Eleni rydyn ni'n dathlu'r môr yng Nghymru a dydyn ni ddim yn brin o draethau a glannau ar hyd ein llwybrau arfordirol. Dyma restr o'n hoff droeon ger y môr yng Nghymru.
Flwyddyn ddiwethaf buom yn dathlu hanner canmlwyddiant ein Hymgyrch Arfordir Neifion – menter codi arian a lansiwyd ym 1965 mewn ymateb i'r bygythiadau cynyddol o ddatblygu ar yr arfordir. Hanner can mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn diogelu 775 milltir o'n harfordir gwerthfawr yng Nghymru, Lloegr ac Iwerddon – yn cynnwys 157 milltir o arfordir Cymru sydd mor annwyl i chi.
Dewch i ddarganfod pa ran mae mannau fel Dinas Oleu yn Y Bermo a Thwyni Whiteford ar benrhyn Gŵyr wedi chwarae yn hanes yr Ymddiriedolaeth.