Byw gyda newid ar arfordir Cymru

Golygfa o gors Cwm Ivy o’r awyr

Mae ein harfordir wedi hen arfer â newid ond, gyda lefelau’r môr yn debygol o godi hyd at 1 metr yn ystod y 100 mlynedd nesaf ac wrth i’n tywydd droi’n gynyddol stormus, gallwn ddisgwyl i fywyd ar yr arfodir fod o dan hyd yn oed fwy o fygythiad.

Ers rhai blynyddoedd bellach, rydyn ni wedi adnabod darnau o’r 157 milltir o arfordir dan ein gofal yng Nghymru lle gallwn ddisgwyl gweld llifogydd ac erydiad, ac wedi ceisio canfod beth fyddai canlyniadau hynny.  Rydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth wrth drafod sut i reoli ein harfordir yng Nghymru.

Our coastal hotspots (PDF) (PDF / 1.494140625MB) download

Efallai nad yw arfordir sy’n newid yn ddrwg i gyd.  Mae llawer o gynefinoedd yr arfordir, megis twyni tywod a morfa heli, yn newid yn gyson ac mae’r planhigion a’r anifeiliaid sy’n byw yno’n gallu addasu i newidiadau yn yr amgylchedd.

Mae llawer o fywyd gwyllt yr arfordir, fel celyn y môr ar Dwyni Whiteford, Bro Gŵyr, wedi addasu’n wych i symudiadau parhaus yr arfordir
Celyn y môr ar dwyni tywod Whiteford, Bro Gŵyr
Mae llawer o fywyd gwyllt yr arfordir, fel celyn y môr ar Dwyni Whiteford, Bro Gŵyr, wedi addasu’n wych i symudiadau parhaus yr arfordir

Gwasgfa’r Glannau

Mae problemau'n codi pan nad oes modd i'r cynefinoedd hyn symud yn naturiol i'r mewndir.  Maen nhw’n gallu cael eu dal rhwng lefelau’r môr yn codi a seilwaith cadarn megis waliau môr a ffyrdd, a hefyd nodweddion naturiol megis bryniau. Gelwir hyn yn wasgfa'r glannau (‘coastal squeeze’ yn Saesneg). 

Yn ein hadroddiad diweddar, Adroddiad Glannau Ansefydlog (PDF / 1.5703125MB) download , sy’n dangos ein gweledigaeth ar gyfer yr arfordir yn ystod y 10 mlynedd nesaf, rydyn ni’n argymell, lle bo hynny’n bosibl, y dylid osgoi dod yn rhan o gylch drudfawr o adeiladu a thrwsio amddiffynfeydd y môr ac i ganolbwyntio, yn lle hynny, ar weithio gyda natur a cheisio addasu.   

Symud yn ôl

Drwy beidio â chynnal, neu drwy glirio amddiffynfeydd caled rydyn ni’n galluogi cynefinoedd gwerthfawr a phrin i ‘symud yn ôl’ ymhellach i’r mewndir ac i fwy gwydn wrth i lefelau'r môr godi.    Felly, mae’r mannau lle mae’n bosibl i’r glannau symud yn ôl yn hynod bwysig os ydyn ni am gynnal ein bywyd gwyllt rhyfeddol ar yr arfordir.

Cynefinoedd Cydadferol

Mae gwasgfa’r glannau’n golygu fod cymaint â 250 o gaeau pêl-droed o forfa heli yn cael eu colli bob blwyddyn, fwy neu lai.  Os na allwn ni ‘wthio'n ôl’ yr ardal o forfa heli sy’n diflannu, yna bydd rhaid i ni chwilio am safleoedd addas yn rhywle arall.   Mae ein prosiect yng Ngwm Ivy'n enghraifft wych o hyn. 

Morfa heli newydd sbon Cwm Ivy. Bydd hwn, ymhen amser, yn gwneud iawn am golli cynefinoedd tebyg mewn mannau eraill.
Golygfa dros Gwm Ivy, Bro Gŵyr
Morfa heli newydd sbon Cwm Ivy. Bydd hwn, ymhen amser, yn gwneud iawn am golli cynefinoedd tebyg mewn mannau eraill.

Rheoli Adlinio

Rhaid addasu’n gwaith yn ôl natur safleoedd unigol. Mewn rhai mannau, efallai y bydd angen gweithio mewn partneriaeth gyda chymdogion er mwyn i natur allu gwthio’n ôl.  Mewn mannau eraill, bydd rhaid i ni gydweithio â chymunedau i baratoi ar gyfer yr adeg pan fydd cartrefi a busnesau mewn perygl o erydiad neu lifogydd.

Mae’r fideo isod yn dangos rhai o’r ffyrdd rydyn ni'n gweithio gyda natur i geisio gwneud arfordir Cymru'n iach ac yn wydn ar gyfer y dyfodol.

Video

Our future

Find out how we're preparing for the future and some of the challenges associated with climate change. Working towards a healthy, resilient, wildlife rich coastline that future generations can enjoy.