Buddugoliaeth dros danwydd ffosil yn Nghastell Penrhyn

Aelodau’r Cynulliad y tu allan i foeler biomas newydd Castell Penrhyn

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ddyfodol disglair, glân a gwyrdd yn y ffordd mae’n cyflenwi ynni i’n bythynnod, ein cestyll a’n safleoedd cefn gwlad.

Mae’r olaf o’n safleoedd mawr wedi diffodd ei system wresogi olew am y tro olaf. Yn ei le mae boeler biomas newydd sbon sy’n fwy caredig tuag at yr amgylchedd. Golyga hyn ein bod gam mawr yn nes at sicrhau bod 100% o’n hynni yng Nghymru yn dod o ffynonellau adnewyddadwy. Mae hyn yn lleihau ein hallyriadau carbon ac yn arbed arian i’n helpu i dalu am waith cadwraeth hanfodol.

Mae Castell Penrhyn ger Bangor wedi ymuno â’n heiddo eraill sy’n rhedeg ar danwydd adnewyddadwy. O Stagbwll yn Sir Benfro i Blas Newydd ar Ynys Môn, mae’n safleoedd yn harneisio pŵer biomas, trydan dŵr, pympiau gwres a phaneli haul i gynhyrchu eu hynni eu hunain. 

Carreg filltir

I nodi’r garreg filltir hon mae aelodau o Gynulliad Cymru wedi bod i Gastell Penrhyn i weld y boeler biomas yn gweithio am y tro cyntaf a dysgu mwy am ein prosiectau ynni arloesol eraill drwy Gymru. 

Meddai Justin Albert, Cyfarwyddwr yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru: “Mae Ynni adnewyddadwy wedi bod o gwmpas ers amser yng Nghymru ond dyma’r tro cyntaf i ni ddatblygu cynllun wedi ei gydlynu’n genedlaethol gyda’r pwyslais ar arfer da i helpu cadwraeth.

“Mae’r tywydd a’r hinsawdd wedi chwarae rhan bwysig yn y broses o greu ein llefydd arbennig yng Nghymru ond maen nhw hefyd yn eu gwneud yn anodd i’w cynnal a’u cadw, gyda thoeau’n gollwng a’r gost yn enfawr i’w cadw’n sych ac yn gynnes i’r ymwelwyr eu mwynhau. Ond gall tywydd ac amgylchedd arbennig Cymru hefyd fod yn gryfder os ydyn ni eisiau mynd ati i gynhyrchu ynni adnewyddadwy.

“Mae’r incwm rydyn ni’n ei greu a’r arian rydyn ni’n ei arbed yn ein galluogi i ddechrau rhoi mwy o arian i mewn i’n cestyll, ein bythynnod a’n gwaith cadwraeth. Mae’n golygu y gallwn helpu i wella’r llefydd arbennig yma a’r blaned hefyd a hynny heb gyfaddawdu ar y pethau sy’n gwneud inni garu’r llefydd yma gymaint.” 

Chwarae ein rhan

Yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mae gennym strategaeth i ddefnyddio llai o danwydd ffosil ac arbed arian ar filiau ynni er mwyn gallu buddsoddi’r arian hwnnw yn ein gwaith cadwraeth. I wneud hyn rydym yn ymrwymo i ddiwallu 50% o’n hanghenion ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020 drwy arbed ynni, creu ein trydan a’n gwres ein hunain a rhoi’r gorau i ddefnyddio olew.

Yng Nghymru rydyn ni’n cyfrannu at wireddu’r weledigaeth hon drwy groesawu prosiectau sy’n creu ynni adnewyddadwy, gweithio gyda phobl leol, asiantaethau’r llywodraeth a gwyddonwyr. Rydyn ni hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Good Energy, y cwmni sy’n cyflenwi pŵer adnewyddadwy i’r Ymddiriedolaeth.

Nid rhywbeth newydd mo hyn. Mae llosgi coed i gael gwres mor hen â’r mynyddoedd ac mae gan Gymru hanes hir o ddefnyddio pŵer dŵr hefyd. Mae ein tîm ynni’n ailwampio’r hen dechnoleg ac yn datblygu rhai newydd, fel ynni haul ac ynni o bympiau gwres daear, lle mae hynny’n briodol ac yn gweddu i’r lleoliad.

Y dadorchuddio

Rydyn ni wedi buddsoddi £400,000 yn y system fiomas newydd yng Nghastell Penrhyn fydd yn gwresogi tua 100 o ystafelloedd yn y plasty Fictoraidd enfawr yma. Bydd yn lleihau ein hallyriadau carbon ac yn arbed tua £3,000 o flwyddyn mewn biliau gwresogi. Bydd yr arian yma’n cael ei fuddsoddi yn lle hynny yn ein gwaith cadwraeth. 

Agorwyd y bolier biomas yn swyddogol gan aelodau Cynulliad Cymru ar 24 Tachwedd fel rhan o’u taith o amgylch prosiectau ynni Gogledd Cymru. Roedd yn cynnwys ymweliad â Phrifysgol Bangor, sy’n gweithio gyda ni ar gynllun i greu gwres o ddŵr gwastraff Penrhyn. Ym Mwthyn Ogwen, Cwm Idwal, rydyn ni’n datblygu pwmp gwres daear a fydd hefyd yn rhan o gynllun treialu i gyflenwi ynni lleol i’r Dyffryn. 

Meddai Keith Jones, Ymgynghorydd Dulliau Amgylcheddol YG Cymru: “Penrhyn ydy’r brif safle ola’ yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru i gael ei wresogi gan olew. Mae hon yn dipyn o garreg filltir. Mae’n dod â ni gam yn nes at ein huchelgais yn yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru i gynhyrchu 100% o’n hanghenion ynni adnewyddadwy ar y stâd ei hun. Rydyn ni rŵan yn gweithio i geisio rhoi’r un math o system yn lle’r 12% o systemau olew sydd ar ôl yn ein safleoedd llai yng Nghymru.”