Y Nadolig yng Nghastell y Waun

Bydd digonedd o hwyl yr ŵyl yn aros amdanoch yng Nghastell y Waun y Nadolig hwn, rhwng 3 a 23 Rhagfyr. Galwch heibio i fwynhau’r dathliadau canoloesol gwych, Siôn Corn yn ei groto, crefftau traddodiadol, gweithdai hwyliog, teithiau cerdded a llawer mwy...

Dihangwch i Nadolig y dychymyg yng Nghastell y Waun

Nadolig yng Nghastell y Waun

Rhwng 8 a 23 Rhagfyr 2018. Dewch i fyd y dychymyg yng Nghastell y Waun y Nadolig hwn. Dilynwch ôl troed chwe phlentyn yr Arglwydd Howard de Walden yn yr 1920au wrth i ni addurno Castell y Waun fel castell rhyfeddol o theatrau a storïau tylwyth teg.

Siôn Corn yn ei groto canoloesol yng Nghastell y Waun

Dewch i ymweld â Siôn Corn yn ei groto

WEDI GWERTHU ALLAN. 10-11 a’r 17-18 Rhagfyr. Dewch i ymweld â Siôn Corn yn ei groto hyfryd yn Nhŵr canoloesol Adam.

Sebonau ffelt crefftau’r Nadolig Castell y Waun 2016

Gweithdai crefft Nadolig

Ymunwch â Josie ein Swyddog Profiad Ymwelwyr a’n gwirfoddolwyr mewn gweithdy crefft Nadolig y mis Rhagfyr hwn; cyfle gwych i greu anrheg neu addurn Nadolig hardd ar gyfer eich cartref.

Addurn Nadolig traddodiadol 'gods eye' yn hongian ar goeden Nadolig

Penwythnos crefftau ac addurniadau pren Nadolig

Ar 3-4 Rhagfyr dewch i gyfarfod James o ‘Woodland Classroom’, wrth iddo ddangos sut i greu addurniadau Nadolig traddodiadol. Bydd cyfle i weld ei waith, a rhoi cynnig arni eich hun am ddim.