiadau Llechi Cymru. Mae Pwyllgor Treftadaeth y Byd UNESCO newydd ddynodi Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru yn Safle Treftadaeth y Byd.
Rydyn ni wrth ein bodd bod Castell Penrhyn yn rhan o'r pedwerydd Safle Treftadaeth y Byd yng Nghymru; mae'r dynodiad yn golygu cymaint i ni. Mae gennym straeon pwysig ym Mhenrhyn o lechi yn ogystal â siwgr, a chaethwasiaeth. Mae bod yn rhan o'r dynodiad yn gyfle cyffrous i ni i gyd weithio gyda phartneriaid i uno'r straeon hyn sydd wedi llunio'r cymunedau o'n cwmpas ac sy'n cael effaith bellgyrhaeddol ar gymunedau ledled y byd.
Rydym eisoes wedi elwa’n fawr o fod yn rhan o ddatblygiad yr enwebiad ac rydym wir yn gweld pwysigrwydd cydweithio i adrodd y stori bwysig hon sy’n eiddo i ni i gyd yng Ngogledd-orllewin Cymru a thu hwnt.