Manteision ariannol
Elgan Roberts, Rheolwr y Prosiect Ynni Adnewyddadwy, sy’n egluro pam fod y prosiect hwn mor bwysig i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac i Gastell Penrhyn:
“Bydd y prosiect yma’n amlwg yn well i’r amgylchedd, gan arbed 80 tunnell o allyriadau CO2 bob blwyddyn a chyfrannu at darged yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol o gael 50% o’i ynni o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2020. Ond bydd hefyd o fantais ariannol uniongyrchol i’r eiddo drwy ddod â chostau rhedeg i lawr.