Rôl arfordir Cymru yn ein stori ni

Y mae rhai o’r munudau mawr yn hanes yr Ymddiriedolaeth yn gysylltiedig ag arfordir Cymru. Dysgwch am yr argyhoeddiad cadarn a arweiniodd at roi’r cyfle i ni warchod 157 milltir o arfordir Cymru heddiw.

Dros ganrif yn ôl, fe benderfynodd gwraig hirben o’r enw Fanny Talbot o’r Bermo roi llechwedd gwyllt a di-gyffwrdd o’r enw Dinas Oleu i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a oedd bryd hynny newydd ei sefydlu ers mis yn unig. Roedd hi’n poeni y byddai datblygiadau cyfoes yn amharu ar harddwch y lle, ac felly hi oedd un o’r bobl gyntaf i weld manteision cynnal lleoedd hardd ‘mewn ymddiriedolaeth ar gyfer y genedl’.

Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hynny yn gyfrifol am warchod wyth milltir yn unig o’r morlin, fe ymwelodd yr hanesydd Charles Trevelyan â Sir Benfro. Cafodd fraw o weld sut yr oedd datblygiad yn bygwth harddwch yr arfordir.

" Mae gwarchod yr arfordir yn ei harddwch naturiol yn fater o ddyhead brys."
- George Trevelyan

Dechrau rhywbeth o bwys

Yn 1865, fe ymatebon ni i’r datblygiadau cynyddol ar hyd yr arfordir trwy lansio’r hyn a elwid yn Apêl Menter Neptune bryd hynny, a ddaeth erbyn heddiw yn Ymgyrch yr Arfordir, sef ymgyrch fwyaf llwyddiannus yr Ymddiriedolaeth.

Yn y cyfnod hwnnw, roedd Twyni Whitffordd ar benrhyn Gŵyr yn wynebu dyfodol fel safle cloddio gwastraff. Trwy drugaredd, llwyddwyd i osgoi y bygythiad hwnnw pan brynwyd y lle gan yr Ymddiriedolaeth trwy roddion i Ymgyrch yr Arfordir – ein pwrcasiad cyntaf oll.

Dunes at Whiteford Burrows, Gower
Dunes on the shore of Whiteford Burrows, Gower
Dunes at Whiteford Burrows, Gower

Cynefin twyni tywod

Bellach, mae’r safle yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn un o’r enghreifftiau gorau o gynefin twyni tywod ym Mhrydain, yn darparu hafan i fywyd gwyllt a cherddwyr fel ei gilydd.
Ers hynny, tyfodd ein cyfrifoldeb am y gorau o arfordir Cymru ac ry’n ni’n gwarchod cyfanswm o 157 milltir ohono – cyflawniad rhyfeddol, diolch i’r rhoddion cyhoeddus i’r apêl.

Yn anffodus, ‘dyw’r bygythiad i’n harfordir heb leihau ac yn 2015, pleser mawr i ni oedd gallu arbed bron i 150 erw o weundir a chyfoeth o fywyd gwyllt ar Ben y Gogarth ger Llandudno.