Ebrill – Y Pasg, tymor yr aileni

Byddai pobl yr oesoedd canol yn rholio wyau adeg y Pasg, ac maen nhw’n dal i wneud hynny heddiw yng Nghastell y Waun
Cyhoeddwyd : 06 Apr 2017 Diweddariad diwethaf : 19 Jul 2017

Wrth i ni ddathlu dyfodiad y Pasg yng Nghastell y Waun, dyma gyfle i ni feddwl am sut fyddai pobl wedi dathlu’r tymor yn y castell dros y saith can mlynedd ddiwethaf: ymhell cyn i ‘Helfa Wyau Cadbury’ ddenu heidiau o deuluoedd i chwilio am drysorau melys a fydd yn cadw eu plant yn dawel am y tro, roedd y castell yn dyst i sawl arfer hynafol arall.

Roedd dydd Mawrth Ynyd, y diwrnod cyn dechrau’r cyfnod o ymprydio dros y Grawys, yn ddiwrnod o ddathlu a gwledda – byddai unrhyw fwyd na fyddai’n para dros gyfnod y Grawys (fel cig) yn cael ei fwyta . . . a’r arfer o fwyta cig ar yr adeg hwn yw tarddiad y gair ‘carnifal’ (cig yn Lladin).

Roedd y Grawys (Lent yn Saesneg o’r gair Sacsonaidd ‘Lenct’) yn gyfnod o ymprydio deugain diwrnod o hyd, yn cyfateb i’r cyfnod a dreuliodd Crist yn crwydro’r anialwch. Mae’n bosibl ei fod yn gyfnod o ymprydio gorfodol mewn cymunedau amaethyddol wrth i gyflenwadau bwyd y gaeaf brinhau.

Mae’n debyg bod y gair Saesneg ‘Easter’ yn tarddu o’r gair ‘Eostre’, duwies y gwanwyn yng ngogledd-Ewrop: byddai gweld gwyrddi ffres yn y coetiroedd a’r dolydd wedi bod yn arwydd fod y gwanwyn ar ei ffordd a’r gaeaf hir yn dod i ben, ac roedd yn gyfnod o ddathliadau yn y byd paganaidd.

Dyma adeg croeshoeliad ac atgyfodiad Crist, ac mae’n anorfod bod sawl defod ac arfer cyntefig sy’n gysylltiedig â mythau ‘adfywio’ wedi dod yn rhan o’r Ŵyl Gristnogol.

Yn yr oesoedd canol, roedd pobl yn ei ystyried yn anlwcus i ddefnyddio hoelion ac offer haearn ar ddydd Gwener y Groglith, er cof am y croeshoeliad, ac roedd y diwrnod ei hun yn cael ei ystyried yn anlwcus. Yn ôl pob sôn byddai glowyr a mwynwyr yn aml yn gwrthod gweithio ar ddydd Gwener y Groglith a byddai pysgotwyr yn amharod i fynd i’r môr.

Roedd ein Dydd Llun ‘Gŵyl y Banc’ yn amser ar gyfer gemau traddodiadol a gweithgareddau cymunedol fel dawnsio Morris. Roedd ‘Pace Egging’, sef gêm o gasglu cynifer o wyau lliwgar wedi’u berwi’n galed yn boblogaidd yng ngogledd-orllewin Prydain, ac roedd rholio wyau yn gyffredin yn ne Lloegr, a hefyd yn Sir Amwythig. Mae wyau wastad wedi cynrychioli aileni – i’r paganiaid dychweliad yr haul, ac i’r Cristnogion Atgyfodiad Crist.

Gyda llaw, mae’r geiriau Saesneg ‘Pace’ ‘Passion’ a’r gair Cymraeg ‘Pasg’ oll yn tarddu o’r Lladin – unwaith eto, fe wnaeth y Rhufeiniaid adael eu hôl!

Yng Nghymru yn benodol, roedd yn gyffredin i weld pobl yn cerdded yn droednoeth i’r eglwys fore Gwener y Groglith, mewn ymgais i beidio â tharfu ar y tir, ac yn lleol, yn Ninas Brân yn Llangollen, roedd pobl yn dal i gerdded i ben y copa ar ddechrau oes Fictoria, o bosibl yn cario pwced o ddŵr i adlewyrchu’r wawr, a hyd yn oed i wneud tin-dros-ben dair gwaith wrth i’r haul godi!

Heddiw yng Nghastell y Waun, rydym yn dathlu’r tymor ac yn cynnig llawer o weithgareddau yn ystod gwyliau’r ysgol mewn lleoliad sy’n atyniad gwych i dwristiaid – beth am ddilyn ein Helfa Pasg, a dysgu sut mae ein Marchog Natur bach yn darganfod y gyfrinach i’r swyn hud wnaeth ei droi yn fach?

Ac oes, mae gennym Wyau Pasg hefyd ….. Pasg Hapus bawb!